Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 19 Tach 2004 6:59 pm
gan Realydd
Di-Angen a ddywedodd:Dwi'n edrych ar "plwyf" fel cymuned, sydd ddim o reidrwydd yr un gymuned geographical lle mae person yn byw.


Dwi'n cytuno. Ti'n meddwl fod Cymru'n symud (yn ara deg) o fod yn gymunedau plwyfol i fod yn gymunedau rhanbarthol (fel yn y rygbi)? Mae plwyf yn beth rwystredig, gan fod ti ond yn denu o ardal daearyddol bychan.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Tach 2004 7:00 pm
gan lleufer
Ond beth am pan mae rhywun yn byw mewn pentref bach yng nghanol y wlad?

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 2:48 pm
gan sanddef
mae bod yn blwyfol yn neis os ti'n gallu neud hynny ac os ti'n byw yn rhywle tebyg i Glenbogle ond pwy sy'n gallu beio pobl am ymadael a'u llefydd cartrefol os nad oes swyddi gwerthchweil ar gael,na ddeintyddon,a mae cost tocyn bws i'r dre yn rhy ddrud(ac yn y blaen ac yn y blaen)?
Mae cymuned yn beth gymhleth heddiw.cyfathrebu ydy sail cymuned,felly math o gymuned ydy maes-e.Math arall o gymuned ydy siaradwyr y Gymraeg yn fyd-eang,yn cyfathrebu yn ein hiaith gyfrinachol ein hun...

PostioPostiwyd: Iau 10 Maw 2005 9:07 pm
gan Staesi
Helo

Dwim yn gwbod os ti wedi darllen o Realydd ond mae yna lyfr (ddylanwadol iawn, endwedig yn America) or enw 'Bowling Alone' gan Robert Putnam; syn dadlau fod plwyfolrwydd yn marw allan ohherwydd lot o rhesymau (enwedig Teledu fel ti wedi deud).
Dwi ddim yn hoffi fo fy hun achos mae o efo agwedd 'doom and gloom' iawn am sut mae y byd yn mynd i uffern achos bod hen bobol ddim yn chwarae digon o gemau efo cardiau etc.
Beth bynag, mae o yn ddadl didoddorl iawn. Yn bersonol dwin meddwl bod on beth eitha da fod pobol ddim o dan 'pressure' i fod yn plwyfol fel ersdalwm (gorfod mynd i capel / eisteddfod yr ffocin urdd (enwedig 'cylch' - whats all that about? etc etc).
Hefyd os ti yn dod o lle bach yn y wlad mae yr 'anonimity' or dinas fawr fel Caerdydd yn refreshing iawn, yn fy profiad i beth bynag (wel ddim efo Caerdydd ond tebyg).
Ar y funud dwi yn hapus heb gwybod pwy sydd yn byw ar fy stryd ond ella pan fyddain hyn a efo plant y fyddai efo ryw fath o 'vested interest' mewn adnabod y cymuned a yr athro ysgolion a y tim football etc etc
Ella na rywbeth 'generational' ydio.
Dwim yn gwbod de.

PostioPostiwyd: Iau 10 Maw 2005 11:51 pm
gan Realydd
Staesi a ddywedodd:Ar y funud dwi yn hapus heb gwybod pwy sydd yn byw ar fy stryd ond ella pan fyddain hyn a efo plant y fyddai efo ryw fath o 'vested interest' mewn adnabod y cymuned a yr athro ysgolion a y tim football etc etc
Ella na rywbeth 'generational' ydio.
Dwim yn gwbod de.


Falle ti'n iawn, wnes i ddim meddwl am hyn.