Tudalen 1 o 2

Marwolaeth a Lladd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Meh 2004 11:01 pm
gan Macsen
[Nid edefyn am Miss Marwolaeth yw hwn, gwaetha'r modd!]

Dw i wedi bod yn ysgrifennu nofel yn ddiweddar, ac yn y nofel hwnnw mae un o'r cymeriadau yn gwneud ei fywoliaeth o ladd. Dwi'n ceisio gwneud sens o feddwl y cymeriad yma, gan fod ei farn o mor wahanol i fy un i. Be ydw i'n ceisio ei ddarganfod yw dadleuon sydd o blaid lladd. Felly rhowch eich capiau lladdywr cornfleks ar eich penau ac i ffwrdd a ni! Cofiwch fy mod i'n ceisio dadlau o POV y cymeriad fan hyn, cyn i chi ffonio'r heddlu. Dyw ei POV fo ddim yn adlewyrchu fy un i mewn unrhyw ffordd. Dyma dadleuon fy nghymeriad o blaid lladd hyd yn hyn:

Dyw lladd, os yw'r person a laddwyd ddim yn teimlo dim ofn marwolaeth nag poen wrth farw, ddim yn gas o gwbwl i'r person (Mae'r ddadl yma'n ddibynnol ar gymeryd nad oes bywyd ar ol marwolaeth). Mae marwolaeth yn fwy o boendod i'r rhai oedd yn agos i'r un a'i laddwyd na'r boi ei hun, ac os nad oes dim o'r rheini mae'n bosib lladd person heb wneud dim wir o'i le.

Mae rhyfel llawn gymaint o ofn marw a poen yn barod, dyw unrhyw ofn marw neu/a poen wedi ei greu gan y lladdwr ddim wir yn cyfri, gan fod y boi yn ofn marw ac debyg mewn poen yn barod.

Mae dienyddio rywun am drosedd yn llai cas na gadael iddo bydru yn y carchar am bumdeg mlynedd. Beth yw tri mis o boen, ac yna dienyddiad heb boen iw gymharu a pum deg mlynedd o fyw yn hollol anghyffyrddys?

Dyw'r dadl bod lladd rywun yn cymeryd i ffwrdd pleser iddynt yn y dyfodol ddim yn dal dwr. Mi all yr un dadl gael ei ddefnyddio am gondoms ac abortion (sydd yn waeth byth, am y rheswm amlwg bod rywun sy'n cael ei ladd yn ystod ei fywyd o leiaf wedi cael byw ryw ran ohono).

Tabw diweddar yw lladd. Nol yn y hen ddyddiau mi oedd lladd yn rhan bwysig o fywyd pob dydd. Mi fysai pobl yn marw'n fwy bodlon os na fysai gan marwolaeth gymaint o enw drwg. Gweler: Beowulf, y Samurai, LOTR, ecetra.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Meh 2004 11:26 pm
gan Ramirez
os di'r boi yn neud bywoliaeth o ladd, mae hynna yn ei hun yn reswm. 'mercenary' i raddau. ei fod o ei hun yn goroesi sydd bwysicaf- 'survival instinct' math o beth, felly mi neith o rwbath i gynnal ei hun, ac os mai lladd sy'n cynnig bywoliaeth iddo, mae'n ei dderbyn.

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 8:10 am
gan Dielw
Rhai syniadau:
Y mwya o bobl mae o'n lladd yr agosa mae o at rheoli'r byd. Survival of the fittest de? 8)
Falle bod o dim ond yn lladd pobl mae o'n meddwl fasa'n well off di marw (sa hyn yn gallu cynnwys staff swyddfa oherwydd bod nhw ddim rili yn byw, yn ei farn o, neu wardeniaid traffic). :ofn:
Mae pobl yn dinistrio'r byd felly mae disistrio pobl yn arbed y byd. :P
Mae o'n trin y peth fatha hela - be di'r gwahaniaeth rhwng lladd mochyn a lladd person? :rolio:
Mae ganddo lais yn ei ben sy fatha Duw yn awgrymu lladd. Fasa rywun crefyddol yn credu mai Duw oedd y llais. :?
Mae lladd pobl yn hwyl. :lol:

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 9:49 am
gan Gowpi
Dielw a ddywedodd:Falle bod o dim ond yn lladd pobl mae o'n meddwl fasa'n well off di marw

Wedi darllen Crime and Punishment, Dostoievsky? Nofel wych, y prif gymeriad yn lladd hen wreigen ofnadwy, gan ddadlau ei gymhellion gyda'i hunan, yn trial cyfiawnhau'r hun mae ar fin gwneud / a waneth. Y prif reswm yn ol fe, ma'r wraig 'ma yn achosi cymaint o ddiflastod a thlodi i eraill, byddai'r byd yn well hebddi...

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 8:57 pm
gan Rhodri Nwdls
Os oes gennnoch chi ddiddordeb mewn ethics marwolaeth ac achub bywydau mae na ddwy raglen heno am yr Athronyddwr Awstralaidd, Peter Singer, heno ar BBC2

11yh Peter Singer: A Dangerous Mind

12.20 yb Peter Singer Talks to Mark Lawson

Boi diddorol...

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 8:08 am
gan Owain Llwyd
Wyt ti wedi darllen From Hell gan Alan Moore? Yn wahanol i'r ffilm, sy'n olrhain hanes yr Arolygydd Abbeline, mae'r nofel graffig (yn ôl dw i'n ei dallt) yn dilyn datblygiad Syr William Gull (sef Jack the Ripper) fel llofruddiwr cyfres.

Mi oedd Moore wedi treulio rhyw 10 mlynedd yn astudio seicoleg a seiciatreg llofruddio cyfres (adroddiadau FBI, astudiaethau seiciatryddol, hunangofiannau llofruddwyr a ballu). Mae'na dipyn o gyfweliadau efo fo ar gael ar y we lle mae o'n rhannu rhai o'i feddyliau ynghylch yr ymchwil yma. (Mae'n debyg, erbyn y diwedd, fod o'n reit falch o roi'r gorau i'r ffasiwn ymlwybro drwy garthffosydd yr enaid ddynol.)

Dw i ddim yn gwybod ydi hyn yn ymwneud dim efo be sy gen ti mewn golwg, ond dyna ni.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 8:08 am
gan Garnet Bowen
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Os oes gennnoch chi ddiddordeb mewn ethics marwolaeth ac achub bywydau mae na ddwy raglen heno am yr Athronyddwr Awstralaidd, Peter Singer, heno ar BBC2

11yh Peter Singer: A Dangerous Mind

12.20 yb Peter Singer Talks to Mark Lawson

Boi diddorol...


Boi diddorol iawn. Er mod i'n anghytuno efo hyn mae o'n ei ddeud, mae o'n athronydd hynod o ddawnus, a mae ganddo'r gallu i ddadla ei achos yn rhesymegol. Ond dwi'n meddwl dy fod ti wedi gwneud cam bach efo'r BBC. Os dwi'n cofio'n iawn 'A Dangerous Mind? ydi enw'r rhaglen. Nid cyhuddo Singer o fod yn beryg mae'r rhaglen, ond gofyn cwestiynnau ynglyn a'i syniadau.

(o.n. Mi oedd y cyfweliad efo Mark Lawson yn hynod o siomedig. Fo 'di un o fy hoff ddarlledwyr, ond mi on i'n teimlo ei fod o ar goll braidd yn trafod y pwnc yma.)

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 12:30 pm
gan Dielw
Oedd - rhaglenni da iawn. Jyst y peth ar ôl dod nol o'r pyb. Dydw i ddim yn cytuno gyda fo chwaith (enwedig gwerth bywyd babanod), ond o leia mae o wedi meddwl am y peth o ddifri. Roedd clywed o'n siarad am ethics Bush yn ddiddorol iawn. Lawson yn shit fel arfer.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 1:04 pm
gan Macsen
Dyma'r math o raglen y dylsai y BBC fod yn dangos yn fwy amal. Roedd o'n ddiddorol iawn, a dw i'n parchu Peter Singer am gael y dewrder i leisio barn reit amhoblogaidd. Mi wnaeth o ddadl eitha' da dros euthenasia, chware teg. :winc:

Mi roedd Lawson yn rhoi'r argraff ei fod o wedi bodio drwy'r llyfr ar y tren cyn cyraedd. Falle roedd o'n ofn cytuno neu anghytuno'n ormodol rhag iddo roi ei droed ynddi.

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 1:06 pm
gan Garnet Bowen
Macsen a ddywedodd:Dyma'r math o raglen y dylsai y BBC fod yn dangos yn fwy amal.


Cynhyrchiad ar gyfer BBC4 oedd o, dyna pam. Os nad oes gen ti sky/freeview yn barod, yna buddsodda. Mae BBC4 yn llawn o raglenni difyr fel hyn.