Plwyfoldeb

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Realydd » Iau 18 Tach 2004 8:35 pm

lleufer, ti'n codi nifer fawr o bwyntiau diddorol.

Un pwynt diddorol yw'r un am brynu'n lleol. Ydy pobl yn ddigon plwyfol i brynu car yn eu garej lleol sy'n cadw Cymro Cymraeg lleol mewn bywoliaeth, neu yw nhw'n mynd i Gaer i gael un am bris llai?

Pam ddylia ni gadw Cymro Cymraeg sy'n gwerthu am bris anghystadleuol mewn busnes? Onid yw hi'n well i'r person yma fynd allan o fusnes a gweld "Cheap cars r us" yn symud i mewn yn ei le...? Ceir rhad ar ein stepen drws wedyn, a dwi'n siwr y bydd nhw'n cyflogi pobl lleol... ?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Realydd » Iau 18 Tach 2004 8:41 pm

lleufer a ddywedodd:
Mae bywyd weithiau yn ein gwthio tuag at dreulio nosweithiau o flaen y tan yn cwyno am bwysa'r dydd yn hytrach na mynd allan i gefnogi gweithgareddau lleol.

Fallai bo ni yn rhy ddiog? Mi wn i fy mod i weithiau.


Mae nifer o bobl yn honni mae'r teledu sydd ar fai nad yw pobl yn mynd i gyngherddau yn eu neuadd bentref bellach. Mae'n llawer haws eistedd mewn ar noson oer o aeaf yn gwylio bron unrhywbeth ti isio ar deledu digidol hefo 300+ sianel, na mynd allan i'r neuadd bentref i wrando ar rywun yn adloni yn y fan honno.

Mi wn i bod yna lawer mwy o bethau y medrwn i fod yn cyfrannu atynt yn fy nghymuned, ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol rhaid i minnau wneud fy ngwaith ymchwil a chael gwell rheolwaith yn fy mywyd dyddiol


Yn union, mae gwneud y math yma o beth yn golygu gwaith a heddiw ni wedi hen arfer cymryd yr opsiwn hawdd.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan sian » Iau 18 Tach 2004 9:00 pm

Dw i ddim yn siwr a oes rhywfaint o gymylu ar ystyr "plwyfol" fan hyn.
Yn ôl GPC, mae plwyfol yn golygu "cul o ran meddylfryd, syniadau etc" ond dydi rhywun sy'n dymuno cyfrannu at ei gymdeithas yn ddiwylliannol/economaidd/cymdeithasol ddim yn gul ei feddylfryd - yn wir, gall fod yn eang iawn ei feddylfryd.

Dw i ddim yn siwr a yw pobl yn heidio i Gaerdydd etc er mwyn osgoi cyfrifoldebau pentrefol ond mae'n siwr bod bywyd mwy 'anhysbys' y ddinas neu le dierth yn gallu apelio, yn enwedig os oes disgwyliadau mawr ar rywun mewn cymdeithas 'glòs'.

Hyd yn oed mewn pentrefi, dyw pobl ddim mor dueddol erbyn hyn i fynd i gyfarfodydd cymdeithasol etc i "ddangos wyneb". Peth da i raddau mae'n siwr ond mae hefyd yn golygu bod llai o lewyrch ar bethau cymdeithasol ac yn y pen draw bod llai o bethau'n cael eu cynnal.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan lleufer » Iau 18 Tach 2004 9:40 pm

Realydd a ddywedodd:Mae nifer o bobl yn honni mae'r teledu sydd ar fai nad yw pobl yn mynd i gyngherddau yn eu neuadd bentref bellach. Mae'n llawer haws eistedd mewn ar noson oer o aeaf yn gwylio bron unrhywbeth ti isio ar deledu digidol hefo 300+ sianel, na mynd allan i'r neuadd bentref i wrando ar rywun yn adloni yn y fan honno.


Dw i'n cytuno gyda ti, ond y joc ydy yn ein ty ni mae mynd am yr opsiwn o aros yn y ty ar ddiwedd diwrnod caled yn hytrach na mynd allan i gyngerdd neu weithgaredd lleol, yn meddwl potel o win a sgwrs. Mae'n braf weithiau cau y byd allan yn gyfan gwbl a troi ffwrdd wsti.

Realydd a ddywedodd:
lleufer a ddywedodd:Mi wn i bod yna lawer mwy o bethau y medrwn i fod yn cyfrannu atynt yn fy nghymuned, ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol rhaid i minnau wneud fy ngwaith ymchwil a chael gwell rheolwaith yn fy mywyd dyddiol


Yn union, mae gwneud y math yma o beth yn golygu gwaith a heddiw ni wedi hen arfer cymryd yr opsiwn hawdd.

Ydyn oherwydd bo bywyd a'r byd yn rhoi gymaint o bwysau arnom dyddiau hyn.

Realydd a ddywedodd:Un pwynt diddorol yw'r un am brynu'n lleol. Ydy pobl yn ddigon plwyfol i brynu car yn eu garej lleol sy'n cadw Cymro Cymraeg lleol mewn bywoliaeth, neu yw nhw'n mynd i Gaer i gael un am bris llai?

Pam ddylia ni gadw Cymro Cymraeg sy'n gwerthu am bris anghystadleuol mewn busnes? Onid yw hi'n well i'r person yma fynd allan o fusnes a gweld "Cheap cars r us" yn symud i mewn yn ei le...? Ceir rhad ar ein stepen drws wedyn, a dwi'n siwr y bydd nhw'n cyflogi pobl lleol... ?

Yn hyn o beth oes yna ddyletswydd ar fusnesau lleol i gyflenwi gwasanaethau a nwyddau am brisiau teg fel bo ddim raid i ni fynd i edrych ymhellach er mwyn cadw ein pennau uwchlaw y llanw yn ariannol?
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Realydd » Iau 18 Tach 2004 9:50 pm

lleufer a ddywedodd:Yn hyn o beth oes yna ddyletswydd ar fusnesau lleol i gyflenwi gwasanaethau a nwyddau am brisiau teg fel bo ddim raid i ni fynd i edrych ymhellach er mwyn cadw ein pennau uwchlaw y llanw yn ariannol?


Dwn i ddim oes dyletswydd ond dylai'r farchnad eu gorfodi nhw i ostwng prisiau... ond wneith nhw ddim gostwng y prisiau os yw pobl yn fodlon prynu'r ceir am y prisiau yna am eu bod nhw hefo cydwybod lleol...

Y cwestiwn yw: a yw Cymro Cymraeg sy'n byw yng Ngogledd Cymru yn gwneud da, neu drwg, i'w gynefin os yw o'n penderfynnu prynu car yn y garej lleol am £500 yn fwy na beth fuasai'n ei gael mewn archfarchnad ceir yng Nghaer?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan lleufer » Iau 18 Tach 2004 10:37 pm

Wn i ddim lawer iawn am fusnesau gwerthu ceir yn enwedig rhai etholfraint. Yr unig beth y gwn yw bo perygl i fusnesau ceir etholfraint golli cytundebau os yw gwerthiant yn gostwng.

Ond weithiau mae rhywun yn teimlo'n safach prynu car gan Mr Jones y garej lleol na gan Cars R Us. :?:

Ond tybiaf i fusnes sydd yn gwerthu llysiau/cig lleol er enghraifft mae'r ffaith bo'r bobl leol yn dewis mynd Safeway i brynu bwydydd yn hytrach na'r siop leol oherwydd ei fod yn fwy hwylys/rhad yn sicr yn mynd i wneud niwed i'r busnesau bach.

Rydym ni yn bersonol wedi penderfyny y dylem wneud rhestr manwl o'r bwydydd rydym yn brynu yn aml ac yna darganfod o lle medrwn eu prynu yn lleol a pham mor aml yr ydym eu hangen ac yna gweithio rhyw fath o sustem lla nad oes raid i ni fynd i archfarchnad o gwbl i siopa.

Beth am gysylltu a siopau bach lleol a dweud wrthynt 'Os wnewch chi gadw hwn a hwn fel stoc ar eich silffoedd fe wnaf i ddod yma i'w brynu yn hytrach na mynd i Safeway'

I fynd a'r drafodaeth gam ymhellach, fallai bod yna ddyletswydd arnom i edrych ar labeli bwydydd ac edrych o lle mae'r bacwn a'r llefrith wedi dod cyn ei brynu. Fe es i o gwmpas pedwar siop ym Mhwlleli un tro cyn ffeindio llefrith o Hufenfa De Arfon a hwnnw ddim ond chydyg o filltiroedd lawr y ffordd! mewn un siop darganfyddais carton o lefrith oedd yn dweud 'Packed in Wales'! Gwarthus!
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Realydd » Iau 18 Tach 2004 11:06 pm

Mae gymaint o bwyntiau difyr wedi eu gwneud yn y trafodaeth yma fel y buaswn yn hoffi eu trafod am wythnosau- dwi ddim am wneud hyn gan dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau, ond mi wnaf adio rhywfaint mwy i mewn.

Dwi'n meddwl fod diffinio cymdeithas yn y lle cyntaf wedi mynd yn beth eitha, wel, dibwys. Ers talwm fuasai ti'n gallu estyn map a cwmpawd a gwneud cylch o amgylch pentref a dyna chdi, dyna oedd diffiniad dy gymdeithas. Os oedd gen ti gor yn y pentref yna cor wedi ei ffurfio o bobl y pentref yr oedd.

Heddiw, hefo lonydd gwell a phawb hefo car dio ddim yn beth od i chdi fyw mewn un pentref ond canu mewn cor mewn pentref arall sydd 40 milltir i ffwrdd. I ddweud y gwir, mae'n bosib peidio cyfrannu dim at y pentref ti'n byw ynddo ond bod yn aelod o nifer o gymdeithasau mewn llefydd eraill pell i ffwrdd, a gallu dal galw dy hun yn berson cymdeithasol.

Er hyn, mae'r elfen pentref ni vs pentref nhw, y 'villagism' yma, dal i'w weld yn bodoli... ond tybed yw'n bodoli cymaint ac yr oedd? Oes ganddo yr un teimladau cryf ac yr oedd ers talwm? Yw'r syniad yma o pentref ni yn erbyn chdi braidd past it dyddie yma?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan lleufer » Iau 18 Tach 2004 11:33 pm

Tydan n i ddim yn gorfod dibynnu cymaint er ein cymdogion y dyddiau yma ac oedd pobl ers talwm. Yr ydym wedi datblygu i fod yn fwy annibynnol, technolegol, hyddysg a hunan gynhaliol er mwyn addasu i'r byd rydym yn byw ynddo. Hefyd does dim pwysau cymdeithasol i gadw fyny gyda'r Jonses na chadw gwyneb mewn cymdeithas. Da ni'n hunanol, yn anystyriol a chyda diffyg parch.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 19 Tach 2004 11:19 am

Wel ffacinel.

So chi'n sylweddoli bod cymdeithas yn newid?

Sdim ishe mynd mas i wotcho drama d'wrnode ma pan chi'n gallu wotcho dvd g'tre.

Gallwch chi fod mor weithgar ag erioed yn y "plwyf", a bydd boi lawr ' hewl heb sylwi ar ffac ol.

Ma pobol sy'n gweithio "yn y gymuned" fel arfer yn medru cyfuno gwaith ac amser hamdden, trwy drefnu pethe ma nhw'n mwynhau gwneud. A wedyn cewch bobl sy'n athrawon sy'm yn neud ffac ol "yn y gymuned" ar ol 3.30. Ffac, sain beio nhw fyd. Ond ma'r bobl ma sy'n weithgar iawn ac yn cyfrannu at gymdeithas a chymuned wastad wedi bod yn leiafrif - ond ma'r newid wedi dod o fewn 'y mwyafrif' - lle ma cymaint o ddewis d'wrnode ma o bethe i'w gwneud yn eich amser hamdden.

Ffac, ma fel y Capel. Dyw pobol ddim yn mynd i gapel d'wrnode ma, achos ma cymaint o bethe arall i'w gwneud. Fi'n cofio dy Sul pan yn blentyn, a o'dd hi fel y bedd yn dre. Nawr, ma fel d'wrnod arall - a ma'r pubs ar agor(diolch byth). Ma cynulleidfaoedd llai yn y capel yn dangos newidiadau tra ehangach na just bo pobl ddim yn credu ragor. Wedodd Nietzsche flynyddoedd nol bod Duw 'di marw, ond do'dd hyn ddim wedi lladd cynulliadau cristnogol - nac yn wir y Diwygiad a gafwyd yng Nghymru.

Ffacin silly os chi'n siarad am "bod yn blwyfol". Ma rhai yn, rhai ddim, ma cymdeithas yn newid. Waw ffacin wi.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Di-Angen » Gwe 19 Tach 2004 2:18 pm

Dwi'n credu ei fod yn dodgy iawn i son am "eich plwyf". Dwi'n rhoi tua 7% o'n gyflog cyn treth i charities a'n gobeithio cynyddu hwn, yn helpu pobl gyda'r un tast mewn miwsig drwy roi gwybodaeth/miwsig sy'n amhosib i'w gweld unrhywle arall, ond eto dydy hyn ddim yn caef effaith uniongyrchol ar "fy mhlwyf", hy Gogledd Caerdydd lle dwi'n byw.

Dwi'n edrych ar "plwyf" fel cymuned, sydd ddim o reidrwydd yr un gymuned geographical lle mae person yn byw.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai