Elsan a ddywedodd:Oni yn eistedd ar lan y môr yn Mallorca un tro gyda fy ffrind pan ddaeth na ddyn hynod o flewog i eistedd yn ymyl. Dyma fi'n pwnio fy ffrind a deud
"yli blewog di cefn hwn"
tan iddo fo droi rownd a gofyn
"jiw jiw- o ba ran o Gymru chi'n dod te??"
dwi'n siwr bo fi di clywed y stori yma'n gymharol ddiweddar! ond dwi'n ame mai gen ti dwi wedi ei chlywed hi, achos dwi'm yn meddwl bo fi'n dy nabod di. neu falle mai'r un dyn oedd o, ond 'i fod o mewn gwlad arall, yn digwydd eistedd wrth ochr cymry...eto.
glywes i un arall, am ryw ddyn oedd yn seiclo lawr o'r gogledd rwle, i'r de 'ma (fel mae pawb bellach de?
) ac yn stopio mewn caffi ar y ffordd. ma'n clywed rhyw ddwy ddynes yn siarad tu ol iddo fo. mi oedden nhw ishe pasio, ond mi oedd ei feic o o'r ffordd. ma'n clywed un ddynes yn deud wrth y llall:
"t'n meddwl allwn ni ofyn i
hwn symud ei feic o'r ffordd i ni ga'l pasio?"
a ma'n ateb "jiw jiw, symuda'i e i chi nawr" a ma'r ddwy jyst yn cerdded i ffwrdd yn embarysd braidd. bechod.
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.