gan Gwilym » Iau 02 Medi 2004 8:31 pm
Unrhyw esgus i gael rant . . .
Mae hysbysebion, fel rhan o'r diywlliant 'lifestyle' yn creu cyd-destun er mwyn i aleodau'n cymdeithas brofi 'bywyd emosiynol' cymdethasol, h.y. perthynas emsoiynol a rhyw gymmuned (boed hi'n un wir neu ffug fel yn achos y gorllewin) gan fod yr hen gysylltiadau cymmunedol (a oedd arfer darparu'r berthynas) wedi hen farw. Mae hysbysebion yn benodol yn defnyddio delweddau sy'n bwysig i ni'n seicolegol er mwyn cyffwrdd a'r cynddelwau (?) / archetypes sydd yn rhan anotod o'r isymwybod / enaid. Roedd Freud a Jung, fel mae nifer o'u dilynwyr, yn gweld y cynddelwau hyn fel deinamig yn y seici oedd yn anatod i weithgaredd emosiynnol yr unigolyn. Drwy stimiwletio'r cynddelwau hyn mae'r hysbyseb yn creu adnabyddiaeth yn yr ymwybod, ac felly'n ennyn ymateb emosiynnol, er mor fach a di-nod yw hi. Y broblem ydi fod y defnydd newydd hwn o ddeinamig yr isymwybod yn cyflyru ac yn ail ffurffio'r hen gynddelawu. Mi fysech chi'n medru dadlau fod codau cymdeithasol y diwylliant 'life-style' (sydd yn ddibynnol ar ddefnyddio arddulliau o 'fyw' sydd wedi eu darparu ar ein cyfer gan ddylanwadau allanol i'r gymdeithas 'naturiol') yn difa ac yn ail-greu'r hen gynddelwau ar ffurfiau newydd sydd yn addas ar gyfer cymryd mantais o bobl yn emosiynol er mwyn gwerthu nwyddau nad ydynt angen iddynt (drwy wneud iddynt gredu fod eu pryniant o'r nwyddau yn cynrychioli perthynas gymmunedol) i barhau'r sustem gyfalfol erchyll 'ma . . . bla . . . bla . . . bla . . . bla . . . God mae'r byd yn sceri weithaiu.
Chwyldro! Rhaid ail feddiannu'r seici a'r enaid er mwyn bod yn rhydd o afael gormeswyr!
Sori, chydig bach yn ecseited wan . . .