Tudalen 1 o 3

Dim bren dim pleidlais

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 11:40 pm
gan Realydd
:?:

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 12:49 am
gan Macsen
Wrth gwrs. Ond dw i o'r farn y dylai pobl fedru dangos ryw wybodaeth o'r prif faterion dan sylw cyn medru gwneud. Fel mae hi heddiw rheolaeth doxa dros philosophia yw democratiaeth, barn dros wybodaeth.

Dwi'n gwybod na allet ti gredu bod angen IQ uchel i bledleisio, Realydd, neu fysai Bush yn bell o'r Ty Gwyn.

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 10:05 am
gan Mr Gasyth
Yr unig gymhwyster o ran dealltwriaeth faswn i'n ei orfodi ar bobl cyn iddynt gael pleidleisio ydi eu bhod yn deallt y cyfarwyddyd 'rhowch groes mewn un blwch'.
Ni ddylid mynd ati i geisio deall na chyfri pleidleisiau bobol sydd rhy dwp i wneud hyn.

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 10:26 am
gan Geraint
Cwestiwn (nid pwynt na barn): Ydi pobl efo anableddau (fel down syndrome) yn cael pelidleisio?

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 10:56 am
gan ceribethlem
geraint a ddywedodd:Cwestiwn (nid pwynt na barn): Ydi pobl efo anableddau (fel down syndrome) yn cael pelidleisio?

Am wn i mae pawb sydd dros 18 yn cael pleidleisio, ond am y rheini sydd mewn ysbyty meddwl neu carchar i'r gwallgo.
Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy wedi clywed son am hyn sbel nol.

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 11:03 am
gan Hedd Gwynfor
Dylai pawb ond pobl fel Realydd cael yr hawl i bleidleisio! :winc:

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 2:21 pm
gan ceribethlem
Mae'r wefan hwn yn dangos pwy sydd a'r hawl a phwy sydd heb yr hawl i bleidleisio.
Gweler y rhan
Who may not vote?


Hereditary Peers who are members of House of Lords. However, hereditary Peers who have been excluded from the House of Lords under the provisions of the House of Lords Act 1999 are now eligible to vote
Those aged less than 18
Foreign nationals (including citizens of European Union countries who are resident in Britain)
Patients detained in psychiatric hospitals as a consequence of criminal activities
Sentenced prisoners
Those convicted within previous 5 years of corrupt or illegal election practices
Those not on the electoral register
Source: Representation of the People Act 1983 (as amended)
Parker's Law and Conduct of Elections. Richard Clayton. Charles Knight. 1996. (s 2)
House of Lords Act 1999

Mae'r rhan oeddwn i'n meddwl amdani mewn bold.

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 2:31 pm
gan Barbarella
Mae mesur IQ ond yn mesur un agwedd cul iawn o allu rhywun. Felly wrth gwrs ni ddylai fod yn brawf o dilysrwydd rywun i bleidleisio.

Cwestiwn pwysicach, yn dilyn canlyniad yr etholiad, yw: Dylai pobl hefo IQ llai na lefel arbennig gael yr hawl i fod yn Arlywydd yr UDA? ;-)

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 5:29 pm
gan Gimpster
son am hyn weler hwn

http://chrisevans3d.com/files/iq.htm

yn dangos iq y pobol nath bleisleisio i kerry a bush.... diddorol

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 5:52 pm
gan Chwadan
Hehehe, cyfartaledd rheina ydi 97.36. Ma IQ America'n is na'r cyffredin :winc: