Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Sul 16 Mai 2004 10:23 pm
gan Newt Gingrich
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Pathetig!


Bron mor pathetig a gwrando arnat yn mynd ymlaen ac ymlaen mewn sawl edefyn gwahanol am dy dlodi (honedig). Busnes bach teulu, cyflog bach a rwan methu fforddio dim mwyn na hen dy Cyngor (o y fath warth!)

Ti'n atgoffa dyn o efengylwyr sy'n ymfalchio yn ei haberth a theimlo cymaint y well na phobl eraill.

A chyn i ti gwyno, ti aeth yn bersonnol trwy honni fod byw dramor yn groes i'r ffaith fy mod yn falch o fod yn Gymro.

PostioPostiwyd: Sul 16 Mai 2004 10:32 pm
gan Hedd Gwynfor
Credu mae mewn dwy edefyn yn ymateb i ti! Dim ond dweud y gwir i fi Newt! Dwi erioed wedi honni mod i'n dlawd, dwi'n derbyn cyflog cyffredin iawn yn yr ardal, ond byddwn i siwr o fod yn gllu cal cyflog tipyn gwell os fyswn am symud i Gaerdydd, Llunden neu Milan!

Dwi ddim yn ei weld fel aberth o gwbl. Fan hyn fi am fyw!

Newt ma pawb wei arfer gyda ti'n mynd yn bersonol erbyn hyn, hyd yn oed gyd plant ysgol, felly fi ddim yn disgwyl dim gwell.

PostioPostiwyd: Sul 16 Mai 2004 10:52 pm
gan Newt Gingrich
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Credu mae mewn dwy edefyn yn ymateb i ti! Dim ond dweud y gwir i fi Newt! Dwi erioed wedi honni mod i'n dlawd, dwi'n derbyn cyflog cyffredin iawn yn yr ardal, ond byddwn i siwr o fod yn gllu cal cyflog tipyn gwell os fyswn am symud i Gaerdydd, Llunden neu Milan!

Dwi ddim yn ei weld fel aberth o gwbl. Fan hyn fi am fyw!

Newt ma pawb wei arfer gyda ti'n mynd yn bersonol erbyn hyn, hyd yn oed gyd plant ysgol, felly fi ddim yn disgwyl dim gwell.


Gwranda good boy, sut mae rhywun o fewm maes e fod i wybod os yw cyfranwr yn 16 neu'n 96? Dwi ddim yn un o'r dewisiedig rai sy'n cael y fath wybodaeth so cut the guilt trip.

Yn ail, ti'n rhoi'r argraff fod pawb i fod i barchu dy ddewis fel petaet yn gwneud rhyw aberth foesol (ee cyflog gwell pe byddet yn Nghaerdydd), Beth yn y byd sydd a wnelo hynny a dadleuon megis yw bod yn wlatgar yn beth da neu ddrwg? Hyd y gwelaf dy bwynt yw fod dy bresenoldeb di mewn ty Cyngor yn y fro yn dangos fod da ti fwy o hawl na fi i ddatgan barn am wladgarwch ayb - hunan bwysig ddywedwn i.

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 2:51 pm
gan GT
Newt Gingrich a ddywedodd:Gwranda good boy, sut mae rhywun o fewm maes e fod i wybod os yw cyfranwr yn 16 neu'n 96? Dwi ddim yn un o'r dewisiedig rai sy'n cael y fath wybodaeth so cut the guilt trip.


Y drwg efo ffraeo efo pawb, ydi bod rhywun yn sicr o ffraeo efo ambell un sy'n 16 (14 a bod yn fanwl), ac ambell un sy'n 96. Felly mae tebygolrwydd yn gweithio.

PostioPostiwyd: Sul 06 Meh 2004 12:01 am
gan Newt Gingrich
GT a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Gwranda good boy, sut mae rhywun o fewm maes e fod i wybod os yw cyfranwr yn 16 neu'n 96? Dwi ddim yn un o'r dewisiedig rai sy'n cael y fath wybodaeth so cut the guilt trip.


Y drwg efo ffraeo efo pawb, ydi bod rhywun yn sicr o ffraeo efo ambell un sy'n 16 (14 a bod yn fanwl), ac ambell un sy'n 96. Felly mae tebygolrwydd yn gweithio.


Ohhhh. Hogyn bach GT yn cael cam?

Sa ti'n dysgu'r cradur i sillafu a meddwl yna fe fyddai yna lai o debygolrwydd y byddai'n destun sbort.

PostioPostiwyd: Llun 07 Meh 2004 2:46 pm
gan GT
Wel, wel troi pob ffordd fel cadach yn y gwynt eto Newt.

Newt Gingrich a ddywedodd:Gwranda good boy, sut mae rhywun o fewm maes e fod i wybod os yw cyfranwr yn 16 neu'n 96? Dwi ddim yn un o'r dewisiedig rai sy'n cael y fath wybodaeth so cut the guilt trip.


Yma rwyt yn defnyddio dy anwybyddiaeth honedig o pwy ydi pwy fel esgus tros fod eisiau ffraeo efo plant.

Newt Gingrich a ddywedodd:Sa ti'n dysgu'r cradur i sillafu a meddwl yna fe fyddai yna lai o debygolrwydd y byddai'n destun sbort.


Bellach rwyt wedi anghofio am yr esgus, ac rwyt yn ceisio codi ffrae efo plant eto.

Oes gen ti waelod o gwbl?

Gyda llaw, gan dy fod yn gymaint o un am sillafu, ffurf llafar ydi cradur creadur ydi’r ffurf ysgrifenedig cywir.

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 7:49 am
gan Chris Castle
Mae bod yn Wladgarwr yn peth ddrwg iawn pryd mae'n achosi'r fath o ffraeo sy'n dechrau yma. Gwreiddiau siofiniaeth os nad hiliaeth sydd ynddi.

Mae bod yn wladgarwr yn iawn hyd dyw e ddim yn peri agweddau ffroenuchel ar eraill. Mae synwyr Hunaniaeth dynion yn rwpeth pwysig iddynt. Does hawl 'da neb beirniadu neb am eu hunaniaeth hyd nad yw'n guldeb.

Mae sgwrs yma'n enghraifft perffaith o'r resymau dyw ddim yn Cenedlaetholwr er fy mod i'n cenedlaetholwr.

Gan Bwyll bois. Credwch chi fi
- dwi byth yn gwneud camgymeriadau penboeth o'r fath :winc:

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 9:01 am
gan GT
Chris Castle a ddywedodd:Mae bod yn Wladgarwr yn peth ddrwg iawn pryd mae'n achosi'r fath o ffraeo sy'n dechrau yma. Gwreiddiau siofiniaeth os nad hiliaeth sydd ynddi.

Mae bod yn wladgarwr yn iawn hyd dyw e ddim yn peri agweddau ffroenuchel ar eraill. Mae synwyr Hunaniaeth dynion yn rwpeth pwysig iddynt. Does hawl 'da neb beirniadu neb am eu hunaniaeth hyd nad yw'n guldeb.

Mae sgwrs yma'n enghraifft perffaith o'r resymau dyw ddim yn Cenedlaetholwr er fy mod i'n cenedlaetholwr.

Gan Bwyll bois. Credwch chi fi
- dwi byth yn gwneud camgymeriadau penboeth o'r fath :winc:


Os wyt yn cyfeirio ataf i, dwi ddim yn meddwl fy mod yn son am genedlaetholdeb na Chenedlaetholdeb yma. Ymateb i ymysodiadau personol mwy na dim.

PostioPostiwyd: Maw 08 Meh 2004 10:51 pm
gan Newt Gingrich
GT a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Gwranda good boy, sut mae rhywun o fewm maes e fod i wybod os yw cyfranwr yn 16 neu'n 96? Dwi ddim yn un o'r dewisiedig rai sy'n cael y fath wybodaeth so cut the guilt trip.


Yma rwyt yn defnyddio dy anwybyddiaeth honedig o pwy ydi pwy fel esgus tros fod eisiau ffraeo efo plant.


GT bach, pam wnaethpwyd y sylw uchod doedd gan Newt ddim syniad o dy berthynas efo'r Larseniaid. Ers hynny ti wedi cyfrannu'n helaeth i Maes e gan wneud dy berthynas agos efo nifer o aelodau'r maes yn amlwg. Beth yn union yw dy bwynt felly. Trio bod yn smyg ac yn glyfar eto?

GT a ddywedodd:
Gyda llaw, gan dy fod yn gymaint o un am sillafu, ffurf llafar ydi cradur creadur ydi’r ffurf ysgrifenedig cywir.


Wel da iawn ti GT. O weld fod dy gywirdeb ieithyddol cystal pam ddim dysgu ychydig i dy epil? Neu yw dy waith fel athro yn diweddu am 3.30pm? Agwedd y Guardian reader o fewn y sector cyhoeddus "I've done my 37 hours and that is it". Dyna sut mae pethau gyda ti?

PostioPostiwyd: Mer 09 Meh 2004 7:36 am
gan Chris Castle
GT a ddywedodd:
Os wyt yn cyfeirio ataf i, dwi ddim yn meddwl fy mod yn son am genedlaetholdeb na Chenedlaetholdeb yma. Ymateb i ymysodiadau personol mwy na dim.



Dechreuodd pobl yma'n ffraeo o achos y pwnc a'r Cenedlaethgarwch sawl un yn eu hymatebion.

Mae ymosodiadau personol wedi eu gwahardd rhag Maes-e - dyw ateb iddynt yn gwneud dim ond achosi mwy o ffraeo.
Os oes problem fel 'na'n digwydd dylid cwyno i'r cymerodrolwr neu dechrau edefyn yn y seiat Defnyddio Maes-e i'w trafod nhw'n iawn ydy'r ffordd gorau ymlaen.

Petawn ni ddim moyn trafod Gwladgarwch yma, sef y testun dan sylw, gaf i awgrymu ein bod ni'n symud y sgwrs i'r edefyn yma.