Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 2:32 pm
gan Dylan
O'n i'n gwylio un o'r sianeli plant ar Sky gynna (Boomerang 'dw i'n meddwl) a daeth hysbyseb am rhyw gynllun pensiwn i fyny. Maent yn gyfarwydd iawn â'u cynulleidfa darged, yn amlwg.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 3:40 pm
gan Dwlwen
Mae'n bownd o swnio'n ddwl (ho hum) ond wy'n credu fod lot o wirionedd yn lyrics Sega Segur - 'mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu'.

Mae strwythurau hen gredoau cymdeithas 'di chwalu braidd i'r mwyafrif, a mae'n gallu codi ofn cymaint 'neith rhai bobl 'vulnerable' lynnu wrth honiadau hysbysebion fel gobaith o rhyw fywyd gwell. Rol hysbysebu yw cymryd mantais o'n gobeithion mwya 'desperate' er mwyn gwneud arian... sai'n gweud mai'r un nôd sy gan crefydd, ond wy'n meddwl bo 'na gyflunedd ma'n rhywle.

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 8:31 pm
gan Gwilym
Unrhyw esgus i gael rant . . .

Mae hysbysebion, fel rhan o'r diywlliant 'lifestyle' yn creu cyd-destun er mwyn i aleodau'n cymdeithas brofi 'bywyd emosiynol' cymdethasol, h.y. perthynas emsoiynol a rhyw gymmuned (boed hi'n un wir neu ffug fel yn achos y gorllewin) gan fod yr hen gysylltiadau cymmunedol (a oedd arfer darparu'r berthynas) wedi hen farw. Mae hysbysebion yn benodol yn defnyddio delweddau sy'n bwysig i ni'n seicolegol er mwyn cyffwrdd a'r cynddelwau (?) / archetypes sydd yn rhan anotod o'r isymwybod / enaid. Roedd Freud a Jung, fel mae nifer o'u dilynwyr, yn gweld y cynddelwau hyn fel deinamig yn y seici oedd yn anatod i weithgaredd emosiynnol yr unigolyn. Drwy stimiwletio'r cynddelwau hyn mae'r hysbyseb yn creu adnabyddiaeth yn yr ymwybod, ac felly'n ennyn ymateb emosiynnol, er mor fach a di-nod yw hi. Y broblem ydi fod y defnydd newydd hwn o ddeinamig yr isymwybod yn cyflyru ac yn ail ffurffio'r hen gynddelawu. Mi fysech chi'n medru dadlau fod codau cymdeithasol y diwylliant 'life-style' (sydd yn ddibynnol ar ddefnyddio arddulliau o 'fyw' sydd wedi eu darparu ar ein cyfer gan ddylanwadau allanol i'r gymdeithas 'naturiol') yn difa ac yn ail-greu'r hen gynddelwau ar ffurfiau newydd sydd yn addas ar gyfer cymryd mantais o bobl yn emosiynol er mwyn gwerthu nwyddau nad ydynt angen iddynt (drwy wneud iddynt gredu fod eu pryniant o'r nwyddau yn cynrychioli perthynas gymmunedol) i barhau'r sustem gyfalfol erchyll 'ma . . . bla . . . bla . . . bla . . . bla . . . God mae'r byd yn sceri weithaiu.

Chwyldro! Rhaid ail feddiannu'r seici a'r enaid er mwyn bod yn rhydd o afael gormeswyr!

Sori, chydig bach yn ecseited wan . . .

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 9:32 pm
gan Realydd
Yr unig ffordd i wneud siwr fod chi ddim yn cael eich conio dyddie yma yw 1. dysgu cymaint a gallwch am y cynnyrch chi'n meddwl ei brynu 2. siopio o gwmpas a cymharu'r cynnyrch hefo beth arall sydd ar gael ar y farchnad.

Y rheswm fod pobl yn cael eu conio ac yn talu mwy nag sydd raid am gynnyrch yw gan fod nifer o bobl yn rhy ddiog i wneud y gwaith o siopio o gwmpas a cymharu cynhyrchion.

Yn ddiweddar dwi'n trio'n galed i ymchwilo mewn i bethau cyn eu prynu. Mae posib gwneud savings mawr drwy wneud hyn. Nid yw o'n deimlad neis ffeindio allan fod rhywbeth a brynoch am £100 mewn siop ar gael am £80 mewn siop arall. Ond yn anffodus nid yw pobl hefo'r amynedd a'r brwdfrydedd, a falle chwaith heb yr amser i chwilio o gwmpas am y del gorau.

Mae'r diogi yma'n rywbeth mae cwmniau'n gwybod amdano ac yn elwa'n aruthrol ohono. Sbiwch elw mae'r banciau'n wneud a gymaint mae nhw'n trio eich cael chi i agor cyfri hefo nhw mor ifanc a phosib gan fod nhw'n gwybod fod rhan fwyaf o bobl yn aros hefo'r un banc trwy gydol eu hoes.

Fy neges yw os ydych chi'n prynu rhywbeth ar sail hysbyseb yn unig, heb wneud unrhyw ymchwil mewn i'r cynnyrch na'r farchnad, yna tough luck. Dim bai yr hysbyseb yw, ond eich bai chi am fod mor ddiog, a rydych yn cael eich conio/cosbi am eich diogi.

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 10:43 pm
gan pogon_szczec
Mae hysbyseb da yn gwneud byd o wahaniaeth.

Mae'n ANGHREDADWY !!!

http://www.go4it.home.pl

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 1:07 am
gan Macsen
pogon_szczec a ddywedodd:Mae hysbyseb da yn gwneud byd o wahaniaeth.

Mae'n ANGHREDADWY !!!

http://www.go4it.home.pl


Rho'r gorau i sbamio dy wefan y tew. Boycott! :winc:

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 10:48 am
gan nicdafis
Trafodaeth am <b>hysbysebu</b> yw hwn, nid am wefan pogon, baner Jac yr Undeb ac yn sicr nid am y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon. Dw i'n gwybod bod popeth yn arwain o honna yn y pen draw, ond gawn ni jyst <i>esgus</i> yn yr edefyn bach hwn bod llaw coch Wlster yn amherthnasol i rôl hysbysebu yn y gymdeithas?

Diolch.

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 10:55 am
gan nicdafis
Dw i wedi dileu sylwadau amherthnasol gan Eammon, pogon a GT, felly dydy fy neges uchod ddim yn wneud unrhyw sens o gwbl.

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 12:06 pm
gan Blewyn
Realydd, tybed os ti'n gwneud gymaint o ymdrech i ystyried a wyt ti angen y pethau ti'n brynu o gwbl a ti'n gwneud i ffendio 'bargen'. Tydi £20 off rhywbeth ti ddim wir angen ddim yn £20 off o gwbl....

Nest ti ddarllen y neges uwchben d'un di ?

Hwyl,

Blewyn

PS Bob tro dwi'n cynilo digon i fedru afforddio rhywbeth na fedrwn ei afforddio gynt, dwi'n ffendio 'mod i'm isho'r peth gymaint ag on i'n meddwl....

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 12:14 pm
gan GT
nicdafis a ddywedodd:Trafodaeth am hysbysebu yw hwn, nid am wefan pogon


Defnyddio'r edefyn i hysbysebu gwneuthurwr ei wefan oedd pogon_szczec. 'Roedd y drafodaeth (boncyrs braidd, mae'n rhaid cyfaddef) a ddilynodd yn trafod yr hysbyseb. 'Roedd gan Eamon bwynt - er bod y pwynt hwnnw wedi ei fynegi mewn modd ymfflamychol (er mwyn gwylltio pogon_szczec debyg). Ydi Jac yr Undeb yn erfyn hysbysebu cadarnhaol neu negyddol mewn gwledydd y tu allan i'r DU? Mae hon cystal edefyn a'r un i drafod hyn am wn i.