[Nid edefyn am Miss Marwolaeth yw hwn, gwaetha'r modd!]
Dw i wedi bod yn ysgrifennu nofel yn ddiweddar, ac yn y nofel hwnnw mae un o'r cymeriadau yn gwneud ei fywoliaeth o ladd. Dwi'n ceisio gwneud sens o feddwl y cymeriad yma, gan fod ei farn o mor wahanol i fy un i. Be ydw i'n ceisio ei ddarganfod yw dadleuon sydd o blaid lladd. Felly rhowch eich capiau lladdywr cornfleks ar eich penau ac i ffwrdd a ni! Cofiwch fy mod i'n ceisio dadlau o POV y cymeriad fan hyn, cyn i chi ffonio'r heddlu. Dyw ei POV fo ddim yn adlewyrchu fy un i mewn unrhyw ffordd. Dyma dadleuon fy nghymeriad o blaid lladd hyd yn hyn:
Dyw lladd, os yw'r person a laddwyd ddim yn teimlo dim ofn marwolaeth nag poen wrth farw, ddim yn gas o gwbwl i'r person (Mae'r ddadl yma'n ddibynnol ar gymeryd nad oes bywyd ar ol marwolaeth). Mae marwolaeth yn fwy o boendod i'r rhai oedd yn agos i'r un a'i laddwyd na'r boi ei hun, ac os nad oes dim o'r rheini mae'n bosib lladd person heb wneud dim wir o'i le.
Mae rhyfel llawn gymaint o ofn marw a poen yn barod, dyw unrhyw ofn marw neu/a poen wedi ei greu gan y lladdwr ddim wir yn cyfri, gan fod y boi yn ofn marw ac debyg mewn poen yn barod.
Mae dienyddio rywun am drosedd yn llai cas na gadael iddo bydru yn y carchar am bumdeg mlynedd. Beth yw tri mis o boen, ac yna dienyddiad heb boen iw gymharu a pum deg mlynedd o fyw yn hollol anghyffyrddys?
Dyw'r dadl bod lladd rywun yn cymeryd i ffwrdd pleser iddynt yn y dyfodol ddim yn dal dwr. Mi all yr un dadl gael ei ddefnyddio am gondoms ac abortion (sydd yn waeth byth, am y rheswm amlwg bod rywun sy'n cael ei ladd yn ystod ei fywyd o leiaf wedi cael byw ryw ran ohono).
Tabw diweddar yw lladd. Nol yn y hen ddyddiau mi oedd lladd yn rhan bwysig o fywyd pob dydd. Mi fysai pobl yn marw'n fwy bodlon os na fysai gan marwolaeth gymaint o enw drwg. Gweler: Beowulf, y Samurai, LOTR, ecetra.