Tudalen 1 o 3

Plwyfoldeb

PostioPostiwyd: Mer 17 Tach 2004 10:35 pm
gan Realydd
Ydych chi'n blwyfol? Yw cyfrannu i bethau yn eich cymuned yn bwysig i chi, neu ydych chi ddim ond yn byw yn eich cymuned a treulio'ch amser & arian yn y trefi, neu'n gwylio'r teledu, neu defnyddio'r we? Ydych chi'n cyfrannu i bethau yn eich cymuned nac ydych chi'n cael budd uningyrchol ohonynt, neu ydych chi'n sianelu eich arian tuag at y pethau rydych chi'n cael budd ohonynt yn unig?

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 12:31 am
gan nicdafis
Bob un o'r uchod.

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 12:42 am
gan Realydd
OK Nic. Tybed yw Cymry ifanc yn heidio i lefydd fel Caerdydd er mwyn osgoi disgwyliadau plwyfol?

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 7:52 am
gan nicdafis
Sori, o'n i wedi meddwi neithiwr. Dw i'n neud fy ngorau i byw fy mywyd yn fy nhgymuned, a'n economi, leol, ond dyw hyn ddim yn bosibl bob tro. Dw i newydd prynu cyfrifiadur newydd, er enghraifft, ond yn lle prynu o un o'r siopau cyfrifiaduron yn Aberteifi, es i yn syth at Apple yn Iwerddon. Rhan o'r rheswm am hyn yw nad oes siop yn Aberteifi sy'n gwerthu Afalau, ond 'na ni, mhenderfyniad i oedd hi.

Ydy pobl ifainc yn ei hegla hi i Gaerdydd? Ydyn, lle mae hynny yn ddewis sy'n agored iddyn nhw (ti wedi ei hegla am Fanceinion, felly elli di ateb dy gwestiwn dy hunan yn well na fi).

Ond dw i ddim yn siwr iawn os dw i'n deall dy gwestiwn, neu wyt ti'n gofyn mwy nag un? Am wn i dydy plwyfoldeb (tuedd at dy blwyf), yn ei hunan, ddim yn beth drwg, er gwaethaf barn papurau Llundain, sydd yn fwy plwyfol nag unrhyw papur bro.

Ach, does dim amser 'da fi i weithio mas beth dw i'n trial ei ddweud. Dw i'n siwr bod digon yna i ti brofi mod i'n siarad trwy fy nhin.

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 10:10 am
gan Llefenni
Dwi'n cael y profiad ar hyn o bryd o ennill fy ngrhwstyn yn fy maes arbennigol mewn tref gachlyd ddeheuol sy'n bell iawn o 'nghartre yn y canolbarth. Dwi'n dod o bentre' bach cafodd ei 'choloneiddio' i raddau cyn bu sôn am 'Cymuned', a dwi'n gallu neud dim llawer am hyn o lle ydw i wan. Does dim llawer o debygrwydd y byddai'n gallu mynd yn ôl yno yn y dyfodol agos (na hir dymor o be' welai) heb newid fy maes gweithio a chymryd torriad yn fy mhae gwael fel mae hi.

Does gen i ddim owns o gariad plwyfol i'r lle dwi'n byw ynddo rwan, es i i Goleg Aber, ddim yn wirion o bell o adre, a roedd gennai deimlad reit gynnes at y lle. Tase' gennai'r siawns i fod yn blwyfol mi fydden i - gennai lot o hiraeth am adre :crio: (er bod y lle ddim yn wych, mae o'n adre! :winc: )

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 10:11 am
gan Sleepflower
Sa i'n gweld unrhyw fath o fudd mewn gosod y cyfrifoldeb dros ein cymunedau ar unigolion. Mae'n bosib i blentyn deall mae grymoedd ehangach sy'n gyfrifol dros farwolaeth ein cymunedau.

Fel dywedodd Nic, mae'n bosib i rywun fod "all of the above", yn weithgar ac yn adnabyddus yn eu cymedau, tra'n mwynhau preifatrwydd nhw eu hunain. Dyma sy'n dod yn naturiol i bodau dynol.

Ond er mwyn galluogi i unigolion ymddwyn fel hyn, rhaid gosod cyfyngiadau ar y ffactorau sy'n tanseilio ein cymunedau, megis y sefyllfa argyfyngus sydd ar y farchnad dai, diffyg buddsoddiad mewn egni adnewyddol ayb

Realydd, paid ceisio gosod y bai ar unigolion am symud i Gaerdydd...

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 10:26 am
gan Fatbob
nicdafis a ddywedodd:Bob un o'r uchod.


Ma'n rhaid i fi gytuno da Nic. Dwi'n byw mewn cymuned wledig a dwi'n ceisio cyfrannu gyment a dwi'n gallu at bethe o fewn y nghymuned leol i ond yn aml ma hi'n anodd iawn cal popeth sydd isie arna i o fewn yr ardal hynny. Dwi'n cefnogi'r sinema fach leol, yn mynd i gigs/cyngherddau a dramau, yn aelod o'r galeri leol, prynu llaeth, wyau, cig a llysie o fferm leol, yn prynu bara o fan sy'n dod rownd dair gwaith yr wythnos a pan dwi'n mynd i'r dre(Caerfyrddin) dwi'n prynu nwydde yn y farchnad.

Dwi'n teithio tipyn 'da ngwaith felly dyw gyrru i Hwlffordd neu i Aberteifi, Abertawe neu hyd yn oed Caerdydd ddim yn ormodol er mwyn cael gweld drama, neu i fynd i weld perfformiad, arddangosfa neu ffilm arbennig. Ma'r ffaith y mod i yn byw mewn cymuned wledig yn golygu y mod i'n fwy parod i deithio. Ond ma'n rhaid i fi ddweud 'fyd y mod i'n gorfod teithio yn aml er mwyn cal y cyfle i weld/gwneud lot o'r pethe ma.

Fel ddwedodd Nic am i Afal dwi yr un peth da dvd's, ma'r siop agosa rhyw 4 milltir i ffwrdd o nghartre a dos braidd dim dewis o ffilmie dwi isie weld yna felly dwi di seinio fyny arlein i gal dvd's drwy'r post. A ma fe fel tase fe'n gweithio'n dda iawn i ddweud y gwir.

Dwi'n dod o Gaerdydd a di symud o'r ddinas ddrwg i gefn gwlad, dwi'm yn y ngweld i erioed yn symud yn ol i'r ddinas chwaith. Pan o ni yno mi oedden i'n cymryd rhan yn lot o bethe ond dwi'm yn meddwl y mod i'n sylweddoli gyment o arlyw oedd ar gael bryd hynny. Dwi'n gweld fod lot o bobol yn symud i Gaerdydd ond ma na gymuned arbennig o'r rheini sydd di symud i'r ddinas yn enwedig y Cymry Cymraeg (dwi'n siarad am lot o aelodau Maes-e) sydd a golwg hollol wahanol o'r ddinas i beth dwi'n i weld. Fues i fyth yn rhan o'r gymuned Gymraeg yma yng Nghaerdydd, ma'r mwyafrif o fy hen ffrindie yn dod o'r ddinas o'r dosbarth gweithiol(Saesneg ei hiaith) yn hytrach na'r dosbarth canol dysgedig(Cymraeg i hiaith).

Dwi di spowtio digon o rwtsh nawr, fel ddwedodd Nic dwi'm yn siwr os dwi'n ateb dy gwestion ta peidio Realydd ond gelli di gymryd be ti isie o be dwi di ddweud.

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 7:05 pm
gan Realydd
nicdafis a ddywedodd:Ond dw i ddim yn siwr iawn os dw i'n deall dy gwestiwn, neu wyt ti'n gofyn mwy nag un? .


Mae na lawer o bwyntiau trafod dan y pwnc yma. Rydw i'n meddwl mai rhywbeth sy'n y cymunedau gwledig gan fwyaf yw'r teimlad fod rhaid i un fod yn blwyfol, i gyfrannu i bethau yn y pentref neu'r plwyf.

(Tydw i ddim yn rhoi barn un ffordd na'r llall fod plwyfoldeb yn beth da neu ddrwg.)

Os ti'n mynd rownd y pentref/y plwyf i gasglu arian tuag at dy gymdeithas di, yna mae disgwyl i ti roi tuag at gymdeithasau pobl eraill yn yr ardal.

Gall rhai ddadlau fod nhw ddim yn cytuno a rhoi arian tuag at gymdeithasau yn y gymuned nad yw nhw'n elwa'n uniongyrchol ohono. Mae eraill yn hoff o helpu i gynnal pethau yn y gymuned hyd yn oed os nad yw nhw yn elwa yn uniongyrchol o'r peth. Eraill ddim yn rhoi na derbyn gan neb.

Yn sicr mae pobl plwyfol yn barnu rhai sydd ddim yn rhoi tuag at bethau yn y gymuned. Yw hyn yn iawn? Neu a ddylai dewis pobl i beidio cefnogi pethau yn y gymuned gael ei pharchu?

Os ti ddim yn rhoi at bethau yn yr ardal, wyt ti'n cyfrannu tuag at farwolaeth y gymdeithas Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 7:21 pm
gan GT
Realydd a ddywedodd:OK Nic. Tybed yw Cymry ifanc yn heidio i lefydd fel Caerdydd er mwyn osgoi disgwyliadau plwyfol?


Rhyfedd dy glywed di yn holi am hyn Realydd.

Mae pobl yn symud i fyw i leoedd oherwydd grymoedd economaidd sylfaenol. Mae llafur yn dilyn cyfalaf.

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2004 7:35 pm
gan lleufer
Dw i'n credu os yw un yn dewis byw mewn cymuned yna mae'n bwysig iddynt gefnogi y gymuned honno. Ond efallai bo rhaid i ni ddarganfod rhywbeth yn ein cymuned y medrwn gyfrannu yn effeithiol ato sydd yn adlewyrchu ein sgiliau a faint o amser/arian rhydd sydd genym?

Mi wn i bod yna lawer mwy o bethau y medrwn i fod yn cyfrannu atynt yn fy nghymuned, ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol rhaid i minnau wneud fy ngwaith ymchwil a chael gwell rheolwaith yn fy mywyd dyddiol, e.e, prynnu nwyddau a chynyrch lleol, yn lle cwyno bod yna ddim amser ac yna rhedeg i'r arch farchnad agosaf a thaflu popeth i'r un fasgiad.

Mae bywyd weithiau yn ein gwthio tuag at dreulio nosweithiau o flaen y tan yn cwyno am bwysa'r dydd yn hytrach na mynd allan i gefnogi gweithgareddau lleol.

Fallai bo ni yn rhy ddiog? Mi wn i fy mod i weithiau.