Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Mer 09 Meh 2004 9:46 am
gan GT
Chris - 'dwi wedi ceisio ymweld a'r edefyn 'rwyt yn son amdani - ond nid wyf yn cyrraedd yr unman.

Gan fod cyfraniad Newt fel arfer yn bersonol, ac yn ei gwneud yn amlwg pwy ydw i, efallai y byddi cystal a rhoi cyfle i mi ymateb. 'Dwi'n meddwl bod hynny yn deg. Gadawaf yr edefyn wedyn, a chaiff y sawl sydd am wneud hynny wneud defnydd priodol ohoni.

Newt a ddywedodd:GT bach, pam wnaethpwyd y sylw uchod doedd gan Newt ddim syniad o dy berthynas efo'r Larseniaid.

Mae dy gyfraniad sydd yn cychwyn 'Gwranda gwd boi' wedi ei ddyddio Sul Mai 16, 2004 11:52 pm

Anfonaist neges bersonol sarhaus (ond digon digri chware teg) ataf ar
Mer Ebr 07, 2004 11:52 pm.. Roedd y neges hon yn ei gwneud yn gwbl glir dy fod yn gwybod am fy mherthynas efo'r plant rwyt mor hoff o ffraeo efo nhw. Rwyt wedi ei gwneud yn gwbl glir dy fod yn gwybod pwy ydw i ar sawl achlysur ers hynny - a gwneud hynny yn glir i unrhyw un fyddai a'r gwybodaeth lleiaf amdanof. Nid oes angen gradd mewn mecaneg cwantwm i ddirnad bod Sul Mai 16, 2004 11:52 pm
ar ol Mer Ebr 07, 2004 11:52 pm..

Mae dau bosibilrwydd yma. Efallai bod dy gof yn dechrau cilio efo'r blynyddoedd (sydd yn ddigon naturiol am wn i), neu dy fod, a defnyddio'r term gwleidyddol cwrtais, yn bod yn gynnil efo'r gwirionedd.

Newt a ddywedodd:"I've done my 37 hours and that is it". Dyna sut mae pethau gyda ti?

Mae'n peri mymryn o syndod i mi bod rhywun efo'r diddordeb ysol sydd gennyt yn fy mywyd personol, ddim yn gwybod fy mod yn fy man gwaith o 8 tan 5.

Mae hyn oll yn 'spooky' braidd a dweud y gwir. Nid ti oedd y person yna oedd yn stelcian o gwmpas yr ardd gefn y noson o'r blaen. naci?

PostioPostiwyd: Sad 12 Meh 2004 10:25 pm
gan Newt Gingrich
GT a ddywedodd:

Clyfar iawn eto GT - ond anghywir. Doedd y neges y bu i mi ei hateb DDIM yn cyfeirio at neb - dim ond dyfalu y bu i mi mai fy nhrafodaeth efo y Dr. oedd y sail i'r cyhuddiad - felly lle mae'r gwrthddweud?

Yn ail, falle dy fod yn yr Ysgol erbyn 8 ac adref erbyn 5, ond go brin fod y plantos yn ei gwlau erbyn 5pm?

Efallai dy fod yn rhy brysur yn postio dy gyfraniadau hunan fodlon i MAes e? :winc:

Gyda llaw, byddai stelcio yn dy ardd gefn yn anodd - onid iard gefn sydd gan bobl Twtil?

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:21 pm
gan kingbee
"humanity is my homeland"

jose marti

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2004 10:01 am
gan Dyddgu
Hem. I ddod a ni'n ol at y testun mewn sylw... :rolio:

Mae trafod y pwnc yma i raddau yn anos yn y Gymraeg nag yn y Saesneg, i mi, oherwydd y terminoleg. Rwy'n dueddol i ddilyn yr athronydd Richard Price (18eg Ganrif) efo'i syniadaeth, a fedr ei grynhoi yn y fformiwla "Patriotism is love of one's country. Nationalism is hatred of another's". Ar http://www.geiriadur.net, mae nationalism yn cyfieithu fel cenedlaetholdeb neu cenedlgarwch, a patriotism fel cenedlgarwch neu gwladgarwch. Felly, mae'n eitha anodd diffinio termau yn y Gymraeg os nad ydych chi'n ofauls tu hwnt, ac yn gwybod sut mae'r person arall yn y ddadl yn deall y termau...

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2004 12:44 pm
gan Iesu Nicky Grist
eusebio a ddywedodd:Iesu, dyna posh
Diolch Mr Eusebio.

Cariad: da neu drwg?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2004 2:09 pm
gan Iesu Nicky Grist
Ro'n i ar y ffon gyda'r Samariaid neithiwr yn dweud wrthyn nhw bod y wraig yn fy nghrasu i'n ddi-drugaredd bob nos, ac yn esbonio bo fi'n methu gadael hi, gan fy mod yn eu charu. Ma'r wraig yn dweud ei bod hi'n fy ngharu (fel arfer pan fyddai'm yn symud ar y llawr ar ol crasfa), ac ma' hyn yn ddigon i gadw'm calon fregus yn hapus.

A'r cyngor gefais oedd,

"Mr Iesu Grist, medrwch chi garu beth bynnag yr ydych chi ishe, hyd yn oed os yw hynny'n golygu cael eich clatcho bob nos i CD Dafydd Iwan sy'n styc ar repeat..."

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2004 3:38 pm
gan Cardi Bach
Dyddgu a ddywedodd:Hem. I ddod a ni'n ol at y testun mewn sylw... :rolio:

Mae trafod y pwnc yma i raddau yn anos yn y Gymraeg nag yn y Saesneg, i mi, oherwydd y terminoleg. Rwy'n dueddol i ddilyn yr athronydd Richard Price (18eg Ganrif) efo'i syniadaeth, a fedr ei grynhoi yn y fformiwla "Patriotism is love of one's country. Nationalism is hatred of another's". Ar http://www.geiriadur.net, mae nationalism yn cyfieithu fel cenedlaetholdeb neu cenedlgarwch, a patriotism fel cenedlgarwch neu gwladgarwch. Felly, mae'n eitha anodd diffinio termau yn y Gymraeg os nad ydych chi'n ofauls tu hwnt, ac yn gwybod sut mae'r person arall yn y ddadl yn deall y termau...

Wy'n credu fod hyn yn dod o ddiffiniadau gwahanol cenhedloedd, a ffordd cenhedloedd o edrych ar y byd.

Fi'n 'patrio' ac yn 'nationalist' ac yn 'genedlaetholwr' ac yn 'genedlgarwr'. Mae traddodiad cenedlaetholdeb yng Nghymru yn hollol wahanol i'r diffinaid y mae geiriaduron Saesneg yn roi.

Beth sydd i ddweud fod caru cenedl yn golygu casau cenedl arall? Pan fo hyn yn wir 'Imperialaeth' ydyw, sef wrth gwrs 'Imperialism' nid 'Nationalism'. Mae'n eironig fod y geiriadur Saesneg yn honni mai cenedlaetholdeb yw casau cenhedloedd eraill !

Mae'r diffiniadau, yn fy nhyb i, yn do o ddealltwriaeth - neu ddiffyg dealltwriaeth - o hanes. Mae nhw wedi seilio yn bennaf ar hanes y ganrif ddiwetha, yn arbennig felly Hitler a'r Almaen.

Roedd Hitler yn honi i fod yn genedlaetholwr, felly yn nhyb llunwyr y geiriaduron mae cenedlaetholdeb yn beth drwg, ond imperialaeth oedd gol Hitler, a defnyddio 'cendelaetholdeb' wnaeth e i ennill meddyliau yr Almaenwyr oedd wedi cael crasfa yn y rhfel byd cynta. Yn yr un modd roedd Hitler yn honni i fod yn ddemocrat ac yn sosialydd (dyna lle doth yr enw Nazi o wedi'r cwbwl), ond eto does dim un geiriadur wedi newid eu diffiniad o ddemocratiaeth neu sosialaeth i ymgorffori syniadaethau ffiaidd Hitler.

Yn syml felly mae cenedlaetholdeb yn mynd yn erbyn popeth y mae imperialaeth yn gredu ynddo, ac felly yn null 1984 George Orwell, mae'r 'awdurdodau' (ffor wont of ei betyr wyrd) wedi llwyddo i addasu ystyr gair i ffito mewn i anghenion gwleidyddol yr ymerodraeth.

Mae cenedlaetholdeb - o gael ei arddel yn iawn - yn beth positif sydd yn derbyn ein bod yn gydradd ac oll yn chwarae rhan mewn byd lliwgar a chyfoethog.

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2004 6:14 pm
gan Dyddgu
Cardi Bach a ddywedodd:
Fi'n 'patrio' ac yn 'nationalist' ac yn 'genedlaetholwr' ac yn 'genedlgarwr'. Mae traddodiad cenedlaetholdeb yng Nghymru yn hollol wahanol i'r diffinaid y mae geiriaduron Saesneg yn roi.

Beth sydd i ddweud fod caru cenedl yn golygu casau cenedl arall? Pan fo hyn yn wir 'Imperialaeth' ydyw, sef wrth gwrs 'Imperialism' nid 'Nationalism'. Mae'n eironig fod y geiriadur Saesneg yn honni mai cenedlaetholdeb yw casau cenhedloedd eraill !

Pwy soniodd air am y Saeson? Cymro oedd Richard Price, ac athronwr a gafodd effaith wir bwysig ar athroniaeth boliticaidd y byd - ei draethawd "Cariad at ein Gwlad" a bromptiodd Edmund Burke (Gwyddel) i ysgrifennu "Reflections on the French Revolution."
Ei bwynt oedd i geisio wahanu'r termau er mwyn hybu cenedlgarwch mwy Cristnogol (bod yn falch o'ch cenedl eich hun, heb orfod difenwi cenedl arall). Siwr dduw, mae diffinio termau yn beth da - os oes gennych chi ddau air wahanol am agweddau gwahanol ô'r un peth (sef 'cariad at ein gwlad'), mae'n haws eu trafod nhw. Wedodd neb eich bod chi yn bersonol yn casáu gwlad arall er mwyn caru'ch gwlad eich hun - ond mae digon o bobl yn gwneud, ac mae hynny'n beth a ddylai godi ofn, gan taw dyna symbyliad gwreiddiol imperialaeth (rwy'n well na'r wlad arall, felly rwy'n mynd i'i choncro hi). Yn yr unfed ganrif ar hugain, dylwn ni fod wedi symud ymlaen o orfod cael "Arall" i'w ddemwneiddio er mwyn diffinio'r "Hunan" - ond weler Swdan/Darfur, Simbabwe, Rwanda, ayyb ad nauseam...