Gem rili rili cwl ar ddyfyniadau

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Iau 12 Gor 2007 9:53 pm

Dim clem - mae jest i ddwy flynedd nôl!
Er - erbyn meddwl - mae 'da fi ryw frith gof bod y gwaith wedi'i wobrwyo yn y Steddfod.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Cacamwri » Gwe 13 Gor 2007 9:20 am

Oce, nai roi dyfyniad i chi te bobol.

"Wrth i Hydref droi'n Dachwedd, mae'r nos a'r tymheredd yn disgyn mewn cytgord yn ystod fy nhaith adref o'r gwaith, ac unwaith eto mae 'nghartref. yn llythrennol ac yn ysbrydol, o dan glogyn o dywyllwch pan dw i'n agor y drws cefn a ffeindio Dad yn darllen y Telegraph wrth fwrdd y gegin."

Gwd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan sian » Gwe 13 Gor 2007 10:09 am

Cacamwri a ddywedodd:Oce, nai roi dyfyniad i chi te bobol.

"Wrth i Hydref droi'n Dachwedd, mae'r nos a'r tymheredd yn disgyn mewn cytgord yn ystod fy nhaith adref o'r gwaith, ac unwaith eto mae 'nghartref. yn llythrennol ac yn ysbrydol, o dan glogyn o dywyllwch pan dw i'n agor y drws cefn a ffeindio Dad yn darllen y Telegraph wrth fwrdd y gegin."

Gwd.


Swnio reit ymhonnus - fel rhywun yn treio bod yn glyfar ac yn methu.
Llwyd Owen? - gobeithio nage fe - dw i'n edrych mlaen at ddarllen Ffydd, Gobaith, Cariad ond swn i ddim yn gallu côpio â nofel llawn o hyn!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Cacamwri » Gwe 13 Gor 2007 10:28 am

Dwi'n ofni bo ti'n gywir Sian! :winc:
Dy dro di...
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan khmer hun » Gwe 13 Gor 2007 2:45 pm

Paid a gadael fe roi ti off Sian; mae rhywun yn maddau arddull flêr fel hyn yn hawdd iddo, achos ma'r paragraff nesa wastad yn hoelio dy lyged yn agored am chwarter awr gyfan, a gelli anghofio am ddadansoddi strwythur a gramadeg cam... mae fel cael dy ddala o dan don enfawr, ddim y sefyllfa ddelfrydol a ti'n cael gwaith anadlu; ond iasu, mae'n hwyl.

Cer amdani.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron