Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw
Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi heb fynd i'r un wlad dramor eto heb gwrdd ag un o leiaf un arall oedd yn siarad Cymraeg.
Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi heb fynd i'r un wlad dramor eto heb gwrdd ag un o leiaf un arall oedd yn siarad Cymraeg.
Eirug yn Harrods a ddywedodd:Wedi crwydro trwy'r adran fwyd, a dotio at yr arddangosfa o bysgod, fe gyrhaeddom adran y fferins a'r siocledi. Roedd criw o bobl wedi casglu rownd un cownter ac yn syllu ar siocled blêr iawn yr olwg. Roedd hyn yn ddigon i Eurig, ac meddai, yn Gymraeg, wrth y ferch tu ôl i'r cownter, gan wenu'n ddireidus
"Esgysodwch fi. Faint y pwys ydi'r cachu yna?"
"Nid cachu mohono, syr" meddai'r ferch tu ôl i'r cownter fel bwled, (mewn acen hyfryd Dolgellau) ac yr un mor ddireidus "Ond siocled o'r Swistir"
Roedd ein sgrechfeydd o chwerthin yn llenwi'r adeilad a'n hymadawiad â Harrods yn un sydyn iawn!!!
Socsan yw cleciad ffigurol dan yr ên - dim oll yw gwneud efo hosanau. Mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r Gair Saesneg Sock To deliver a forceful comment, reprimand, or physical blow to someone else.
Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai