Tudalen 1 o 4

Chwyldro!

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 4:11 pm
gan Gwilym
'Dwi 'di hen flino ar pobl yn cymryd hin ganiatol ein bod ni'n byw mewn democratiaeth. Tydi'r hawl i un bleidlais pob peder blynedd ddim yn swnio llawer fel democratiaeth i mi; yn enwedig wrth ystyried nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y partion mawr (mae nhw i gyd dueddol o wneud yr un peth mewn ffyrdd gwahanol); ac hefyd wrth ystyried nad ydi'r cyhoedd yn gweld hi'n hawdd ymateb i syniadau newydd ac arloesol am sut fath o fyd y byswn ni'n medru byw ynddo, a hynny oherwydd fod gennym ni fusnesau cyfryngau sydd ofn dweud wrth pobl yr hyn nad ydynt eisiau ei glywed... Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd a sianeli teledu ddigon hapus bwydo rwts i'n cyhoedd anaeddfed tra mae'r byd yn llosgi o'n hamgylch.

Os na gymrwn ni cyfrifoldeb dros ein bywydau a'n byd mi fyddan ni'n parhau i fod yn gymdeithas blentynaidd, decedant a diwerth, heb wneud dim llawer a'n bywydau ond difetha'r blaned hardd yma.

Tydi hi ddim yn amser creu gwleidyddiaeth newydd sydd yn rhoi'r pwer nol yn nwylo pobl? Gwleidyddiaeth sydd yn cynrychioli pobl? O leiaf wedyn os penderfynwn ni barhau ar y trywydd peryglus rydan ni arno rwan, a'i ddilyn i'r argynfwng sy'n ein disgwyl wrth ei ben, fedrwn ni ddim rhoi'r bai ar neb ond ni'n hunain.

Reit ta. Pwy sy isio chwyldro? O ddifri nawr . . .

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 4:58 pm
gan Macsen
Iei, chwyldro hen ffasiwn! Gawn ni daflu ymaith cadwyni hegemoni a'r ideoleg llywodraethol!

Lle i ddechrau? Dw i wedi troi fy llyfr ffon wyneb i waered, ond rwan dwi'n styc.

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 5:37 pm
gan Dylan
'Dw i newydd dollti ychydig o Ribena. Ond damwain oedd hynny. :(

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 5:59 pm
gan Madrwyddygryf
wel gai gychwyn ar rhestr o bobl y byswn ni yn rhoi yn erbyn y wal "come the revolution".

Bobl PR- yn arbennig asiantaethau.
bobl sydd yn galw ti'n 'mate'
neu yn mynd 'cheers mate'..

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 8:59 pm
gan eusebio
nice one, mate :winc:

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 9:12 pm
gan Daffyd
Ma gen ti o wedi ei sortio! (You've got it sorted, mate!)

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 9:23 pm
gan Realydd
Gwilym, gyda phob parch nid ti yw'r person cyntaf erioed i ddweud fod ti eisiau newid y byd. Sut fedri di berswadio ni fod ti am?

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 9:11 am
gan Hogyn o Rachub
Realydd a ddywedodd:Gwilym, gyda phob parch nid ti yw'r person cyntaf erioed i ddweud fod ti eisiau newid y byd. Sut fedri di berswadio ni fod ti am?


Owff :( Ti 'di sbwylio'r hwyl :(

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 12:35 pm
gan Gwilym
Realydd a ddywedodd:Gwilym, gyda phob parch nid ti yw'r person cyntaf erioed i ddweud fod ti eisiau newid y byd. Sut fedri di berswadio ni fod ti am?


Tydw i ddim angen perswadio neb fy mod i am newid y byd. 'Dw i'n gwybod fy mod i'n trio. Dwi isio gweld os oes yna unrhywun arall allan yna gyda digon o ysbryd i geisio newid y byd. Mae siarad am wleidyddiaeth yn un peth (braint y decadent, mae gwleidyddiaeth yn digwydd i bobl yn Iraq, Palestina, Afghanistan). Mae byw yn wleidyddol yn beth arall. Digon hawdd beirniadu'r byd o'n cadeiriau esmwyth. Peth arall ydi herio'r byd i newid. Digon hawdd iste o flaen cyfrifiadur yn trafod syniadau. Peth arall ceisio ysbrydoli pobl i wneud rhywbeth am y llanast sydd ohoni nawr!

Mae'r byd yn digwydd rwan. Nid ddoe na fory. Ac os na wnewn ni rhywbeth rwan fydd 'na ddim lle i ni gwyno pan fydd hi rhy hwyr.

Doeddwn i ddim isio mynd ar rant apocaliptig yn yr edefyn hwn, ond mae gen i da^n angerddol ynof ar hyn o bryd wrth weld y byd ma'n cael ei ddinistrio o flaen ein llygid.

Ceisio ennyn trafodaeth ar greu democratiaeth cynrychiolgar oeddwn i. Mae bron i pawb rwy'n adnabod unai'n cymryd ochr un aden neu'r llall er y gwaetha, neu yn anwybyddu gwleidyddiaeth yn gyfan gwbl. Ydi hyn yn iawn? Ddylen ni ddim bod yn ceisio gwella'n sefyllfa? Cymryd ychydig bach mwy o gyfryfoldeb am lle 'dan ni'n byw a'r pobl o'n hamgylch, ac i hyn gael ei drosglwyddo i'r haenau gwleidyddol sydd yn honni eu bod nhw'n cynrychioli ein ffordd ni o fyw i gymunedau a chenhedloedd eraill? Mae'n democratiaeth ni rhy fawr i fedru cynrychioli diddordebau pawb, a'n diwylliannau wedi eu glasdwreiddio gormod i gynnal cymunedau iach. Mae angen datganoli i'r radd eithaf, a chynnwys pobl yn gyson yn y brosoes o wneud penderfyniadau gwleidyddol.

Os wyf am fod yn deg, mae gen i fwy o ddiddordeb creu sustem wleidyddol fwy cyfiawn na hyrwyddo fy ngwleidyddiaeth bersonol i, er fod hi'n anodd gwahanu'r ddwy.

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 3:17 pm
gan Daffyd
Dwi wedi blino ac wedi fy nghwilltio gan Saeson hypocrytaidd sydd yn ceisio cael gwared o bobl du, bobl o Asia, mwslemiaid ac ati o'u gwlad ac yn credu y dylai pawb fynd i'w gwlad ei hunain a bod yn falch o'u gwlad. Yna pam fod nhw'n blydi dod draw yma i fyw? (rhetorical question bai thy we). Dwi wedi cael digon ar nhw yn cwyno am bopeth yn eu gwlad a gweld UKIP yn gwneud yn dda yn Lloegr, ond mai Llafur sydd yn arwain Cymru - waste of space mwya ydi Llafur Cymreig. Pam fod Lloegr yn cael bod yn hypocrites llwyddiannus ond fod Cymru bob tro y gwrthwyneb ond byth yn llwyddo.

Mae'r byd yma lot rhy blydi anheg!!!

Eniwe pam fod Lloegr eisiau cymru odan ei adain. Da ni'n costio pres idda nhw, ma nhw'n goro rhoi lot mwy o egni mewn i ein rhedeg ac mae'r Cymry yn eu casau am wneud hyn iddynt. Blydi llwgr!