ar gyfer cyrsiau blasu men unrhywbeth yn ardal Caerffili.
Mae Menter Iaith Sir Caerffili eisiau cynnig Cyrsiau i Oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd does dim ar gael yn Gymraeg oni bai am gyrsiau Cymraeg fel pwnc. Mae un o ganolfannau adysg oedolion y Cyngor Sir (ym Medwas ger tref Caerffili) am gydweithio gyda ni drwy ddarparu lleoliad ac arian os allwn ni fel Menter helpu hyrwyddo’r cysriau a darganfod tiwtoriaid. Does dim angen cymwysterau dysgu, dim ond gwybodaeth mewn pwnc/hobi.
I ddechrau mae arian gyda ni i gynnal cyrsiau blasu undydd/hanner dydd ar ddyddiau Sadwrn, ac os bydd rhain yn llwyddiannus gallwn cyrsiau go iawn o ryw 10 wythnos er engrhaifft. Mae’r rhestr isod yn un rydym wedi ei lunio’n gyflym, ond rydym yn agored i unrhyw syniadau am bynciau eraill.
Arlunio
Ffotograffiaeth
Cyflwyniad i gyfrifiaduron
Dylunio gwafanau
Cyhoeddi Pen Ddesg (DTP)
Ieithoedd (Sbaeneg/Ffranged/Eidaleg/Llydaweg)
Cyflwyniad i Lenyddiaeth/Hanes Cymru
Addurno Teisen
Sgiliau Syrcas
Dawnsio Salsa – mae gyda ni diwtor i hwn yn barod a noson wedi ei drefnu
Cic Boxing – efallai bod tiwtor at hyn gyda ni’n barod
Brodwaith
Cyfieithu ar y pryd
Crochenwaith
Trefnu Blodau
Oes rhywun yma fyddai’n gallu cynnig cwrs blasu o leiaf ar yr uchod neu’n nabod rhywun fyddai’n gallu? Byddai tâl wrth gwrs. Os oes diddordeb gyda chi ffoniwch Rhys neu Helen ar 01443 820913 neu anfon Neges Preifat