Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod Singer yn llunio dadl glyfar iawn. Be mae o'n ei wneud ydi creu dadl gref dros fedru gwneud rhywbeth cwbwl erchyll i bobl, er mwyn tynnu sylw at y pethau erchyll 'da ni'n ei gwneud i anifeiliaid. Dwi ddim yn meddwl ei fod o o ddifri am ladd babis newydd-anedig, ac mai dim ond shock tactic i geisio'n cael ni i beidio a lladd anifeiliaid ydi hyn.
Mi oedd 'na gyfweliad efo Singer yn yr Independent y diwrnod o'r blaen. Mi oedd y mater efo babis newydd-anedig wedi codi yno hefyd. Mi oedd o'n reit glir ei fod yn sôn yn benodol am rai sydd, er enghraifft, wedi cael eu geni heb ymennydd uwch (sef efo coesyn yr ymennydd yn unig), neu efo
spina bifada.
Eisoes, mewn rhai achosion, bydd babis yn y groth yn cael eu lladd os ceir gwybod bod arnyn nhw anableddau fyddai'n amharu yn llwyr ar unrhyw fath o safon bywyd iddyn nhw. Dydi Singer ond am ymestyn y rhesymeg yna i fabis y tu allan i'r groth. Dw i'n gweld hynny dipyn yn llai erchyll na gorfodi rhyw fywyd cachlyd ar y naw ar y trueniaid, ac yn llai erchyll o bell na difa babis hollol iach yn y groth achos dydi o ddim yn siwtio'r yrfa neu'r
lifestyle neu beth bynnag.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.