Cartwnyddion wleidyddol

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 10:35 am

Sioni Size a ddywedodd:Rhaid cytuno a Garnet eto - dydi Steve Bell jysd ddim digon siarp, i gymharu hefo cartwnwyr gwych y Times a'r Mail er enghraifft, a'u holl ymdrechion cofiadwy a'u dawn sgwenu aruthrol.


Ei gymharu fo a Gary Trudeau ydw i, nid cartwnydd y Mail (oherwydd - ho, ho, ho - mae pobl asgell dde yn darllen y Mail, ac yn dy fyd bach du a gwyn di, mi ydw i'n "Asgell dde". Clyfar iawn.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 10:36 am

Ma'n ddau ddull hollol wahanol o ddigrifiwch. Ma fel cymharu 2DTV a Have I Got News For You. Dwi'n medwl bod y ddau yn wych, 2DTV am y jocs syml, a HIGNFY am jocs 'treiddgar' a clyfar
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 10:42 am

Cwlcymro a ddywedodd:Ma'n ddau ddull hollol wahanol o ddigrifiwch. Ma fel cymharu 2DTV a Have I Got News For You. Dwi'n medwl bod y ddau yn wych, 2DTV am y jocs syml, a HIGNFY am jocs 'treiddgar' a clyfar


Dwi'n cytuno - fel y deudis i uchod, mater o chwaeth personol ydi o.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Macsen » Mer 26 Mai 2004 2:46 pm

Talent Bell ydi i amlygu'r gwallgofrwydd ymhob pwnc mae o'n ei thaclo.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Chwadan » Mer 26 Mai 2004 3:05 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Rhaid cytuno a Garnet eto - dydi Steve Bell jysd ddim digon siarp, i gymharu hefo cartwnwyr gwych y Times a'r Mail er enghraifft, a'u holl ymdrechion cofiadwy a'u dawn sgwenu aruthrol.


Ei gymharu fo a Gary Trudeau ydw i, nid cartwnydd y Mail (oherwydd - ho, ho, ho - mae pobl asgell dde yn darllen y Mail, ac yn dy fyd bach du a gwyn di, mi ydw i'n "Asgell dde". Clyfar iawn.)

Hyd yn oed os di Mac yn y Mail yn asgell dde, mae o'n wirioneddol ddoniol.

Delwedd

Ma hwn yn hen ac ella ddim mor berthnasol, ond dwi'n dal i feddwl fod o'n reit dda :)
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan krustysnaks » Mer 26 Mai 2004 3:26 pm

mae'r rhai anifeiliaid yn y sunday times fel arfer yn dda hefyd. a'r rhai bach ar gefn y news review.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Dan Dean » Mer 26 Mai 2004 3:39 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Be sy'n wych am Bell ydi dy fod di'n clywad llais y person wrth ddarllen y geiria.


Hollol. Sylwer ar ffor ma Bush yn dweud "Character and courage" yn hwn!

Delwedd
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Ffinc Ffloyd » Mer 26 Mai 2004 11:27 pm

Mae Garnet yn iawn - mater o chwaeth ydi o. Dwi'n bersonol wrth fy modd efo Steve Bell (wedi deud hynny, does gen i'm llawer o brofiad o gartwns eraill) achos dwi'n meddwl ei fod o'n gwneud ei bwyntiau mewn ffordd gwirioneddol ddoniol. Mae pethau fel Doonesbury heb os yn glyfrach, ond ddim mor ddoniol lle dwi'n y cwestiwn - dwi'n fwy tebygol o feddwl bod rwbath gan Doonesbury yn glyfar nac ydw i i feddwl ei fod o'n ddoniol, a dwi'n meddwl ei fod o braidd yn hit-or-miss achos ei fod o weithiau'n rhy glyfar - mae'r pwynt yn rhy sytl. Mater o chwaeth yn unig. Oes yna rhywun yma sy'n licio Dilbert? Ma hwnnw'n ddoniol, lle dwi'n y cwestiwn.

Ydi'r pengwins gwallgof dal yn If...? Ma gen Dad un lyfr o gasgliad o cartwns Steve Bell o 1984 dwi'n meddwl, a'r cymeriadau cyson ydi'r pengwin yma a'i sidekick put-upon dynol. Dwi'm wedi gweld If... yn ddigon aml i sylwi os ydi o yna neu ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 26 Mai 2004 11:36 pm

Fy hoff gartwnau:

1) Gary Larson

Delwedd

2) Calvin and Hobbes

Delwedd
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dan Dean » Mer 26 Mai 2004 11:56 pm

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Ydi'r pengwins gwallgof dal yn If...? Ma gen Dad un lyfr o gasgliad o cartwns Steve Bell o 1984 dwi'n meddwl, a'r cymeriadau cyson ydi'r pengwin yma a'i sidekick put-upon dynol. Dwi'm wedi gweld If... yn ddigon aml i sylwi os ydi o yna neu ddim.


Gin i rhai 1984 fyd! Ti di gweld un efo Thatcher yn trio lladd ei hun? "I'd forgotten how difficult it is to bump oneself orff when one is made of solid steel!" A hefyd Duke Caeredin yn hela, "give me another gun and fetch me a clean pair of trizers...good lord! i've just blown my head orff!"
Mae'r Pengwins dal yna weithiau, ond dim hannar gymynt nag oeddynt.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai