Ymadroddion ac Idiomau Difyr

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Gwe 17 Meh 2005 1:51 pm

khmer hun a ddywedodd:Glywes i foi o Gofi yn siarad wrth ryw ddwy ferch ac yn dweud: 'O, mae o'n hen ffasiwn... fatha jwg.'

Lyfli.


"Mae o'n hen ffasiwn fatha beic" maen nhw'n ddweud ffor hyn.

Ac un arall:
Fi'n cofio bod reit embarasd pan ddwedodd mam-gu am ryw ddyn moel "Wel, odd ei ben e'n sheino fel ceille ci yn rhoul" :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 17 Meh 2005 2:15 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?



"Dim llawn llathen" = "a sandwich short of a picnic" (neu bethbynnag ydio'n iawn)

Hefyd yn debyg i'r rhain --> "Gola 'mlaen, neb adra!" a "Bynglo!" (h.y. dim byd fyny grisia, 'mond insiwlêshyn...ond dwi'n ama mai rhyw idiom deuluol ydi hon, ac nac ydi hi'n un a glywir ar hyd a lled y wlad!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan khmer hun » Gwe 17 Meh 2005 2:35 pm

sian a ddywedodd:"Mae o'n hen ffasiwn fatha beic" maen nhw'n ddweud ffor hyn.


Fi'n credu mai fe o'dd wedi neud y dywediad 'fatha jwg' lan ar y sbot, whare teg - jyst meddwl clou da fe.

sian a ddywedodd:"Wel, odd ei ben e'n sheino fel ceille ci yn rhoul" :wps:


Neis.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 17 Meh 2005 2:38 pm

Dwli ar "sheino fel pwrs milgi yn yr houl" a "ma' cro'n ei din ar ei dalcen e", fel ma' Sian wedi'u nodi.

"Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sian » Gwe 17 Meh 2005 2:45 pm

Rhywun arall wedi clywed bod "golwg sabant ar rywun"? - golwg gas - Sgwn i odi e'n dod o "sa bant" - h.y. aros yn ddigon pell, dw i ddim ishe dy weld ti.

A "Bydd dy gro'n di ar y pared os wnei di ....".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Miffi » Gwe 01 Gor 2005 12:47 pm

ma dad yn deud...

"pibo fel rhensan"

a

"rhechan fel giaman"

unrhyw amrywiadau gan unrhyw un?
Miffi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 11:16 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan mam y mwnci » Gwe 01 Gor 2005 1:50 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
"Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)
Da ni'n defnyddio hwn i olygu Bod angen bwytan dda - fyddi di'n dibynnu arno i gael nerth - Bola yn gefejn?
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Gwyn » Gwe 01 Gor 2005 2:08 pm

Un o mets coleg fi'n gweud 'twll yw twll yn twllwch' bob tro odd e'n shelfo mingyr. He's got a point... :lol:
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan mam y mwnci » Gwe 01 Gor 2005 2:43 pm

Os yw rhywbeth yn ffititio'n berffaith ma Mr Mwnci yn dweud ei fod yn 'ffitio fatha bys yn din' :ofn:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan garetshyn » Gwe 01 Gor 2005 3:34 pm

mam y mwnci a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
"Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)
Da ni'n defnyddio hwn i olygu Bod angen bwytan dda - fyddi di'n dibynnu arno i gael nerth - Bola yn gefejn?


Fyddwn ni'n defnyddio hwn i gyfiawnhau byta lot/rhoi pwyse arno.... "O wel, daw bola'n gefen..."

Gas 'da fi hefyd pan ma pobol mewn oed yn rhoi'r compliment "jiw, ma gra'n arna ti" (graen) ,gan olygi bod ti wedi rhoi tipyn o bwyse mlan. :?
Rhithffurf defnyddiwr
garetshyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 9:07 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai