Ddylasai’r cyfryngau gofnodi gweithredoedd terfysgwyr?

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ddylasai’r cyfryngau gofnodi gweithredoedd terfysgwyr?

Postiogan Macsen » Iau 14 Hyd 2004 4:13 pm

Mae dadl gref ar y ddwy ochor fan hyn.

Margaret Thatcher, 1985 a ddywedodd:Democratic nations must try to find ways to starve the terrorist and the hijacker of the oxygen of publicity on which they depend.


Eich barn? :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ddylasai’r cyfryngau gofnodi gweithredoedd terfysgwyr?

Postiogan GT » Iau 14 Hyd 2004 4:58 pm

Macsen a ddywedodd:Mae dadl gref ar y ddwy ochor fan hyn.

Margaret Thatcher, 1985 a ddywedodd:Democratic nations must try to find ways to starve the terrorist and the hijacker of the oxygen of publicity on which they depend.


Eich barn? :)


Nid peidio cofnodi gweithredoedd terfysgwyr oedd gan yr hen Wyddeles mewn golwg. Roedd pob llofruddiaeth a chyflafan yn cael sylw (a beirniadaeth) di ben draw. Son oedd hi am beidio a gadael i'r cyfryngau torfol ddarlledu geiriau gwleidyddion Sinn Fein.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 14 Hyd 2004 5:06 pm

Pan oedd Gery Adams yn ymddangos ar y newyddion gyda voice-over - Engraifft chwerthynllyd o sensoriaeth Thatcher.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 14 Hyd 2004 9:27 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Pan oedd Gery Adams yn ymddangos ar y newyddion gyda voice-over - Engraifft chwerthynllyd o sensoriaeth Thatcher.


Hyd yn oed yn well yw'r 'satire' ar 'The Day Today', lle mae'r ffigwr Gerry Adams yn gorfod sugno heliwm cyn siarad er mwyn gwneud ei ddatganiad yn llai credadwy - "Your tone is antagonistic, and you're making me very angry!" :lol:

Chwith swydd am ddolen i'r fideo (neu 'chwarae'r organ geg' i chwi ferched)...

Ond nol at y pwynt, wyt ti'n credu bod y cyhoeddusrwydd mae terfysgwyr yn ei gael mor gadarnhaol fel bod pobl yn gweld eu gweithredoedd fel pethau deniadol, yr hoffent eu efelychu? Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng cyfathrebu'r hyn sydd wedi digwydd a chyfleu'r hyn sydd wedi digwydd fel rhywbeth sydd i'w ganmol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ddylasai’r cyfryngau gofnodi gweithredoedd terfysgwyr?

Postiogan Macsen » Iau 14 Hyd 2004 10:02 pm

GT a ddywedodd:Son oedd hi am beidio a gadael i'r cyfryngau torfol ddarlledu geiriau gwleidyddion Sinn Fein.


Tydi o ddim yn bwysig beth oedd Thatcher yn son amdano; mae'r term 'oxygen of publicity' sydd wedi ei gymryd o'r dyfyniad uchod yn ymddangos mewn nifer o'r trafodaethau mwyaf adnabyddus o derfysgwyr. Trafod y cwestiwn, dim cyswllt y dyfyniad. :winc:

Chi bobl sy'n fodlon trafod y cwestiwn, ydach chi'n meddwl y bysai peidio a chofnodi gweithredoedd terfysgwyr yn ei rhwystro rhag ymosod yn y lle cyntaf?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ddylasai’r cyfryngau gofnodi gweithredoedd ter

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 14 Hyd 2004 10:16 pm

Macsen a ddywedodd:Chi bobl sy'n fodlon trafod y cwestiwn, ydach chi'n meddwl y bysai peidio a chofnodi gweithredoedd terfysgwyr yn ei rhwystro rhag ymosod yn y lle cyntaf?


Na, oherwydd nid dyna yw prif nod ymosodiad terfysgol. Mae ymosodiad terfysgol yn gwanhau eich safle yn llygaid y byd. Gwanhau'r gelyn yw'r nod, naill ai yn strategol, neu drwy amlygu difrifoldeb y trallod sydd wedi arwain at y weithred derfysgol.

Y rheswm bod pobl yn arwain at derfysgaeth yn aml yw'r methiant, drwy ddulliau eraill, i ddangos y trallod sydd yn digwydd i'r garfan o bobl y mae'r terfysgwyr yn gysylltiedig â hi.

Ond, yr un modd, bydd terfysgaeth yn digwydd er mwyn achosi difrod a niwed gwirioneddol i'r gelyn. Mae terfysgaeth wedi bodoli ar ryw ffurf cyn dyfodiad y cyfryngau torfol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan GT » Gwe 15 Hyd 2004 6:25 am

Macsen a ddywedodd:Chi bobl sy'n fodlon trafod y cwestiwn, ydach chi'n meddwl y bysai peidio a chofnodi gweithredoedd terfysgwyr yn ei rhwystro rhag ymosod yn y lle cyntaf?


Wnaeth y ffaith nad oedd cyfryngau torfol i adrodd ar eu gweithredoedd ddim atal Judas Macabeus rhag gwneud y math yma o beth i'r Persiaid(?), a 'dwi'n siwr nad oedd Partisans Tito ddim yn cael llawer iawn o ocsijen cyhoeddusrwydd gan y Natsiaid.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron