Natsis, natsis, natsis, natsis!

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Natsis, natsis, natsis, natsis!

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 12:55 pm

Digwydd edrych trwy hen gyfraniadau maes-e yn ddiweddar a gweld y geiriau natsi a ffasgydd yn codi sawl gwaith. Gwneud ymchwil sydyn a gweld bod y ddau air yma ac amrywiaethau arnynt yn cael eu defnyddio dros i 200 o weithiau - mwy na dwy waith mor aml ag mae Ceidwadwyr ac amrywiaethau ar y gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio.

'Rwan mae hyn yn rhyfedd. Mae'r Ceidwadwyr yn blaid gyfoes gweddol fawr o ran pleidlais yng Nghymru. 'Dydi'r Natsiaid na'r Ffasgwyr erioed wedi sefyll yma am ddim am wn i.

Fel rheol defnyddir y termau i sarhau pobl, yn arbennig felly pan y gwneir rhyw gyfraniad neu'i gilydd sy'n dangos diffyg goddefgarwch at rhyw grwp neu ei gilydd. Mae beirniadaeth (pam mor bynnag ddi niwed) ar wrwgydwyr, Saeson, rhyw grwp crefyddol neu ei gilydd ac ati, ac ati sy'n torri ar ffetish goddefgarwch y maes yn gwahodd yr ymateb yma.

Roedd y Natsiaid a'r Ffasgwyr braidd yn gas - roedden nhw'n lladd pobl fesul mil. Mae cymharu rhywun sy'n gwneud man feirniadaeth ar rhyw grwp neu ei gilydd efo'r rhain yn bychanu dioddefaint y bobl hynny a laddwyd / anafwyd / garcharwyd go iawn.

Ydi hi'n bryd i bobl feddwl cyn defnyddio'r termau - a chael carma cachu os ydynt yn eu cam ddefnyddio?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 3:18 pm

Ceisio sensor defnydd y gair 'Natsi', GT? Mae hwnnw'n swnio fel peth y bysai'r Natsiaid yn ei wneud i mi! :winc:

Dwi'n cytuno bod pobl yn tueddu i daflu'r gair mewn i drafodaeth lot rhu aml, ond bosib bod y ffaith bod y Natsïaid yn cael eu crybwyll mwy na'r Ceidwadwyr yn dweud mwy am y Ceidwadwyr.

Ond dwi'n anghytuno bod ei ddefnydd yn bychanu dioddefaint y bobl hynny a laddwyd / anafwyd / garcharwyd go iawn. Fysai'n well gennyt ti os fyswn ni'n anghofio am y Natsïaid a gadael i'r un peth ddigwydd eto? Mi all hanes ail adrodd gyda phleidiau fel y BNP yn haws na fyset ti'n ei ddychmygu.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 3:49 pm

Macsen a ddywedodd:Ond dwi'n anghytuno bod ei ddefnydd yn bychanu dioddefaint y bobl hynny a laddwyd / anafwyd / garcharwyd go iawn. Fysai'n well gennyt ti os fyswn ni'n anghofio am y Natsïaid a gadael i'r un peth ddigwydd eto? Mi all hanes ail adrodd gyda phleidiau fel y BNP yn haws na fyset ti'n ei ddychmygu.


'Dydi defnyddio'r gair Natsi fel dull o sarhau ddim yn dy helpu di gofio am bobl sydd wedi dioddef oherwydd y gredo. Mae cam / gor ddefnyddio unrhyw air yn difa ei ystyr. Mae hyn wedi digwydd i love yn y Saesneg. 'Dydi o ddim yn edrych yn chwithig bellach os oes yna gwmni petrol yn dweud 'Your car loves Shell'.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 4:11 pm

GT a ddywedodd:Mae cam / gor ddefnyddio unrhyw air yn difa ei ystyr.


Nid cam defnyddio’r gair yw'r pwynt fanyn. Fel y dywedaist ti mae'r sarhad yn codi pam fod rhywun yn dangos diffyg goddefgarwch tuag at wrywgydwyr, Saeson, rhyw grŵp crefyddol, ac ati. Onid diffyg goddefgarwch yn gyffredinol oedd trafferth y Natsïaid? Dwi'n cytuno bod y gair yn cael ei ddefnyddio'n rhu aml, ond mae galw fyny'r cof bod miliynau o bobl wedi marw oherwydd "diffyg goddefgarwch" yn atgoffa ein cenhedlaeth ni mai goddefgarwch tuag at bobol eraill y byd sy'n mynd i wneud ein hamser ni ar y ddaear yn un o heddwch.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 4:28 pm

Nid wyf yn edmygu'r rhesymeg yma Macsen.

Mae dweud bod man ddiffyg goddefgarwch at rhywbeth neu ei gilydd yn arwain at concentration camps braidd fel dadlau bod cardiau post glan mor risque blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf wedi arwain at gynnydd mewn trais rhywiol, pidoffilia ac ati ar ddiwedd y ganrif.

Tydi un cam i lawr London Road ddim yn golygu dy fod yn gorfod cerdded nes rwyt yn cyrraedd Llundain.

Tydi galw rhywun yn Natsi am ei fod yn cwyno nad ydi Saeson yn fodlon dysgu'r Gymraeg ddim yn helpu neb gofio am ddioddefaint Iddewon neu bobl Romani neu wrwgydwyr. Mae o'n gwneud i unrhyw beth maent wedi ei ddioddef edrych yn fan ac yn ddi ddim.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 4:52 pm

GT a ddywedodd:Tydi un cam i lawr London Road ddim yn golygu dy fod yn gorfod cerdded nes rwyt yn cyrraedd Llundain.


Felly dylsaf fi ddisgwyl tan fod person yn Natsi cyn ei atgoffa pa mor erchyll a oedd y Natsïaid? Onid pwrpas rhybuddio yw gwneud hynny cyn i'r person ddisgyn mewn i'r un twll? Efallai mai dim ond ar Lon Llundain y mae'r person, ond beth sy'n bod ac arwydd yn dweud 'Mae'r lon yma'n mynd i Lundain'? Fel ydw i wedi dweud, GT, dwi'n meddwl bod y gair 'Natsïaid' yn cael ei daflu mewn i drafodaeth yn lot rhu aml. Ond dwi'n meddwl bod lle i grybwyll y Natsïaid pam fod rhywun yn dangos diffyg goddefgarwch, fel rhybudd.

GT a ddywedodd:Mae dweud bod man ddiffyg goddefgarwch at rywbeth neu ei gilydd yn arwain at concentration camps braidd fel dadlau bod cardiau post glan mor risque blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf wedi arwain at gynnydd mewn trais rhywiol, pidoffilia ac ati ar ddiwedd y ganrif.


Oes to bach i fod uwchben y 'mor' fan hyn? Dim barnu dy Gymraeg di ydw i, ond gyda neu heb y to bach fanyn mae'r frawddeg yn meddwl rhywbeth gwahanol, ac mae'n amhosib i mi ymateb iddo heb wybod.

GT a ddywedodd:Nid wyf yn edmygu'r rhesymeg yma Macsen.


Sori, Syr. Mi af i sefyll yn y cornel yn wynebu’r wal.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 5:40 pm

Macsen a ddywedodd:Felly dylsaf fi ddisgwyl tan fod person yn Natsi cyn ei atgoffa pa mor erchyll a oedd y Natsïaid? Onid pwrpas rhybuddio yw gwneud hynny cyn i'r person ddisgyn mewn i'r un twll? Efallai mai dim ond ar Lon Llundain y mae'r person, ond beth sy'n bod ac arwydd yn dweud 'Mae'r lon yma'n mynd i Lundain'? Fel ydw i wedi dweud, GT, dwi'n meddwl bod y gair 'Natsïaid' yn cael ei daflu mewn i drafodaeth yn lot rhu aml. Ond dwi'n meddwl bod lle i grybwyll y Natsïaid pam fod rhywun yn dangos diffyg goddefgarwch, fel rhybudd.


'Dwi ddim yn anghytuno efo ti yn y bon. Dadlau ydw i bod y math o anoddefgarwch sy'n teilyngu'r sarhad yma ar y maes yn aml yn ddi ddim i'r graddau ei fod yn gwbl ddi niwed.

'Roedd amser (cyn dy fod ti'n cofio efallai!) pryd byddet yn cael dy alw'n Gomiwnydd gan rai petaet yn dangos cefnogaeth i Undebau Llafur neu'r ANC. ('Roedd Felix Aubel yn un drwg am gyhuddo pobl o fod yn Gomiwnyddol cyn iddo fo dyfu i fyny a challio). Yr un math o ddiffyg sense of propotion oedd hyn.

Macsen a ddywedodd:Oes to bach i fod uwchben y 'mor' fan hyn? Dim barnu dy Gymraeg di ydw i, ond gyda neu heb y to bach fanyn mae'r frawddeg yn meddwl rhywbeth gwahanol, ac mae'n amhosib i mi ymateb iddo heb wybod.



Oes mae yna do bach i fod yno. 'Roeddwn i'n meddwl nad oeddwn yn gwybod sut i wneud to bach - ond erbyn agor fy llygaid dwi'n gweld bod y Doctor Gwion wedi sticio cyfarwyddiadau uwch ben y cyfrifiadur - môr nid mor.

Macsen a ddywedodd:GT :
Nid wyf yn edmygu'r rhesymeg yma Macsen.


Gan y diweddar Enoch Powell y clywais i hon gyntaf. Un dda yn tydi?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 6:26 pm

GT a ddywedodd:'Roedd amser (cyn dy fod ti'n cofio efallai!) pryd fyddet yn cael dy alw'n Gomiwnydd gan rai petait yn dangos cefnogaeth i Undebau Llafur neu'r ANC. ('Roedd Felix Aubel yn un drwg am gyhuddo pobl o fod yn Gomiwnyddol cyn iddo fo dyfu i fyny a challio). Yr un math o ddiffyg sense of propotion oedd hyn.


Dydw i ddim o blaid galw neb ar y maes yn Natsi, ond mae lle i grybwyll bod rhai o'i syniadau yn gogwyddo i'r un cyfeiriad.

Mae gan y gair 'comiwnydd' enw drwg iawn, bron mor ddrwg â'r Natsïaid. Ond wn i ba un fyswn i'n hoffi cael fy ngalw. :winc:

GT a ddywedodd:'Dwi ddim yn anghytuno efo ti yn y bôn. Dadlau ydw i bod y math o anoddefgarwch sy'n teilyngu'r sarhad yma ar y maes yn aml yn ddi ddim i'r graddau ei fod yn gwbl ddi niwed.


Dwi'n deall beth wyt ti'n ei feddwl, ond mae yna beryg gyda'r math yma o feddwl i fynd 'Gade e fod, dim ond ychydig bach yn hiliol a homoffobic ydyw.'

GT a ddywedodd:Gan y diweddar Enoch Powell y clywais i hon gyntaf. Un da yn tydi?


Yn gweithio'n well mewn dadl ar lafar, dwi'n credu.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 6:54 pm

Macsen a ddywedodd:Dydw i ddim o blaid galw neb ar y maes yn Natsi, ond mae lle i grybwyll bod rhai o'i syniadau yn gogwyddo i'r un cyfeiriad.


Mae pob dim yn gogwyddo i rhyw gyfeiriad neu ei gilydd. Os wyt ti am wthio'r pwynt mae mynd ar orymdaith i gefnogi hogiau Friction Dynamics yn gogwyddo at killing fields Cambodia - mymryn bach. Os af i mass fore Sul (anhebygol a dweud y gwir) 'dwi'n gogwyddo ychydig tuag at y Spanish Inquisition.

Macsen a ddywedodd:Dwi'n deall beth wyt ti'n ei feddwl, ond mae yna beryg gyda'r math yma o feddwl i fynd 'Gade e fod, dim ond ychydig bach yn hiliol a homoffobic ydyw.'


Tydi dweud y dylai Saeson wneud ymdrech i siarad Cymraeg os ydynt yn byw yng Nghymru ddim fel dadlau bod Iddewon yn is raddol ac y dylent gael eu lladd. Tydi mynegi amheuon am arddull byw gwrwgydiol ddim yr un peth a dweud bod y lot yn perfs ac mai siambr nwy ydi eu lle nhw, tydi dweud bod rhai o'r pethau roedd ffeministiaid yn eu dadlau yn y 70au a'r 80au wedi eu seilio am ddamcaniaethau cyfeiliornus ddim yr un peth a dweud y dylid boddi'r job lot fel gwrachod. Os wyt ti'n gwthio pob dadl i'w heithaf, a chyhuddo dy wrthwynebwyr o fod ar eu ffordd tuag at yr eithafion, mae'n anodd cynnal dadl gall.

Macsen a ddywedodd:GT :
Gan y diweddar Enoch Powell y clywais i hon gyntaf. Un da yn tydi?


Yn gweithio'n well mewn dadl ar lafar, dwi'n credu.


Hwyrach dy fod ti'n iawn.

Gyda llaw - dwi wedi cael fy ngyhuddo o fod yn Natsi ac yn Gomiwnydd yn weddol aml tros y blynyddoedd (a cyn i ti ddweud, yn llawer o bethau eraill hefyd!).
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 7:07 pm

GT a ddywedodd:Tydi dweud y dylai Saeson wneud ymdrech i siarad Cymraeg os ydynt yn byw yng Nghymru ddim fel dadlau bod Iddewon yn is raddol ac y dylent gael eu lladd. Tydi mynegi amheuon am arddull byw gwrwgydiol ddim yr un peth a dweud bod y lot yn perfs ac mai siambr nwy ydi eu lle nhw, tydi dweud bod rhai o'r pethau roedd ffeministiaid yn eu dadlau yn y 70au a'r 80au wedi eu seilio am ddamcaniaethau cyfeiliornus ddim yr un peth a dweud y dylid boddi'r job lot fel gwrachod. Os wyt ti'n gwthio pob dadl i'w heithaf, a chyhuddo dy wrthwynebwyr o fod ar eu ffordd tuag at yr eithafion, mae'n anodd cynnal dadl gall.


Sôn am gymryd pethau i'r eithaf, ti wedi cymryd fy nadl fan hyn a stwffio llond dwrn o eiriau mewn i fy ngheg i. Eironig, ti ddim yn meddwl? Tydi fi'n dweud fy mod i'n meddwl bod lle i grybwyll y Natsïaid fel rhybudd i bobl sy'n dangos tueddiadau hiliol a homoffobic ddim yn dweud fy mod i am ei hongian nhw fel y Natsïaid yn yr Nuremberg Trials chwaith. :)

Be' bynnag, dw i'n cael fy hel oddi ar y cyfrifiadur nawr. Mi wna i ymateb i'r uchod yn llawnach rywbryd eto.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron