Socsan!!

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Llun 22 Awst 2005 11:04 am

Dwi heb fynd i'r un wlad dramor eto heb gwrdd ag un o leiaf un arall oedd yn siarad Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Elsan » Llun 22 Awst 2005 3:36 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi heb fynd i'r un wlad dramor eto heb gwrdd ag un o leiaf un arall oedd yn siarad Cymraeg.


God-mae o'n digwydd i fi drw'r amsar!! Ma Cymry yn ymddangos yn y llefydd rhyfedda. Yn ddiweddar hefyd, roeddwn ar dren ym Mhrague ac yn ffraeo hefo fy ffrind. Bod yn wirion oeddan ni ac mi oeddan yn deud petha ffiaidd wrth ein gilydd (dwi'n cochi ond wrth feddwl am y petha gafodd eu deud), a'r peth nesa dyma na ddau foi ma yn codi o flaen y tren a cherddad aton ni yn rowlio chwerthin. Dau Gymro Cymraeg o Gaerfyrddin oedd wedi dallt bob gair :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Elsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Iau 24 Maw 2005 6:04 am
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan eifs » Llun 22 Awst 2005 4:20 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi heb fynd i'r un wlad dramor eto heb gwrdd ag un o leiaf un arall oedd yn siarad Cymraeg.


wel mi es i ar wyliau i sbaen, ac wrth gerdded rownd y gwesty, mi welishi pobl drws nesaf, ond di nhw ddim yn siarad cymraeg, a dwi byth yn siarad efo nhw
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 22 Awst 2005 9:00 pm

Dyma engraifft gan Meinir Owen allan o'r Llyfr Cofio Eirug (sef Eirug Wyn)

Eirug yn Harrods a ddywedodd:Wedi crwydro trwy'r adran fwyd, a dotio at yr arddangosfa o bysgod, fe gyrhaeddom adran y fferins a'r siocledi. Roedd criw o bobl wedi casglu rownd un cownter ac yn syllu ar siocled blêr iawn yr olwg. Roedd hyn yn ddigon i Eurig, ac meddai, yn Gymraeg, wrth y ferch tu ôl i'r cownter, gan wenu'n ddireidus

"Esgysodwch fi. Faint y pwys ydi'r cachu yna?"

"Nid cachu mohono, syr" meddai'r ferch tu ôl i'r cownter fel bwled, (mewn acen hyfryd Dolgellau) ac yr un mor ddireidus "Ond siocled o'r Swistir"

Roedd ein sgrechfeydd o chwerthin yn llenwi'r adeilad a'n hymadawiad â Harrods yn un sydyn iawn!!!


Socsan yw cleciad ffigurol dan yr ên - dim oll yw gwneud efo hosanau. Mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r Gair Saesneg Sock To deliver a forceful comment, reprimand, or physical blow to someone else.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Ari Brenin Cymru » Llun 22 Awst 2005 10:48 pm

Hen Rech Blin
Socsan yw cleciad ffigurol dan yr ên - dim oll yw gwneud efo hosanau. Mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r Gair Saesneg Sock To deliver a forceful comment, reprimand, or physical blow to someone else.


Socsan i fi ydi cael eich esgid a'ch hosan yn wlyb ar ol cerdded drwy bwll dwr.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai