Tudalen 1 o 1

Che Guevara

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2004 10:08 pm
gan Madrwyddygryf
Onni yn Bar Cuba nos wenar. ( Ia dwi'n gywbod.....)

Mi sylwais ar y wal bod na lun enwog o Che Guevara :

Delwedd

Dwi wedi gweld y llun yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gymaint o posteri, crysoedd t ac hysbysebion. Mae ei ddelwedd wedi trawsnewid o fod yn Siosialydd De America, gyda gobeithion i wella sefyllfa y pobl tlawd yno, i fod yn 'Rebel Chic'.

Hyd yn oed yn sticio ei lun mewn bariau digon brwntlyd fel Bar Cuba. Trist iawn.

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2004 10:14 pm
gan Dielw
Ei deulu sydd efo'r hawliau am y llun dwi'n credu felly anfona dy gwynion iddyn nhw. ON. Falle bod fi'n anghywir.

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 9:12 am
gan S.W.
Mae hannes Che Guavara yn rhyfedd, methiant oedd y rhanfwyaf o'i ymgyrchoedd yn America Lladin. Pan gafodd o ei ladd yn Bolivia wnaeth y llywodraeth lanhau ei gorff a'i rhoi yn un o'r ardaloedd mwyaf gwrthryfelgar (cefnogol i ymgyrchoedd Guavara) ond roedden nhw wedi ei lanhau a'i dacluso nes ei fod yn edrych yn debyg i Iesu Grist - mewn ardal hynnod grefyddol roedd hynny'n newyddion drwg gan rhoi statws uwch fyth i Che Guyvara.

Handi o beth ydy'r Discovery Channels ar Sky!

Erbyn hyn mae o just di dod yn beth ffasniynol ymysg myfyrwyr sydd am edrych yn rhyw fath o retro gwleidyddol.

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 9:15 am
gan Dr Gwion Larsen
Yn ôl fy athrawes Saesneg, yr hen miss middleton hwnw ydi'r llun sydd wedi cael ei gopio mwyaf o weithiau! - mental

Re: Che Guevara

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 1:16 pm
gan sanddef
Madrwyddygryf a ddywedodd:Onni yn Bar Cuba nos wenar. ( Ia dwi'n gywbod.....)

Mi sylwais ar y wal bod na lun enwog o Che Guevara :

Delwedd

Dwi wedi gweld y llun yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gymaint o posteri, crysoedd t ac hysbysebion. Mae ei ddelwedd wedi trawsnewid o fod yn Siosialydd De America, gyda gobeithion i wella sefyllfa y pobl tlawd yno, i fod yn 'Rebel Chic'.

Hyd yn oed yn sticio ei lun mewn bariau digon brwntlyd fel Bar Cuba. Trist iawn.


Mae o wedi cael ei ddisodli gan Ricky Gervais erbyn hyn,o leiaf ymhlith myfyrwyr. :lol:

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 3:50 pm
gan Cwlcymro
Dielw a ddywedodd:Ei deulu sydd efo'r hawliau am y llun dwi'n credu felly anfona dy gwynion iddyn nhw. ON. Falle bod fi'n anghywir.


Pwy bynnag dynnodd y llun bia'r hawlfraint.

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 4:10 pm
gan Dielw
yep dwi'n siarad drwy fy nhin. stori ddifyr am y llun -

http://www.guardian.co.uk/Archive/Article/0,4273,4063920,00.html

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2004 1:59 pm
gan Dylan
'Dw i'n siwr byddai Che wrth ei fodd i weld pobl yn gwneud cymaint o arian gyda'i lun!