Tudalen 1 o 3

Rol Hysbysebu yn ein Cymdeithas?

PostioPostiwyd: Mer 12 Mai 2004 8:45 pm
gan Macsen
Pa rol ych chi'n meddwl mae hysbysebu'n chwarae yn ein cymdeithas? Pa mor bwysig yw e i ffrwythiant bywyd gorllewinol?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 3:47 pm
gan Macsen
Dwi di gorffen y traethawd. Ie, roedd hwn yn ymgais i wneud i bobl Maes-E wneud fy ngwaith i mi. Gewch chi gyd ymateb nawr, y bastads. :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 6:03 pm
gan Dylan
Mae trigolion y maes yn amlwg yn rhy ddoeth i syrthio i dy drap ;)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 6:56 pm
gan Dr Gwion Larsen
mmm, ia rili ma dy waith wedi gorffen nawr dwin meddwl mai tric di hwn i ni ei wneud iti erbyn dydd gwener nesaf! :drwg:

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 7:17 pm
gan Macsen
Dw i wedi gorffen y traethawd. Mi fyswn i'n ei phostio fan hyn ond wn i ddim os ydw i'n cael gwneud hynny cyn iddo gael ei farcio. :?

Re: Rol Hysbysebu yn ein Cymdeithas?

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 8:10 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Pa rol ych chi'n meddwl mae hysbysebu'n chwarae yn ein cymdeithas?


Pa mor bwysig yw e i ffrwythiant bywyd gorllewinol?


Rol? Ei rol yw rhoi gwybod i bobl am gynhyrchion sydd ar gael, i ddenu cwsmeriaid.

Pa mor bwysig? Wel, yn amlwg mae'n ffordd bwysig i gynhyrchwyr gyfathrebu a potensial gwsmeriaid. Yn ogystal, mae'n amlwg ei fod o'n gweithio neu fel arall fuasai busnesau ddim yn trafferth ei wneud.

PostioPostiwyd: Sul 13 Meh 2004 11:16 am
gan kingbee
eithaf sinigaidd, ond

propoganda cyfalafol i gadw ni i brynu, i gadw gyfalafiaeth yn fyw.

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 9:52 am
gan Chris Castle
Tueddu cytuno â Kingbee.

Mae Ret wedi rhoi'r sglein/trwyll cyfalfaethol arni, gydag ei gywirdeb gwleidyddol y de (geiriau neis ydy "cyfathrebu" a "rhoi gwybod be' sy' ar gael").

Nid jyst hysbysebion sydd ar bai i gam arwain pobl i brynu pethau di-werth. Mae Lle pwysig i'r holl dull o farchnata nwyddau.

Megis rhoi siwgr, a llond dwrn o gemegion i mewn i dwr, ychwanegu ychidig o sudd ffrwyth, rhoi enw "Sunny Delight" arni ac yn ei gwerthu fel rwpeth "Iachus" i blant sydd ddim yn gwbod beth sy'n iawn iddyn nhw.

Byddai Ret yn ymateb gyda "dyletswydd rhieni" ond pam y dylai rhieni gorfod ymdrin â chanlyniadau brênwashing ar eu plant yn y lle cyntaf.

a Brênwashing mae YN :!: - yr un peth ydy'r Clown MuckDonalds.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 11:43 am
gan Llewelyn Richards
Gobeithio dy fod wedi edrych ar 'No Logo' gan Naomi Klein, sy'n dadansoddi effaith hysbysebu ar y feddylfryd orllewinol, a'i effaith ar economi'r dwyrain pell.

Mae hefyd yn ddiddorol bod gwledydd Sgandinafaidd yn rheoli pryd y gellir hysbysebu tegannau plant ar y teledu adeg y Nadolig - syniad da a doeth yn fy marn bach bitw.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 1:13 pm
gan Siffrwd Helyg
Damo! Fi newydd neud arholiad 6 awr (wedi ei rannu i dwy sesiwn dair awr cyn i chi ofyn), am effaith hysbysebu. Typical de! :rolio: