Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 3:23 pm
gan GT
Fyddai'r hen Stalin ddim yn cytuno a ti ei fod yn ffasgydd. Efallai mai'r unig beth a wnaeth oedd o werth parhaol oedd gorchfygu ffasgaeth yn Ewrop.

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 4:19 pm
gan Garnet Bowen
GT a ddywedodd:Fyddai'r hen Stalin ddim yn cytuno a ti ei fod yn ffasgydd. Efallai mai'r unig beth a wnaeth oedd o werth parhaol oedd gorchfygu ffasgaeth yn Ewrop.


Roedd "ffasgydd" yn cael ei ddefnyddio yn Rwsia Sofietaidd fel term cyffredinol ar gyfer gelynion y wladwriaeth ormesol - engrhaifft wych o doublespeak. Dwi'n meddwl fod reputation Stalin fel gwrth-ffasgydd wedi ei chwyddo yn aruthrol. Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen, cynllwynio efo Hitler i oresgyn Gwlad Pwyl, a tasa fo ddim wedi marw ym '53, ella bysa'r Iddewon wedi gwynebu ail genocide o fewn 10 mlynedd. Efallai fod milwyr y Fyddin Goch wedi gwneud cyfraniad allweddol i'r ail ryfel byd, ond dwi ddim yn meddwl fod Stalin yn wrth-ffasgydd da iawn.

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2004 6:45 pm
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen


Byddai rhywun sydd efo diddordeb yn Orwell fel sydd gen ti yn dweud hyn. Mae'n wir wrth gwrs i Stalin gefnogi'r Comiwnyddion ar draul yr elfennau Chwith eraill yn y rhyfel cartref (a thanseilio'r rheini). Ond o leiaf roedd o yn cefnogi'r Weriniaeth, sy'n fwy nag y gellir dweud am lawer.

Mae tebygrwydd rhwng llywodraethau unbeniaethol cyn RhB2 wrth gwrs, cred mewn grym llywodraethol llwyr, diddordeb mewn materion milwrol, diffyg goddefgarwch at bobl oedd yn eu gwrthwynebu ac ati.

Mae'n debyg gen i bod gwahaniaethau hefyd - un o blaid busnes, y llall yn erbyn, un efo ideoleg 'genedlaetholgar' y llall efo ideoleg wedi ei seilio ar ar 'gyfartaledd cymdeithasol', un yn edrych ymlaen, y llall yn edrych yn ol.

Hwyrach dy fod ti yn euog o ladd dau dderyn gydag un carreg trwy gysylltu'r Natsiaid a'r Comiwnyddion efo'i gilydd a phardduo'r ddau (nid bod angen gwneud hynny).

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 8:18 am
gan Garnet Bowen
GT a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen


Byddai rhywun sydd efo diddordeb yn Orwell fel sydd gen ti yn dweud hyn. Mae'n wir wrth gwrs i Stalin gefnogi'r Comiwnyddion ar draul yr elfennau Chwith eraill yn y rhyfel cartref (a thanseilio'r rheini). Ond o leiaf roedd o yn cefnogi'r Weriniaeth, sy'n fwy nag y gellir dweud am lawer.


Nid dim ond ar draul yr elfennau eraill. Mae hi'n deg dweud fod rhai o'r comiwnyddion yn Sbaen wedi treulio cymaint o amser yn ymladd yn erbyn anarchwyr, sosialwyr, rhyddfrydwyr etc. nac y gwnaetho nhw yn ymladd milwyr Franco. A digon tila oedd yr help a yrrwyd gan Stalin - lot o hen ynnau wedi eu rhydu, bwledi nad oedd yn ffitio'r gynnau hynny etc. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg deud mai bwriad Stalin yn Sbaen oedd tanseilio mudiadau eraill a allai herio grym yr Undeb Sofietaidd ar y Comintern a mudiadau chwyldroadol asgell-chwith eraill.

GT a ddywedodd:Mae tebygrwydd rhwng llywodraethau unbeniaethol cyn RhB2 wrth gwrs, cred mewn grym llywodraethol llwyr, diddordeb mewn materion milwrol, diffyg goddefgarwch at bobl oedd yn eu gwrthwynebu ac ati.

Mae'n debyg gen i bod gwahaniaethau hefyd - un o blaid busnes, y llall yn erbyn, un efo ideoleg 'genedlaetholgar' y llall efo ideoleg wedi ei seilio ar ar 'gyfartaledd cymdeithasol', un yn edrych ymlaen, y llall yn edrych yn ol.


Ydi'r gwahaniaethau yma yn rhai teg? Mi oedd 'na elfen gryf o genedlaetholdeb yn perthyn i Staliniaeth, a tydw i ddim yn siwr be ti'n ei feddwl gyda "edrych yn ol" ac "edrych ymlaen". Un o elfennau cynhenid ffasgeth ydi obsesiwn gyda'r dyfodol, neu "futurism".

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 9:22 am
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:Nid dim ond ar draul yr elfennau eraill. Mae hi'n deg dweud fod rhai o'r comiwnyddion yn Sbaen wedi treulio cymaint o amser yn ymladd yn erbyn anarchwyr, sosialwyr, rhyddfrydwyr etc. nac y gwnaetho nhw yn ymladd milwyr Franco. A digon tila oedd yr help a yrrwyd gan Stalin - lot o hen ynnau wedi eu rhydu, bwledi nad oedd yn ffitio'r gynnau hynny etc. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg deud mai bwriad Stalin yn Sbaen oedd tanseilio mudiadau eraill a allai herio grym yr Undeb Sofietaidd ar y Comintern a mudiadau chwyldroadol asgell-chwith eraill.


Purion, ond 'doedd yr US ddim yn niwtral fel y rhan fwyaf o wledydd democrataidd (mewn rhyfel lle'r oedd y Cenedlaetholwyr yn ymosod ar wlad ddemocrataidd). Efallai mai'r pwynt pwysig yma yw bod Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth yn diffinio eu hunain fel grymoedd gwleidyddol cwbl groes i'w gilydd - beth bynnag dy ddehongliad di.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ydi'r gwahaniaethau yma yn rhai teg? Mi oedd 'na elfen gryf o genedlaetholdeb yn perthyn i Staliniaeth, a tydw i ddim yn siwr be ti'n ei feddwl gyda "edrych yn ol" ac "edrych ymlaen". Un o elfennau cynhenid ffasgeth ydi obsesiwn gyda'r dyfodol, neu "futurism".


'Dwi'n meddwl i Stalin ddod o hyd i'w genedlaetholdeb yn ystod Rh B 2. Mae'n haws perswadio rhywun i farw tros ei wlad na thros ddamcaniaeth wleidyddol. Roedd Comiwnyddiaeth yn diffinio ei hun fel grym chwyldroadol, tra bod ffasgaeth yn geidwadol.

Nid dyma'r peth pwysig fodd bynnag. 'Rwyt ti, yn ddigon teg, wedi tynnu sylw at debygrwydd rhwng ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Serch hynny byddwn yn dadlau bod dweud bod Comiwnyddiaeth yn ffurf ar ffasgaeth yn gwthio pethau yn rhy bell, ac yn ddefnydd anghysact o iaith. Wedi'r cwbl roedd pymtheg blynedd go dda o'r ganrif diwethaf yn cael eu nodweddu gan gystadleuaeth rhwng Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth. Mae ceisio ymdebygu'r ddau i'r graddau yr wyt ti'n gwneud yn baeddu'r dyfroedd a dweud y lleiaf.

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 9:28 am
gan Garnet Bowen
GT a ddywedodd:'Rwyt ti, yn ddigon teg, wedi tynnu sylw at debygrwydd rhwng ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Serch hynny byddwn yn dadlau bod dweud bod Comiwnyddiaeth yn ffurf ar ffasgaeth yn gwthio pethau yn rhy bell, ac yn ddefnydd anghysact o iaith. Wedi'r cwbl roedd pymtheg blynedd go dda o'r ganrif diwethaf yn cael eu nodweddu gan gystadleuaeth rhwng Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth. Mae ceisio ymdebygu'r ddau i'r graddau yr wyt ti'n gwneud yn baeddu'r dyfroedd a dweud y lleiaf.


Nid dadlau dros debygrwydd 'comiwnyddiaeth' a ffasgaeth ydw i. Dadlau ydw i fod 'na elfennau ffasgaidd cryf i lywodraeth Stalin. Dwn i ddim os ydi hi'n deg trafod Staliniaeth fel math o gomiwnyddiaeth, i ddeud y gwir.

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:01 am
gan Griff-Waunfach
Garnet Bowen a ddywedodd:Nid dadlau dros debygrwydd 'comiwnyddiaeth' a ffasgaeth ydw i. Dadlau ydw i fod 'na elfennau ffasgaidd cryf i lywodraeth Stalin. Dwn i ddim os ydi hi'n deg trafod Staliniaeth fel math o gomiwnyddiaeth, i ddeud y gwir.


Beth am alfennau o Staliniaeth yn lyodraeth Hitler, Mussolinni, a Franco? Wedi'r cyfan oedd y system Stalinaidd wedi ei sefydly cyn i unrhyw Lywodraeth Ffasgaidd cymryd pwer yn Ewrop!

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:22 am
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:'Rwyt ti, yn ddigon teg, wedi tynnu sylw at debygrwydd rhwng ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Serch hynny byddwn yn dadlau bod dweud bod Comiwnyddiaeth yn ffurf ar ffasgaeth yn gwthio pethau yn rhy bell, ac yn ddefnydd anghysact o iaith. Wedi'r cwbl roedd pymtheg blynedd go dda o'r ganrif diwethaf yn cael eu nodweddu gan gystadleuaeth rhwng Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth. Mae ceisio ymdebygu'r ddau i'r graddau yr wyt ti'n gwneud yn baeddu'r dyfroedd a dweud y lleiaf.


Nid dadlau dros debygrwydd 'comiwnyddiaeth' a ffasgaeth ydw i. Dadlau ydw i fod 'na elfennau ffasgaidd cryf i lywodraeth Stalin. Dwn i ddim os ydi hi'n deg trafod Staliniaeth fel math o gomiwnyddiaeth, i ddeud y gwir.


Dadlau ar sail hon oeddwn i Garnet:

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae posib cynnwys Stalin, Pol Pot, Pinochet, Hussein, Mugabe, Suharto a sawl un arall, cyn belled a bod rhywun yn diffinio ystyr ffasgaeth

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 12:09 am
gan Dan Dean
Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Fyddai'r hen Stalin ddim yn cytuno a ti ei fod yn ffasgydd. Efallai mai'r unig beth a wnaeth oedd o werth parhaol oedd gorchfygu ffasgaeth yn Ewrop.


Roedd "ffasgydd" yn cael ei ddefnyddio yn Rwsia Sofietaidd fel term cyffredinol ar gyfer gelynion y wladwriaeth ormesol - engrhaifft wych o doublespeak. Dwi'n meddwl fod reputation Stalin fel gwrth-ffasgydd wedi ei chwyddo yn aruthrol. Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen, cynllwynio efo Hitler i oresgyn Gwlad Pwyl, a tasa fo ddim wedi marw ym '53, ella bysa'r Iddewon wedi gwynebu ail genocide o fewn 10 mlynedd. Efallai fod milwyr y Fyddin Goch wedi gwneud cyfraniad allweddol i'r ail ryfel byd, ond dwi ddim yn meddwl fod Stalin yn wrth-ffasgydd da iawn.

Cytuno efo Garnet! Dwi di bod yn gweld dogfen am Stalin wsos yma a mae'n anhygoel sut ath o i bwer drwy gelwyddau a hefyd sut ath o cael cefnogaeth wrth neud ffilmia propaganda ffug o fo a Lenin efo'i gilydd.
A Khrushchev wedyn yn deud y gwir amdano ar ol iddo farw. Anhygoel.

http://news.bbc.co.uk/onthisday/hi/dates/stories/february/25/newsid_2703000/2703581.stm

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2004 9:06 pm
gan Dylan
Deddf Godwin = y cyntaf i grybwyll y Natsiaid sydd yn colli'r ddadl Delwedd