Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 8:38 pm
gan Realydd
Lol yw IQ tests. Ti'n gallu stydio amdanyn nhw i wella dy sgor... a dipyn o sampling error yn y sgors ddwedwn i

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2004 6:02 pm
gan Dylan
Lol yn wir ydi profion IQ. Cwbl mae nhw'n dweud ydi pa mor dda mae rhywun efo profion IQ. 'Dydi nhw ddim yn golygu lot mwy na hynny, ac yn sicr 'dydyn nhw ddim yn ddangosyddion da o ddeallusrwydd.

bron iawn ar yr un lefel ag astrolygaeth yn fy marn i. Bolycs.

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2004 6:10 pm
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:Lol yn wir ydi profion IQ. Cwbl mae nhw'n dweud ydi pa mor dda mae rhywun efo profion IQ. 'Dydi nhw ddim yn golygu lot mwy na hynny, ac yn sicr 'dydyn nhw ddim yn ddangosyddion da o ddeallusrwydd.


Wn i ddim. Mae pobl ag IQ uchel yn tueddu i fod yn glyfar. Wrth gwrs, mae'n dibynnu sut wyt ti'n diffinio 'clyfar'. Dwi'n warthus pam mae'n dod i wybodaeth cyffredinol, ond diffyg cof a mynedd gyda ffeithiau dibwynt yw hynny, dim twpdra. Mae gen i IQ o 138, a dw i wedi bod yn ddigon clyfar i fedru cyraedd lefelau uwch system addysg y wlad, felly bosib ei fod o'n cyfri am rywbeth. Mae gan fy mam IQ o 163, a mae hi'n glyfrach 'na fi (ar y funud, disgwyl tan bod hi'n ffwndrus a fethedig). Felly dw i'n meddwl ei fod o'n ddynodiad aneglur o pa mor glyfar yw person. Mae'n amlwg bod pobl a IQ uchel yn ddiymhongar ar y naw hefyd. :winc:

Dylan a ddywedodd:Bron iawn ar yr un lefel ag astrolygaeth yn fy marn i. Bolycs.


Mae hynny'n hurt, yn amlwg mae gen ti IQ o 6.

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2004 6:14 pm
gan eusebio
Pam mae pobol yn trafferthu ateb edefyn gan RET sydd yn amlwg wedi ei osod er mwyn profi pwynt bach plentynaidd mewn edefyn arall.

Yn bersonol, os yw rhywun yn gofyn cwestiwn, byddai'n well gen i petaent yn ceisio ei ateb eu hunain cyn disgwyl i bawb arall wneud.

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2004 6:16 pm
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:Mae hynny'n hurt, yn amlwg mae gen ti IQ o 6.


Dyna'n union pam 'dw i'n gobeithio mai lol ydi o i gyd :(

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2004 6:17 pm
gan Macsen
eusebio a ddywedodd:Pam mae pobol yn trafferthu ateb edefyn gan RET sydd yn amlwg wedi ei osod er mwyn profi pwynt bach plentynaidd mewn edefyn arall.


Ond mae'r edefyn wedi blaguro mewn i rywbeth diddorol, fel rhosyn yn ffynnu mewn pot o fwd.

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2005 9:10 am
gan Lowri
Wel, Pawb a'i farn!!! Dylai pawb dros 18 gael y bledlais beth bynnag fo'i IQ nhw!!

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2005 10:22 am
gan dafydd
Fe ddylai pawb gael pleidleiso beth bynnag yw ei IQ - mae'n mynd ar dir peryglus i ddweud na ddylai un carfan o gymdeithas ddim gael yr hawl i fynegi barn.

Mae yna demtasiwn i bobl ddeallus (ond ddim digon deallus) i ddweud "os oedd pawb arall mor ddeallus a fi, fasen nhw'n meddwl yr un fath a fi a fase'r byd yn lle llawer gwell" a mae'r syniad yna yn beryglus iawn hefyd.

Gyda llaw, bolycs ydi'r siart o IQ/pleidleisiau.

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2005 10:26 am
gan Lowri
Weden ni fod mwy o frains da'r pobl sda IQ isel i gymharu da'r gwleidyddion ma!!!

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2005 5:30 pm
gan Cymro13
Os ydych chi'n gwrthod pobl sydd a IQ is y bleidlais i fi ma hynna'n golygu nad ydyn nhw yn gorfod byw dan gyfreithiau'r wlad honno am nad ydyn nhw men ffordd ddim a'r hawl i benderfynnu beth yw'r gyfraith i ddechrau-be chi'n meddwl