Tudalen 1 o 3

Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

PostioPostiwyd: Sad 26 Meh 2004 3:58 pm
gan Macsen
A ddylsai cyfrifiadur a deallusrwydd artiffisial o'r un raddau a dyn gael yr un hawliau?

PostioPostiwyd: Sad 26 Meh 2004 5:20 pm
gan Dylan
wrth gwrs

PostioPostiwyd: Sul 27 Meh 2004 12:51 pm
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:wrth gwrs


Ymateb reit syml, ti'm yn meddwl? Oes gen ti unrhyw olau i'w dasgu ar y cwestiynnau anodd iawn, fel rhan emosiwn a poen yn yr hafaliad? Ydi deallusrwydd yn unig yn ddigon i wneud rywbeth yn 'fyw'*?

Er engraifft, ydio'n gas 'lladd' peiriant a deallusrwydd artiffisial os nad yw'n teimlo ofn na poen? Os nad ydi o'n poeni os mae'n cael ei ladd ai peidio?

* Mae'n rhaid bod gair gwell na 'byw' i ddisgrifio be dw i'n ceisio ei gyfleu?

PostioPostiwyd: Sul 27 Meh 2004 1:59 pm
gan Leusa
does gan beirianau ddim enaid nagoes, heblaw y rhai yn Blodyn Tatws. (darllenwch o!) Dim dealltusrwydd sy'n gwneud chi'n fyw. Dydi pobl thic dim agosach i farw na pobl glyfar.

PostioPostiwyd: Sul 27 Meh 2004 3:53 pm
gan nicdafis
Leusa a ddywedodd:does gan beirianau ddim enaid nagoes,

Dyw hawliau cyfreithiol ddim yn seiliedig ar fodolaeth "enaid", sy'n syniad crefyddol. Does gan George Bush dim enaid, er enghraifft, ond dydy hynny ddim yn golygu does ganddo ddim hawliau dynol. Sbo. (Nodyn i gefnogwyr George Bush: dim ond defnyddio fe fel enghraifft ydw i yma. Rhowch eich hoff ffigwr di-enaid yn ei le os ydy hynny'n helpu.)

Leusa a ddywedodd:heblaw y rhai yn Blodyn Tatws. (darllenwch o!)

Hmm, dim diolch. Dim offens i gof Eurig Wyn, ond hwnna oedd y triniaeth gwaetha o'r busnes AI dw i wedi ei ddarllen erioed. (Oedd rhaid i mi ddarllen yn y coleg; fel arall, fyddwn i ddim wedi stico ato.) Mae nofelau "Culture" Iain M. Banks yn llawer well, ar ran hawliau personau artiffisial, ond mae clasuron sci-fi fel I, Robot a 2001 â'u pethau i'w dweud o hyd.

Leusa a ddywedodd:Dim dealltusrwydd sy'n gwneud chi'n fyw. Dydi pobl thic dim agosach i farw na pobl glyfar.

Dim ond wrth groesi'r ffordd falle.

Mae'n gwestiwn diddordol, a bydd yn dod yn lot mwy diddorol yn y degawdau nesa, wrth i ni ddod yn agosach at ddeallusrwydd artiffisial go iawn. Mae'n debyg bydd rhaid i ni edrych ar ein cysyniadau o ble mae'r llinell rhwng yr "ymdeimladol" (S. <i>sentient</i>) a'r "di-ymdeimladol".

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 2:09 pm
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:wrth gwrs


Ymateb reit syml, ti'm yn meddwl? Oes gen ti unrhyw olau i'w dasgu ar y cwestiynnau anodd iawn, fel rhan emosiwn a poen yn yr hafaliad? Ydi deallusrwydd yn unig yn ddigon i wneud rywbeth yn 'fyw'*?

Er engraifft, ydio'n gas 'lladd' peiriant a deallusrwydd artiffisial os nad yw'n teimlo ofn na poen? Os nad ydi o'n poeni os mae'n cael ei ladd ai peidio?


Pan ddywedaist "deallusrwydd artiffisial o'r un raddau â dyn" o'n i'n cymryd bod hynny'n cynnwys emosiwn a phoen. Hynny ydi, mai'r unig wahaniaeth rhwng y peiriant a dyn ydi bod y peiriant wedi'i wneud o fetel a silicon.

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 3:23 pm
gan Dielw
Nes i orffen Blodyn Tatws felly dwi ddim yn meddwl bod o mor ddrwg a hynny. Roedd y diwedd yn siomedig os dwi'n cofio'n iawn.

Dwi'n credu byddai technoleg o'r fath yn dinistrio'r byd. Smoking kills? Beth am y robots seicotig Mr. Blêr? Dyna pam mai'n bwysig mwynhau bywyd.

Re: Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 4:23 pm
gan Di-Angen
Macsen a ddywedodd:A ddylsai cyfrifiadur a deallusrwydd artiffisial o'r un raddau a dyn gael yr un hawliau?


Yn y pen draw, rwy'n credu bydde rhaid cael penderfyniad am hyn wrth i programs ddatblygu i fod yr un mor ddatblygiedig a dynion/menywod. Os nad wyt ti'n credu mewn unrhyw dduw, yna rhaid felly derbyn mai gyd yw "consciousness" ond rhywbeth sy'n cael ei greu gan electrical stimulation ar wahanol fannau o'r ymennydd. Pa wahaniaeth real allwn ni ei wneud rhwng hyn a beth sy'n digwydd o fewn cyfrifiaduron?

Mae'n anodd dweud "o'r un raddau a dyn" though. Mae yna bobl gyda gwallau meddyliol sy'n cael yr un protection, er nad ydynt gyda deallusrwydd "o'r un raddau" a fi a ti - rhaid gwarchod pawb heb geisio "quantifio" pa mor ddeallus sydd rhaid bod i fod yn berson.

Yn bersonol, hoffwn weld chwyldro cymdeithasol dros y ganrif nesaf yn rhoi hawliau basic dynol i bob anifail. Wedyn troi at y cyfrifiaduron.

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 4:24 pm
gan Garnet Bowen
Mae'r cwestiwn yma yn gofyn pethau mwy difyr am ein agweddau ni tuag at ddynoliaeth na pheirianau. Fel anffyddiwr llwyr, mae gen i rywfaint o gyd-ymdeimlad efo'r safbwynt mai dim ond cyfres o benderfyniadau rhesymegol cymleth iawn, sy'n cael eu cymeryd ar raddfa anhygoel o gyflym, ac yn cael eu trefnu mewn ffordd arebennig, ydi personoliaeth rhywun. Tydi'r "enaid" yn ddim mwy na cysyniad crefyddol, sydd yr un mor ffol a chredu mewn duw, neu fodolaeth Sion Corn. Os felly, mae sefyllfa hypothetical Macsen yn un ddifyr. Os y gellid creu cyfrifiadur sydd yr un mor gymleth a'r ymenydd dynol, pam nad oes ganddo'r un hawliau? Ffordd syml o osgoi'r ddadl yma ydi dechrau son am gysyniadau ffug megis "enaid".

Re: Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 4:26 pm
gan Garnet Bowen
Di-Angen a ddywedodd:Yn bersonol, hoffwn weld chwyldro cymdeithasol dros y ganrif nesaf yn rhoi hawliau basic dynol i bob anifail. Wedyn troi at y cyfrifiaduron.


Be, rhoi freedom of speech i fwncis? Yr hawl i wartheg bleidleisio? Sicrhau fod gan wybed yr hawl i fywyd heb boen? :ofn: