Cartwnyddion wleidyddol

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cartwnyddion wleidyddol

Postiogan Dan Dean » Maw 25 Mai 2004 10:43 pm

Mae na lot o rhai da o gwmpas, ond i mi does neb yn curo, nac yn agos at Steve Bell

Mae'r boi yn huleriys!

Ffefryna:

Delwedd

Delwedd

hefyd rhain:

Clic

Clic

Clic

:D :lol:

Ma gin i rhai o'i lyfra hefyd. Jiniys.

Oes rhywyn arall cystal?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 25 Mai 2004 10:57 pm

Dwli ar hwn hefyd...

Delwedd

Mae Doonesbury'n eitha' da hefyd...

Delwedd
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Macsen » Mer 26 Mai 2004 1:18 am

Un heddiw yn reit dda*.

Delwedd

*Cyn i neb bwyntio fo 'mas, mi wn i fod o'n fory.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 8:15 am

Unwaith eto, dwi'n goro tynnu'n groes. Mae gwaith Steve Bell yn uffernol. Artist gwych, ond toes ganddo fo ddim syniad sut i sgwenu. Ella mai jysd peth personol ydi o, a bo fi ddim yn dallt ei hiwmor, ond tydi'r un o'r enghreifftiau uchod yn gneud i mi wenu, hyd yn oed. Ar y llaw arall, mae Doonesbury yn hollol wych, a tydi penderfyniad y Guardian i osod y ddau strip wrth ochra' eu gilydd yn gneud dim byd ond tynu sylw at wendidau Bell.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 9:35 am

Ma'n raid i fi ddeud fod y cartwn Gay Wedding, Shake Hands a Yrup yn uffernol o ddoniol!!
Ma Doonesbury yn fwy hit and mioss i fi. Yr un yna yn ddoniol, ond weithia dwi jusd ddim yn gweld be sy'n ddoniol!
Doonesbury yn rhoi ei golofn gyfa wythnos nesa (yn America) i restru'r milwyr Americanaidd sydd wedi ei lladd hyd yn hyn yn Irac.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dan Dean » Mer 26 Mai 2004 9:57 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae gwaith Steve Bell yn uffernol. Artist gwych, ond toes ganddo fo ddim syniad sut i sgwenu. Ella mai jysd peth personol ydi o, a bo fi ddim yn dallt ei hiwmor, ond tydi'r un o'r enghreifftiau uchod yn gneud i mi wenu, hyd yn oed. Ar y llaw arall, mae Doonesbury yn hollol wych, a tydi penderfyniad y Guardian i osod y ddau strip wrth ochra' eu gilydd yn gneud dim byd ond tynu sylw at wendidau Bell.


Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi clywad y fath beth. Be ti'n feddwl sgin o fo ddim syniad sut i sgwenu? Mae gan Bell y talent o newid geiriau fel eu bod yn cyfateb i'r ffordd mae pwy bynnag sydd yn siarad yn ei ddeud o. Mae Doonesbury yn hollol amaturaidd i'w gymharu, a dwi hefyd yn eitha hoff o'i waith!
Wrth gwrs ganddo syniad sut i sgwenu!

Garnet Bowen, mewn edefyn arall a ddywedodd:Nic, oes posib cael gwenoglun sy'n cynrychioli dyn yn dal ei ben yn ei ddwylo, yn wylo yn hidl, wedi torri ei galon?

Eiliaf eiriau Garnet. :rolio:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 10:18 am

Dan Dean a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi clywad y fath beth. Be ti'n feddwl sgin o fo ddim syniad sut i sgwenu? Mae gan Bell y talent o newid geiriau fel eu bod yn cyfateb i'r ffordd mae pwy bynnag sydd yn siarad yn ei ddeud o. Mae Doonesbury yn hollol amaturaidd i'w gymharu, a dwi hefyd yn eitha hoff o'i waith!
Wrth gwrs ganddo syniad sut i sgwenu!


Fel ddeudais i, ella mai wbath personol ydi hiwmor. Dwi jysd ddim yn gweld lle mae'r joc gan Bell, yn aml iawn. Fel yn yr enghraifft uchod, efo'r boi yn deud

"This was no normal wedding, this was clearly a gay terrorist wedding."

Mi fedrai weld be mae o'n trio ei wneud, ond dio ddim yn dod a gwen i'n ngwyneb i. Does 'na'm ergyd yna. Mae'n trio cyfuno bomio'r briodas yn Irac, a priodasau hoyw yn America. A mae o'n llwyddo i'w cyfuno nhw, ond ddim i wneud joc o'r peth.

A mae hyn i'w weld mor aml yn y cartwn 'If...', lle mae 'na un joc syml ofnadwy (e.e. John Prescott fel bulldog) yn rhedeg am flynyddoedd lawer, heb fynd i nunlle. Dwi'n teimlo fod y syniad o John Prescott fel bulldog yn ddigon digrif yn ei hun, ond mae'n rhaid i'r bulldog wneud wbath doniol wedyn i gynnal fy niddordeb i.

Ella ei fod o jysd yn rhy swreal. Mae'n well gen i Doonesbury am ei fod o'n fwy cynil, efo'r teip o hiwmor sych, realistic dwi'n ei licio.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 10:20 am

Be sy'n wych am Bell ydi dy fod di'n clywad llais y person wrth ddarllen y geiria.

Sbia ar yr un Yrup. Ti'm yn clwad George Bush yn glir pan ma'n son am y lightsabre?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Mer 26 Mai 2004 10:23 am

Rhaid cytuno a Garnet eto - dydi Steve Bell jysd ddim digon siarp, i gymharu hefo cartwnwyr gwych y Times a'r Mail er enghraifft, a'u holl ymdrechion cofiadwy a'u dawn sgwenu aruthrol. Ond beth sy'n synnu rywun ydi fod darllenwr mor frwd o'r Guardian a Garnet yn amau nad ydi o'n deall ei hiwmor eto. Er hynny, uffernol - dyna di'r unig air i'w ddisgrifio. Dydi Steve jysd ddim yn deall sut mae'r byd yn troi a'r penderfyniadau anodd sydd gan ein harweinwyr i'w wneud.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 10:33 am

Cwlcymro a ddywedodd:Be sy'n wych am Bell ydi dy fod di'n clywad llais y person wrth ddarllen y geiria.

Sbia ar yr un Yrup. Ti'm yn clwad George Bush yn glir pan ma'n son am y lightsabre?


Ond mae'r joc hono mor syml

1) Mae George Bush yn cael trafferth siarad yn iawn.
2) Mae George Bush yn licio chwarae efo arfau.

Dwi'n meddwl fod dehongliad Gary Trudeau o Bush - y frat-boy anweledig yn ei het cowboi, sy'n cael trafferth dilyn y newidiadau polisi sy'n cael eu gweithredu o'i gwmpas gan leisiau anhysbus o fewn i'r Ty Gwyn - yn lot mwy treiddgar a chrafog.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron