Gwyn a ddywedodd:Oes unrhyw un yn sefyll arholiad Cymdeithas y Cyfieithwyr fory neu oes rhywun wedi sefyll yr arholiad o'r blaen? Any tips?
Wedi sefyll yr arholiad yn y gorffennol, ac fe lwyddais i yn S>C a C>S. Mae cwpwl o bobl o'r gwaith yn sefyll y peth fory hefyd.
Hmmm, fy nghyngor i yw dy fod ti'n ceisio cadw'r Gymraeg mor naturiol â phosibl. Maen nhw moyn i ti lynu at y testun ar y papur, ond dyw'r iaith ddim mor afiach o dechnegol fel bod dim modd i ti gyfieithu'r peth i iaith naturiol.
Heb fod ishe brolio, o'n i'n meddwl bod yr arholiad yn weddol hawdd. Darne eitha' byr, a'r ieithwedd yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweithio fel cyfieithydd am gyfnod.
I think I'll call myself Donald Twain.