Ymadroddion ac Idiomau Difyr

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Geraint » Iau 02 Meh 2005 2:36 pm

'Yno mewn dwy gachiad' yn un da.

e.e. Siôn Môn yn sôn am ei drip mewn Land Rover i'r Dwyrain Canol:
"Mae'n hawdd, da chi yna mewn dwy gachiad" :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cawslyd » Gwe 03 Meh 2005 5:46 pm

"Hita Befo"
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 17 Meh 2005 12:47 pm

Cawslyd a ddywedodd:"Hita Befo"


o ni'n meddwl mai: hidio befo oedd e - a dwi'n dweud hyn trwyr adeg (mae dad o Rhosllanerchrugog) da ni hefyd yn dweud: te befo :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 17 Meh 2005 12:48 pm

Dwli ar yr hwn:
Gan y gwirion ceir y gwir
[/quote]

Hon yn un dda, rhaid i mi gyfaddef 8)
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 17 Meh 2005 12:51 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dwi 'di bod yn meddwl faswn i'n gallu addasu co^d y Rhegiadur a gneud gwefan debyg ar gyfer idiomau/dywediadau...syniad da? Pan gai jians ella.

Dyma hen ddywediadau a diarhebion o Ferthyr Tudful a Llansanffraid oddi ar wefan heglog, hynod od CatalunyaCymru.

"Fel cath i gythraul" yn un da


Ooo, ti wnaeth y rhegiadur? mae hynnan adnodd wych - wnes i ei ddarganfod pan o ni wedi bod yn darellen golwg un tro ac roedd na cyfweliad hefo Rhys Ifans; dyma fo'n defnyddio'r gair 'cnychu' a finnai, fel hogan bach dda ydw i, ddim yn gwybod beth oedd hwn. Arol chwylio yn pob geiriadur oedd ganddo fi...ar thesorws, wnes i deipio fo fewn ir tinternet a dyma'r rhegiadur yn dangos o i mi, hefo esboniad bach dwt. O ni'n meddwl mai adnodd official oedd e (nieve dwi sbo!) :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan sian » Gwe 17 Meh 2005 1:08 pm

bartiddu a ddywedodd:[size=9]
3. Ma’ hanner e’n Penboyr

"Mae ei hanner e'n Chicago" o'n i'n weud - sgwn i p'un ddaeth gynta a pham?
bartiddu a ddywedodd:6. Mae e’ mor dwp a stên

"Mae e mor dwp â slej" o'n i'n weud - dwi'n cymryd mai at y morthwl mae fe'n cyfeirio, nid y peth chi'n reido arno yn yr eira.
bartiddu a ddywedodd:11. Iach a gach y bore, afiach gach brynhawn

O'dd Eirwyn Pontsiân arfer adrodd:
Yr iach a gach y bore,
Yr afiach a gach yr hwyr,
Yr afiach a gach ryw gachad fach
A'r iach a gach yn llwyr.
bartiddu a ddywedodd:18. Ma’ sens mewn cachu’n dene

Beth mae hwn yn feddwl?
bartiddu a ddywedodd:21. Ma’ croen ei dyn ar ei dalcen e’

Cymryd mai "croen ei din" ti'n feddwl. :D

Difyr 'te - rho wybod os ffeindi di ragor.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 17 Meh 2005 1:32 pm

sian a ddywedodd:"Mae ei hanner e'n Chicago" o'n i'n weud - sgwn i p'un ddaeth gynta a pham?


Wel duw duw. O'n i wir yn meddwl mai mond 'Nhad odd yn dweud "Ma hanner o ti'n Chicago 'chan" (pan wy'n rhegi'n ormodol :wps: )

bartiddu a ddywedodd:11. Iach a gach y bore, afiach gach brynhawn

sian a ddywedodd:O'dd Eirwyn Pontsiân arfer adrodd:
Yr iach a gach y bore,
Yr afiach a gach yr hwyr,
Yr afiach a gach ryw gachad fach
A'r iach a gach yn llwyr.


Rhaid mai Pontsiân original yw e. Ond fi di clywed -

Yr iach a gach y bore
Yr iach a gach yr hwyr
Yr afiach a gach mewn talpie bach
Yr iach a gach yn llwyr

bartiddu a ddywedodd:18. Ma’ sens mewn cachu’n dene
sian a ddywedodd:Beth mae hwn yn feddwl?


Ma'n gwneud synnwyr i beidio'i gor-wneud hi weithie. Wel, fel hyn fi'n defnyddio fe.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 17 Meh 2005 1:37 pm

Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?

'Ma isho deryn glan i ganu' yn un da hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan sian » Gwe 17 Meh 2005 1:42 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?


Na, jest pan ti ddim o gwmpas dy bethe'n iawn - wedi blino - methu canolbwyntio - dy feddwl yn bell - ddim yn gwrando.

e.e. os ti'n rhoi allweddi'r car yn y ffrij "O, ma'n hanner i'n Chicago heddi"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan khmer hun » Gwe 17 Meh 2005 1:47 pm

Glywes i foi o Gofi yn siarad wrth ryw ddwy ferch ac yn dweud: 'O, mae o'n hen ffasiwn... fatha jwg.'

Lyfli.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai