Tudalen 1 o 1

Prynu yn moesegol

PostioPostiwyd: Mer 04 Awst 2004 9:09 am
gan Madrwyddygryf
Sut ydych chi'n gallu prynu neu ddefnyddio gwasanaethau moesegol. Fy mhwynt i ydi gweld cwmnïau sydd yn dechrau cynnig gwasanaethau a chynnyrch yn foesegol. Ond sut mae cwmnïau yn gallu penderfynu be sydd neu nad yw yn foesegol.

Esiampl allai feddwl ydi cwmni Nike. Nawr byddwch yn gallu dweud bod Nike gwneud penderfyniad moesegol wrth addo i beidio defnyddio plant i gynhyrchu eu hesgidiau.

Ond beth yw pwynt hynny mewn gwledydd tlawd, ble mae plant fel arfer yn cael eu gyrru allan i weithio i ennill arian ar gyfer y teulu. Byddai'n gallu fod yn foesegol i blant i weithio ( a hwyrach o dan amodau a thal gwell) i Nike ac ennill arian ar gyfer eu teulu ?

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 10:00 am
gan Garnet Bowen
Mae 'na ddarn difyr iawn am hyn yn y Guardian heddiw.

http://www.guardian.co.uk/fairtrade/story/0,12458,1284601,00.html

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 10:14 am
gan Sleepflower
Ma na wahaniaeth rhwng plant yn gweithio ar y tir gyda'u rhieni er mwyn gorffen y cynhaeaf, a plant yn gweithio mewn ffatrioedd peryglus am ffyc ol.

Fi'n treial prynu bwydydd masnach deg. Coffi a Te yw'r pwysicach, oherwydd mae Nestle a'u sort bellach yn prynu'r nwyddau yma am 60% y cant o'r costau cynhyrchu.

Fi'n gwisgo treinyrs Nike ar hyn o bryd, felly gobeithio ma nhw wedi stopo bod yn fastards.

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 10:32 am
gan dave drych
Y peth yw, wrth brynu jar o goffi FT o Safeway am bunt yn ddrytach mae digon hawdd ini meddwl bod y byd mewn cyflwr gwell. O'r £2.50 a dalwyd am y coffi, llai na 10c sy'n mynd i'r boi bach yn Colombia neu Honduras tra bo'r Treasury yn derbyn tua 30c mewn duty/treth mewnforio.

Felly dydi prynu FT ddim yn mynd i achub y byd. (Dwi yn trio prynu FT oherwydd mae'r boi bach yn cael 'chydig yn fwy o cash ac yn gallu 'fforddio gyrru ei blant i ysgol yn hytrach nac i'r tîr i weithio.)

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 8:42 pm
gan ceribethlem
dave drych a ddywedodd:Y peth yw, wrth brynu jar o goffi FT o Safeway am bunt yn ddrytach mae digon hawdd ini meddwl bod y byd mewn cyflwr gwell. O'r £2.50 a dalwyd am y coffi, llai na 10c sy'n mynd i'r boi bach yn Colombia neu Honduras tra bo'r Treasury yn derbyn tua 30c mewn duty/treth mewnforio.

Felly dydi prynu FT ddim yn mynd i achub y byd. (Dwi yn trio prynu FT oherwydd mae'r boi bach yn cael 'chydig yn fwy o cash ac yn gallu 'fforddio gyrru ei blant i ysgol yn hytrach nac i'r tîr i weithio.)


Efallai na fydd FT yn achub y Byd, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Mae rhoi 10c i'r truan sy'n gweithio yn gam dipyn gwell na pheidio a rhoi 10c iddo.
(Cytuno a'r rhan yn y cronfachau ydwyf gyda llaw)

PostioPostiwyd: Iau 19 Awst 2004 9:42 pm
gan Rhys
Dyma rhywbeth dwi'n geisio ei wneud mor aml a phosib. Dwi'n prynnu te a choffi FT nawr sy'n rhwydd dros ben, ond pan mae'n dod ddillad mae bron yn amhosib. Dwi ddim yn 100% o'm ffeithiau ond roeddwn i'n meddwl (yn ddiniwed braidd) fod crysau T Cowbois wedi eu cynhyrchu yng Nghymru fach. Felly nid yn unig byddwn yn amddifadu Nike ar criw o arian o'u dulliau afiach o weithio, ond hefyd yn cefnogi cwmni Cymreig. Odd dwi (bron yn) siwr mai mond argraffu ar grysau T sy'n dod o dramor y mae Cowbois :( . Gobeithio bod fi'n anghywir.

Gyda llaw cwmni o'r enw Sandbag sy'n cynhyrchu Crysau T (wedi eu gwneud yn y DG) ar gyfer Oxfam ac eraill.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Awst 2004 2:48 pm
gan Ifan Saer
Wel ro'n i'n barod i ymateb efo'n safbwyntia' moesol i ond wedyn ddaru fi sylwi mai son am betha' moesegol yda chi fan hyn felly erbyn hyn dwi wedi drysu'n lân...