Dw i ddim yn siwr a oes rhywfaint o gymylu ar ystyr "plwyfol" fan hyn.
Yn ôl GPC, mae plwyfol yn golygu "cul o ran meddylfryd, syniadau etc" ond dydi rhywun sy'n dymuno cyfrannu at ei gymdeithas yn ddiwylliannol/economaidd/cymdeithasol ddim yn gul ei feddylfryd - yn wir, gall fod yn eang iawn ei feddylfryd.
Dw i ddim yn siwr a yw pobl yn heidio i Gaerdydd etc er mwyn osgoi cyfrifoldebau pentrefol ond mae'n siwr bod bywyd mwy 'anhysbys' y ddinas neu le dierth yn gallu apelio, yn enwedig os oes disgwyliadau mawr ar rywun mewn cymdeithas 'glòs'.
Hyd yn oed mewn pentrefi, dyw pobl ddim mor dueddol erbyn hyn i fynd i gyfarfodydd cymdeithasol etc i "ddangos wyneb". Peth da i raddau mae'n siwr ond mae hefyd yn golygu bod llai o lewyrch ar bethau cymdeithasol ac yn y pen draw bod llai o bethau'n cael eu cynnal.