Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Maw 29 Meh 2004 6:10 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Cwestiwn sy'n perthyn i fyd ffuglen ydi hwn, mae gen i ofn.


Tydi hwn ddim yn gwestiwn sy'n perthyn i fyd ffuglen o gwbwl, er bod byd ffuglen wedi ei drafod llawer gwaith.

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae technoleg, fel rheol, yn cael ei yrru gan anghenion masnachol. Felly, mi fydd cwmniau ceir yn ceisio datblygu AI sy'n medru gyrru ceir yn well na phobl, neu mi fydd y fyddin yn ceisio creu AI sy'n medru lladd yn well na phobl. Ond toes 'na ddim pwrpas masnachol i greu robotiaid sydd a "phersonoliaeth" gron gyfa, oherwydd tydi hyn ddim o unrhyw ddefnydd i neb.


Mae creu A.I. i safon dyn yn hollol bwysig i 'anghenion masnachol' ma rwyt ti'n mynd ymlaen amdanynt. Mae meddwl bod technoglen yn rywbeth mae cwmniau yn gwerthu i'r cyhoedd yn unig yn ffol. Prif bwrpas technoleg yw creu y pethau mae cwmniau yn ei gwerthu i bobl, a fan yna mae A.I. cymleth yn hollbwysig. Ymhob cangen o bob cwmni mae pobl sydd, yn y pendraw, yn gorfod rheoli'r peirianau sy'n creu'r lluoswm. Beth sydd rhataf, talu person go iawn i wneud y gwaith ynteu cael peiriant a A.I. uchel iw wneud? Beth am y jobsys rheini sy'n cymeryd dealltwiriaeth creadigol o'r cwsmer iw cyflawni; a fydd craen syml yn medru cario allan y jobsys rheini? Mae creu A.I. clyfar yn hollol bwysig i gwniau mawr- wela faint o bres sy'n cael ei wario arno'r foment hwn!

Y rheswm y bydd y robotiaid yma'n debyg i bobl go iawn ydi ein bod ni, wrth ei creu nhw, yn gweithio o fewn cyfyngiadau ein dealldwriaeth ni o beth yw 'deallusrwydd'. Ac, fel ydw i wedi esbonio eisioes, bydd rhaglennu persenoliaeth ac emosiwn yn dod am ei fod yn haws i bobl fyw a A.I. sy'n ffugio bod 'fel nhw'.

Rheswm arall i ddatblygu A.I. cymleth 'fel ni' ydi y bydd pobl, ar ryw bwynt yn y dyfodol, eisiau defnyddio mewnblanniadau mecanyddol i wella ein cyrff. Mae hyn yn digwydd yn barod gyda pobl anabl sydd heb ddwylo, coesau ecetra yn cael rhai newydd. Faint tan fod pobl yn fodlon mewnblannu sglodyn meicro yn ei ymenydd fel bo nhw'n medru bod deg gwaith clyfrach? Pam fydd y technoleg yn bod, mi fydd y cwsmer yn disgwyl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Mer 30 Meh 2004 8:01 am

Macsen a ddywedodd:Mae creu A.I. i safon dyn yn hollol bwysig i 'anghenion masnachol' ma rwyt ti'n mynd ymlaen amdanynt. Mae meddwl bod technoglen yn rywbeth mae cwmniau yn gwerthu i'r cyhoedd yn unig yn ffol. Prif bwrpas technoleg yw creu y pethau mae cwmniau yn ei gwerthu i bobl, a fan yna mae A.I. cymleth yn hollbwysig.


Ti ddim yn gwahaniaethu rhwng AI cymleth, a phersonoliaeth dynol, sydd yn fwy cymleth nac yr ydym ni'n medru ei amgyffred ar y funud. Bydd, mi fydd angen AI cymleth, ond fyddai'r gwaith sydd ei angen i greu "ymenydd" cyfrifiadurol yn costio llawer mwy na'r elw y gallai rhywun ei wneud o greu "ymenydd" o'r fath. Mae'n rhaid i chdi edrych ar 'cost/benefit ratio" creu AI o'r un lefel a phobl, a dwi ddim yn meddwl fod posib gwneud dadl economiadd dros greu AI o'r fath.

Dwi'n sdicio at fy nadl - mi fydd cwmniau yn creu nifer o systemau AI hynod o gymleth ar gyfer nifer o dasgau penodol, ond tydi creu un ffurf o AI sydd union yr un fath a'r meddwl dynol ddim yn gwneud synnwyr economaidd. A felly mae dy gwestiwn gwreiddiol di yn un wnaiff aros yn myd ffuglen am byth, yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron