Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 8:14 am
gan Chwadan
GDG a ddywedodd:2) Calvin and Hobbes

Dwi'n licio Calvin a Hobbes ers i ni gal un i'w ddadansoddi mewn gwers Saesneg :D

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 8:59 am
gan Madrwyddygryf
Os ewch i MSN, mae na casgliad gwych o gartwns.

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 9:52 am
gan Cwlcymro
Genai tua 7 o lyfrau Calvin and Hobbes. Ma nhw wir yn wych!!

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 11:15 am
gan Rhodri
Gath gwaith 'illustration' fi ei gymharu i gwaith Steve Bell mewn tiwtorial wsnos dwytha. Credaf mai ffordd i godi fy nghalon oedd hyn ar ol deud nad on i yn medru tynnu llun....... wancars.

Diolch i Dan Dean fy mod yn gwybod pwy oedd Steve Bell yn lle cyntaf er mwyn i mi gael eistedd yna yn cogio mod i wedi trio dilyn ei arddull!

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 11:23 am
gan Ffinc Ffloyd
Dan Dean a ddywedodd:Gin i rhai 1984 fyd! Ti di gweld un efo Thatcher yn trio lladd ei hun? "I'd forgotten how difficult it is to bump oneself orff when one is made of solid steel!" A hefyd Duke Caeredin yn hela, "give me another gun and fetch me a clean pair of trizers...good lord! i've just blown my head orff!"
Mae'r Pengwins dal yna weithiau, ond dim hannar gymynt nag oeddynt.


Ma'r un efo Prince Philip yn saethu ei hun ac yn dechra siarad fatha rhywun o Gaeredin yn un o'n ffefryna i o'r llyfr yna, fel yr un sy'n portreadu teulu Margaret Thatcher fel y teulu Ewing o Dallas.

Prince Philip Albanaidd: (wrth weld y Frenhines efo corgis): "Mahgoad! Issa Hoonds of Hail!"

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 11:24 am
gan Cwlcymro
Erthygl am Doonesbury yn adran G2 o'r Guardian heddiw. Yn cynnwys rhyw 10 strip o'r carwtn (yn cynnwys dau o'r rhei mwya 'contrefyrsial' diweddar, y cynnig o $10,000 i unrhwyun ellith brofi fod Bush yn deud y gwir am lle oedd o yn ystod Vietnam, a'r un efo'r cymeriad yn colli ei goes yn Fallujia)