Gwilym a ddywedodd: Efallai y dylem ni wahardd ysgrifennu unrhywbeth ar bapur pan ddaw'r chwyldro, er mwyn sicrhau fod pobl yn canolbwyntio ar ddefnyddio eu synnwyr cyffredin yn lle cael eu camarwain i gredu fod ffurflenni a dogfennau diflas yn bwysig
Gwilym, ti'n honni ar un llaw mai pwrpas y chwyldro ydi gwneud Joe Bloggs yn fwy goleuedig fel bod pawb yn medru cymeryd rhan cyfrifol mewn Gwleidyddiaeth ac effeithio'r ffordd mae'r wlad yn cael ei rheoli, ac ar y llaw arall, tisho gwahardd ysgrifen, un o'r unig betha sy'n ein gwahanu oddi wrth yr anifeiliaid! Os ti o ddifri am dy chwyldro, ti angan isda lawr mewn sdafall dywyll am flynyddoed a planio'r peth allan yn berffaith, cynllunio polisiau, agendas, amcanion, polisi tramor ac ati. Dwi'n edmygu dy weledigaeth di a dy gyts (dwi di meddwl run fath a chdi lawar yn ysdod y blynyddoedd dwytha) ond ma rhaid iti sylweddoli bod grip y Llywodraeth dros y wlad lawer rhy gry i fedru eu di-sodli nhw. Syd wyt ti'n planio gneud? Mi fysa unrhyw chwyldro hollol gyfiawn yn cael ei gefnogi gan pawb be bynnag yn ol dy ddamcaniaeth di, felly fysa na ddim angen di-sodli neb, jest cal pawb i wrando arna ti. Dani i gyd yn ymwybodol fod yna broblemau erchyll yn gwynebu'r byd ar hyn o bryd, Cynhesu Byd eang, tlodi, AIDS, anghegwch cymdeithasol ayyb. ond elli di'm cal gwarad o'r problema ma i gyd drwy jest 'gael chwyldo.' Di petha'm mor syml a hynny.
Hefyd dwi'n anghytunno efo chdi ynglyn a newid agwedd y werin datws. Diom yn bosib, jest darllan y Sun neu gwylia 'Big Brother'. MA ginti ormod o ffydd mewn pobol. Udodd Nelason Mandela bod un dafn o inc ddim yn llygru'r mor, ond dim ond inc sydd ynddo erbyn hyn bron iawn.
Gwraidd pob problem fodern yn y bôn, ydi cyfalafiaeth. Os tisho newid petha;
Y Comiwnyddion Yng Nghymru