Digwydd edrych trwy hen gyfraniadau maes-e yn ddiweddar a gweld y geiriau natsi a ffasgydd yn codi sawl gwaith. Gwneud ymchwil sydyn a gweld bod y ddau air yma ac amrywiaethau arnynt yn cael eu defnyddio dros i 200 o weithiau - mwy na dwy waith mor aml ag mae Ceidwadwyr ac amrywiaethau ar y gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio.
'Rwan mae hyn yn rhyfedd. Mae'r Ceidwadwyr yn blaid gyfoes gweddol fawr o ran pleidlais yng Nghymru. 'Dydi'r Natsiaid na'r Ffasgwyr erioed wedi sefyll yma am ddim am wn i.
Fel rheol defnyddir y termau i sarhau pobl, yn arbennig felly pan y gwneir rhyw gyfraniad neu'i gilydd sy'n dangos diffyg goddefgarwch at rhyw grwp neu ei gilydd. Mae beirniadaeth (pam mor bynnag ddi niwed) ar wrwgydwyr, Saeson, rhyw grwp crefyddol neu ei gilydd ac ati, ac ati sy'n torri ar ffetish goddefgarwch y maes yn gwahodd yr ymateb yma.
Roedd y Natsiaid a'r Ffasgwyr braidd yn gas - roedden nhw'n lladd pobl fesul mil. Mae cymharu rhywun sy'n gwneud man feirniadaeth ar rhyw grwp neu ei gilydd efo'r rhain yn bychanu dioddefaint y bobl hynny a laddwyd / anafwyd / garcharwyd go iawn.
Ydi hi'n bryd i bobl feddwl cyn defnyddio'r termau - a chael carma cachu os ydynt yn eu cam ddefnyddio?