Falle dyle 'na fod opsiwn o sefyll arholiad neu wneud cywaith gwaith cwrs. Dyma'r hyn sy'n digwydd mewn sawl pwnc arall e.e. Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth. Mae Lefel A Cymraeg yn bendant yn dibynnu'n fawr ar abledd pobl i gofio cerddi/ffeithiau - e.e. arholiad cerddi UG, arholiad llafar UG lle mae'n rhaid dysgu ffeithiau lu am ffilm a drama, arholiad CY5 lle mae rhaid mwy neu lai dysgu diweddariad Culhwch ac Olwen a Branwen off by heart (yr whole blwmin peth!) + cerddi yn yr Hen Gymraeg, arholiad llafar Lefel A lle mae rhaid dysgu ffeithiau lu am nofel arbennig + cymhariaethau rhwng y nofel honno a llyfrgell o lenyddiaeth Cymraeg eraill! AAAAAAA! Yr ymennydd!
Diolch byth llwyddais i ymdopi (dwi'n gobeithio!) ond rwy'n cytuno y medr hyn brofi'n ormod i rai sydd efallai yn llai parod i iste lawr ac amsugno llenyddiaeth fel sbwng.
Ma' dewis astudio Cymraeg yn golygu blynyddoedd o waith caled, dwys. Ar y llaw arall, mae hi'n gwrs diddorol iawn ac yn bendant yn rhoi digon o wybodaeth i chi fedru wafflan siarad am lenyddiaeth/gramadeg pan fo angen! + Os ych chi'n joio darllen yna ma' hi'n gwrs gret! Os na, wel... ym... !