Marwolaeth a Lladd

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 30 Meh 2004 5:08 pm

Aye, fethish i gan fwyaf o'r rhaglen gynta am fy mod i'n gliwd i Wife Swap :rolio: :lol: :wps: Ond da chi'n iawn mi oedd Lawson i'w weld allan o'i ddyfnder yn llwyr. Pam na chawson nhw athronydd arall allai dreiddio'n fwy critigol a rili dod a'r ddadl yn fyw. A wel.

Cofio darllan ei sdwff o'n coleg, mae'r ideal utilitarianism yn gyffredinol yn un hynod apelgar ond eto pan mae rhywun fel Singer yn mynd at cul de sac logical y ddadl mae'n gallu bod yn reit ddychrynllyd. Wedi deud hynny, mae'n bosib mynd a bopeth i eithaf tydi.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Garnet Bowen » Iau 01 Gor 2004 7:46 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Aye, fethish i gan fwyaf o'r rhaglen gynta am fy mod i'n gliwd i Wife Swap :rolio: :lol: :wps: Ond da chi'n iawn mi oedd Lawson i'w weld allan o'i ddyfnder yn llwyr. Pam na chawson nhw athronydd arall allai dreiddio'n fwy critigol a rili dod a'r ddadl yn fyw. A wel.

Cofio darllan ei sdwff o'n coleg, mae'r ideal utilitarianism yn gyffredinol yn un hynod apelgar ond eto pan mae rhywun fel Singer yn mynd at cul de sac logical y ddadl mae'n gallu bod yn reit ddychrynllyd. Wedi deud hynny, mae'n bosib mynd a bopeth i eithaf tydi.


Dwi'n meddwl fod Singer yn llunio dadl glyfar iawn. Be mae o'n ei wneud ydi creu dadl gref dros fedru gwneud rhywbeth cwbwl erchyll i bobl, er mwyn tynnu sylw at y pethau erchyll 'da ni'n ei gwneud i anifeiliaid. Dwi ddim yn meddwl ei fod o o ddifri am ladd babis newydd-anedig, ac mai dim ond shock tactic i geisio'n cael ni i beidio a lladd anifeiliaid ydi hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 02 Gor 2004 7:43 am

Garnet Bowen a ddywedodd: Dwi ddim yn meddwl ei fod o o ddifri am ladd babis newydd-anedig, ac mai dim ond shock tactic i geisio'n cael ni i beidio a lladd anifeiliaid ydi hyn.


Ti'n siwr? Dio ddim yn edrych y math o foi a fyddai seilio ei syniadaeth sylfaenol ar rwbeth tydi io ddim yn ei wir goelio ynddo. Ti'n meddwl taw dim byd ond fraud mawr ydi o felly :?
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 02 Gor 2004 8:22 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod Singer yn llunio dadl glyfar iawn. Be mae o'n ei wneud ydi creu dadl gref dros fedru gwneud rhywbeth cwbwl erchyll i bobl, er mwyn tynnu sylw at y pethau erchyll 'da ni'n ei gwneud i anifeiliaid. Dwi ddim yn meddwl ei fod o o ddifri am ladd babis newydd-anedig, ac mai dim ond shock tactic i geisio'n cael ni i beidio a lladd anifeiliaid ydi hyn.


Mi oedd 'na gyfweliad efo Singer yn yr Independent y diwrnod o'r blaen. Mi oedd y mater efo babis newydd-anedig wedi codi yno hefyd. Mi oedd o'n reit glir ei fod yn sôn yn benodol am rai sydd, er enghraifft, wedi cael eu geni heb ymennydd uwch (sef efo coesyn yr ymennydd yn unig), neu efo spina bifada.

Eisoes, mewn rhai achosion, bydd babis yn y groth yn cael eu lladd os ceir gwybod bod arnyn nhw anableddau fyddai'n amharu yn llwyr ar unrhyw fath o safon bywyd iddyn nhw. Dydi Singer ond am ymestyn y rhesymeg yna i fabis y tu allan i'r groth. Dw i'n gweld hynny dipyn yn llai erchyll na gorfodi rhyw fywyd cachlyd ar y naw ar y trueniaid, ac yn llai erchyll o bell na difa babis hollol iach yn y groth achos dydi o ddim yn siwtio'r yrfa neu'r lifestyle neu beth bynnag.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dielw » Gwe 02 Gor 2004 8:42 am

owain llwyd a ddywedodd:Dw i'n gweld hynny dipyn yn llai erchyll na gorfodi rhyw fywyd cachlyd ar y naw ar y trueniaid, ac yn llai erchyll o bell na difa babis hollol iach yn y groth achos dydi o ddim yn siwtio'r yrfa neu'r lifestyle neu beth bynnag.

Pwy sy'n penderfynu bod o'n fywyd cachlyd gyda anabledd? Ti?

Dwi angen mwy o amser i gnoi ar y mater o erthylu. Dwi heb penderfynu be dwi'n gredu'n iawn.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 02 Gor 2004 8:57 am

Dielw a ddywedodd:Pwy sy'n penderfynu bod o'n fywyd cachlyd gyda anabledd? Ti?


O sbio ar y peth o ongl arall, mi ellith rhywun holi dy resymau dithau dros feddwl bod chdi'n gwneud cymwynas efo rhywun heb fawr o ymennydd drwy eu gorfodi i fodoli (achos dw i ddim yn meddwl mai 'byw' ydi'r gair addas yn y cyd-destun yna).

Pwy sy'n penderfynu? Yn ôl Singer, teuluoedd yr unigolion dan sylw drwy ymgynghori efo panel o arbenigwyr ar foeseg meddygol (neu rywbeth fel 'na). Penderfynu fesul achos, ynde.

Debyg gallsai pobl efo hyfforddiant meddygol sy'n arbenigo mewn astudio poen ddarparu arweiniad ynghylch safon bywyd. Eto, fesul achos.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dielw » Gwe 02 Gor 2004 10:50 am

Ie, gweld be ti'n feddwl. Falch bod fi ddim yn gorfod meddwl llawer am y pwnc.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron