Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan cymro1170 » Llun 28 Meh 2004 4:32 pm

Di-Angen :

Yn bersonol, hoffwn weld chwyldro cymdeithasol dros y ganrif nesaf yn rhoi hawliau basic dynol i bob anifail. Wedyn troi at y cyfrifiaduron.


Hawliau Dynol i anifeiliaid :ofn:
Dim hawliau Anifeiliol fuasa nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Macsen » Llun 28 Meh 2004 5:26 pm

Dwi'n credu bod hwn am fod yn bwnc llosg iawn yn y flynyddoedd i ddod. Dwi'n gweld pedair 'grwp' yn ymddangos (Dwi'n cymeryd bydd y robotiaid cynnar yn edrych ac ymddwyn fel pobl go iawn. Os yw Maes-E dal yn rhedeg mewn dau ddeg pump mlynedd ddoi nol i gywiro fy hun):

Y 'camp' cyntaf fydd y rheini sy'n meddwl bod creu peiriant sy'n meddwl, edrych, ac gyda'r un emosiynnau a dyn yn beth afiach. Ryw adysgrif gwael o ddynoliaeth bydd robotiaid iddynt, wedi ei creu i gopio ein emosiynnau a meddyliau ond heb 'enaid' tu mewn. Mi fyddyn nhw hefyd yn ofn robotiaid am ei gallu i wneud pethau yn gyflymach a gwell na pobl. Mi fydd y pobl yma'n darllen y Daily Mail.

Yr ail grwp fydd y pobl rheini sy'n credu bod robotiaid yn haeddu'r un hawl a dynion. Mi fyddan nhw'n protestio drost hawliau ei ffrindiau robotaidd, gan ddadlau ein bod nhw yr un fath a ni, ond ein bod ni'n wlybwedd (wetware) tra bod nhw'n galedwedd (hardware). Mi fydd y pobl yma'n darllen y Independent.

Y trydedd grwp fydd yr rheini sydd yn erbyn robotiaid am resymau amgylcheddol. Ond mi fydd rhain hefyd o blaid hawliau i robotiaid, yn beio'r cwmniau creu robotiaid am faint o CO2 mae nhw'n creu bob blwyddyn. Bydd y lot yma'n darllen y Guardian.

Y bedwerydd grwp bydd yr rheini fydd yn credu mae robotiaid yw'r cam nesaf o esblygiad dynol. Mi fydd rhain yn cin i greu 'robosapien', a bydd newid darnau o'ch hunain a rhoi darnau peiriannol yn ei lle yn ffad newydd. Bydd y lot yma'n darllen Top Gear Magazine.

Cwestiwn diddorol yw pa mor bwysig bydd emosiwn i gadw A.I. dan reolaeth? Onid fydd angen ryw fesur o emosiwn gan beiriant fel nad ydyw yn troi yn erbyn y ddynoliaeth? Gwall yw rhai emosiynnau mewn pobl, sydd yn ein dal ni nol pam mae'n dod i oroesi dros greaduriaid eraill y byd. Os fysai'n bosib rhaglennu cariad at y ddynoliaeth mewn i robot, er engraifft, ni fysai am ein concro ni. Y broblem ydi y bysai'r rhai sy'n disgyn mewn i grwp 4 uchod yn sicr o greu robot ar ryw bwynt sydd yn fodlon cymeryd drosodd gan bobl y byd. Naillai bydd hynny'n digwydd neu yn raddol mi fyddan ni wedi mynd mor robotaidd ein hunain bydd dim angen iddynt 'goncro' y ddynoliaeth o gwbwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan krustysnaks » Llun 28 Meh 2004 6:26 pm

Sawl pwynt diddorol fanna Macs, ond dwi'n meddwl fydd rhaid i ti gywiro dy hun mewn degawd neu ddau (hir oes i'r maes etc), gan dy fod di'n bod braidd yn rhy gyffredinol, ond af i ddim ar ol hynny.

Wrth edrych tu hwnt i beth wyt ti'n son amdanyn nhw, dwi'n gweld robotiaid yn cael eu derbyn i mewn i'n bywydau bob dydd ni. Am esiamplau o dderbyn technoleg newydd, gweler y Chwyldro Diwydiannol (Ludiaid yn enwedig), twf y teledu a ffonau symudol, a phoblogeiddio'r we.

Pan mae pobl yn gweld budd uniongyrchol, mae pobl yn hoffi pethau. Er fod na agwedd wahanol i robotiaid i'r enghreifftiau ^^, dwi'n meddwl fod y cysyniad o dderbyn syniad newydd yn aros yr un peth.

Felly mewn faint bynnag o amser, pryd bynnag mae'r robotiaid yn gwella'n safon byw ni o ddydd i ddydd yn uniongyrchol, fydd y mwyafrif llethol o bobl o'u plaid.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

Postiogan Di-Angen » Llun 28 Meh 2004 8:25 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Di-Angen a ddywedodd:Yn bersonol, hoffwn weld chwyldro cymdeithasol dros y ganrif nesaf yn rhoi hawliau basic dynol i bob anifail. Wedyn troi at y cyfrifiaduron.


Be, rhoi freedom of speech i fwncis? Yr hawl i wartheg bleidleisio? Sicrhau fod gan wybed yr hawl i fywyd heb boen? :ofn:


Falle dylem wedi defnyddio "hawliau dynol" fel term. Ond yn hytrach "hawliau moesol". Dwi o'r farn bod gan unrhywun, boed anifail neu ddyn, yr hawl i fywyd heddychlon heb interference rhywun arall. Yr un fath o gredoau a oedd pobl yn dweud am dduon, yr anabl etc degawdau yn ol. Dwi'n really falch i weld bod cymdeithas rhyddfrydol yn dechrau tueddu at yr hawliau yma, er ei fod yn ddigon hapus i broffidio o ladd a treisio yr union un endidau. Mewn canrif, who knows!
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Re: Hawliau Deallusrwydd Artiffisial (A.I.)

Postiogan Garnet Bowen » Maw 29 Meh 2004 8:00 am

Di-Angen a ddywedodd:Falle dylem wedi defnyddio "hawliau dynol" fel term. Ond yn hytrach "hawliau moesol". Dwi o'r farn bod gan unrhywun, boed anifail neu ddyn, yr hawl i fywyd heddychlon heb interference rhywun arall. Yr un fath o gredoau a oedd pobl yn dweud am dduon, yr anabl etc degawdau yn ol. Dwi'n really falch i weld bod cymdeithas rhyddfrydol yn dechrau tueddu at yr hawliau yma, er ei fod yn ddigon hapus i broffidio o ladd a treisio yr union un endidau. Mewn canrif, who knows!


Yda ni wedi trafod hyn yn barod, yn yr edefyn am hela? Dwi ddim yn cofio'n iawn, ond os wyt ti am fynd ar ol y sgwarnog yma, be am gychwyn edefyn newydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Maw 29 Meh 2004 8:32 am

Di-Angen a ddywedodd:Dwi o'r farn bod gan unrhywun, boed anifail neu ddyn, yr hawl i fywyd heddychlon heb interference rhywun arall.

Dwi'n credu fod gennyf hawl i hela anifeiliaid ar gyfer eu bwyta.

Dwi ddim yn gweld be di'r ddadl foesol dros fyta llysiau ond ddim anifeiliaid - mae nhw gyd yn bethe byw sy'n blasu'n neis i fi. Beth am hawliau i blanhigion? A fyddai hynny'n anghyfleus tybed?! Lle wyt ti'n tynnu llinell?

Bydd y dechnoleg yn cael ei gamddefnyddio yn sicr.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Garnet Bowen » Maw 29 Meh 2004 1:00 pm

Dwn i ddim os ydi'r ddadl yma yn berthnasol i'r byd go iawn, i fod yn onest. Pam fyddai rhywun eisiau creu robot sydd a union yr un nodweddion a pherson? Oni fydda hi'n haws jysd cael babi?

Mae technoleg, fel rheol, yn cael ei yrru gan anghenion masnachol. Felly, mi fydd cwmniau ceir yn ceisio datblygu AI sy'n medru gyrru ceir yn well na phobl, neu mi fydd y fyddin yn ceisio creu AI sy'n medru lladd yn well na phobl. Ond toes 'na ddim pwrpas masnachol i greu robotiaid sydd a "phersonoliaeth" gron gyfa, oherwydd tydi hyn ddim o unrhyw ddefnydd i neb - mae gynno ni ddigon (gormodedd) o'r "adnodd" yma yn y byd yn barod. Pam gwario £XBiliwn ar ddatblygu robot sy'n medru cynnal sgwrs, pan mae 'na ddigonedd o bobl yn bodoli a fyddai'n medru gneud y "job" yma am lawer iawn llai o bres.

Cwestiwn sy'n perthyn i fyd ffuglen ydi hwn, mae gen i ofn.

(Gyda llaw, os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn y drafodaeth ynglyn a "hawliau" anifeiliaid, yna gwyliwch BBC2 heno am 11:20. Mae nhw'n ail-ddangos proffil o Peter Singer, awdur 'Animal Liberation', a gafodd ei ddarlledu gan BBC4 llynedd. Difyr iawn.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Maw 29 Meh 2004 2:12 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond toes 'na ddim pwrpas masnachol i greu robotiaid sydd a "phersonoliaeth" gron gyfa, oherwydd tydi hyn ddim o unrhyw ddefnydd i neb - mae gynno ni ddigon (gormodedd) o'r "adnodd" yma yn y byd yn barod. Pam gwario £XBiliwn ar ddatblygu robot sy'n medru cynnal sgwrs, pan mae 'na ddigonedd o bobl yn bodoli a fyddai'n medru gneud y "job" yma am lawer iawn llai o bres.


Cron gyfa, nagoes. Ond hwyrach byddai rhyw fath o robot syml o'r math yna yn gwneud tegan poblogaidd i blant, er enghraifft. Mae'r blydi Ffyrbis 'na yn gallu siarad â'i gilydd yn barod, 'dydyn? :?

Onid oes rhyw ffilm (arall) am robotiaid yn troi yn erbyn pobl ar fin dod allan? "I, Robot" neu rywbeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Maw 29 Meh 2004 2:26 pm

Dwi o'r farn bydd Termiaduron yn rheoli'r byd.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Meh 2004 4:35 pm

dielw a ddywedodd:Dwi o'r farn bydd Termiaduron yn rheoli'r byd.

Termiaduron = Terminators
neu
Termiaduron = Geiriaduron Termau
:?:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron