Ymadroddion ac Idiomau Difyr

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 01 Gor 2005 3:47 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Ooo, ti wnaeth y rhegiadur? mae hynnan adnodd wych - wnes i ei ddarganfod pan o ni wedi bod yn darellen golwg un tro ac roedd na cyfweliad hefo Rhys Ifans; dyma fo'n defnyddio'r gair 'cnychu' a finnai, fel hogan bach dda ydw i, ddim yn gwybod beth oedd hwn. Arol chwylio yn pob geiriadur oedd ganddo fi...ar thesorws, wnes i deipio fo fewn ir tinternet a dyma'r rhegiadur yn dangos o i mi, hefo esboniad bach dwt. O ni'n meddwl mai adnodd official oedd e (nieve dwi sbo!) :winc:

Ai, dwi'n cael ffynding o 3.7 ceiniog y flwyddyn (plys TAW) gan y cwango C.A.G.L.A (Cymdeithas Ariannu Gwefannau Lol Amherthnasol).

30 rheg newydd neithiwr gyda llaw...ond mae'r safon wedi gostwng bois bach.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 01 Gor 2005 3:52 pm

"o fewn trwch adenydd gwybedyn"

"ti fatha ddoe"

"dim gobaith caneri"
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Ray Diota » Gwe 01 Gor 2005 3:57 pm

Mewn i ddifyru, mas i ddiferu!

:lol: 8)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Lodes Fech Glen » Gwe 01 Gor 2005 4:08 pm

Dwl hen yn waeth na dwl ifanc!!
Ooo Diar!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lodes Fech Glen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 108
Ymunwyd: Sad 12 Chw 2005 9:50 pm
Lleoliad: Maldwyn

Postiogan Lowri » Gwe 01 Gor 2005 5:55 pm

Miwn da'r bara, mas da'r pics. Dyma ymadroddion erill sda ni rownd fan hyn sy'n meddwl yr un peth:-

Ma cwpwl o slats yn ishe da'r boi na
So fe'n taro ar yr awr

Os ma pobl yn edrych lawr ar eraill ni'n dueddol i weud bod nhw'n edrych arno ni fel baw isha'r domen

Y gore mae'n siwr yw, daw hi de? pan fo rhywun yn fyr amynedd!!
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan margiad ifas » Gwe 01 Gor 2005 11:43 pm

dim llawn llathan/ma' 'na lechan yn rhydd yn rwla/dio'm yn gant

amynadd 'di amod llwyddo (Siwan - SL)

hyn chydig bach yn wahanol -os bydd rhywun yn tishan - 'ti di dal dy hoedal' - 'sa rywun arall di clwad am hwn?
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell

Postiogan Elsan » Sul 10 Gor 2005 10:14 am

Un o fy hoff ymadroddion ydi pan fydd rhywun yn mynegi syndod ar ol darganfod y bydd rwbath yn cymryd hir i'w neud:
"mi fyddan yma tan Sul y Pys!" - oes na rywun yn gwbod pa bryd yn union ydi hynny gyda llaw??

hefyd mi fydd nain bob tro yn deud wrthai pan fyddai yn gwrthod cymryd panad neu damad i fwyta ganddi hi
"dwyt ti ddim gwerth rhech ddafad......" :D
Rhithffurf defnyddiwr
Elsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Iau 24 Maw 2005 6:04 am
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan bartiddu » Sul 10 Gor 2005 12:16 pm

Mwrc
O's rhywyn heblaw aelodau fy nheulu i yn defnyddio'r gair yma :?:
Fe'i ddefnyddir yn yr un cyfystyr a bloke/boi/hwnna/ ayb
"Jiw drych' ar mwrc draw fanna"
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan carwyn » Sul 10 Gor 2005 12:30 pm

dweud bod rhywun fel "rhech mewn potel", i gyfleu rhywun diwerth. nath mam ddefnyddio "fel rhech 'lyb" hefyd yn ddiweddar, i gyfeirio at ryw Manuel o ddyn yn manorca.

ac hefyd un dda arall glywis i, oedd "cymanfa o ddynes", am rywun sydd (lot) dros ei phwyse.
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

Postiogan sian » Sul 10 Gor 2005 12:46 pm

bartiddu a ddywedodd:Mwrc
O's rhywyn heblaw aelodau fy nheulu i yn defnyddio'r gair yma :?:


Oes - fel rhyw derm o anwyldeb wrth fachgen bach, fi'n credu.
Heb ei glywed ers blynyddoedd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron