Exams Cymraeg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Llun 01 Awst 2005 2:27 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Rydw i newydd wneud cwrs TGAU Cymraeg llen ac yn fy marn i dydw i ddim yn gweld dim yn anghywir ar ddysgu cerddi, does dim gofyn i ddysgu'r cerddi i gyd air wrth air, dim ond dysgu chydig o nodweddion iaith, y cynnwys yn fras, enw'r bardd a'r thema. Ac efallai dysgu un neu ddau gerdd yn drylwyr.


A'r mesur!

Yn ein harholiad diwedd blwyddyn roedd rhaid sgwennu am gynnwys cerdd caeth e.e. "Englynion Coffa Hedd Wyn", "Wedi'r Ŵyl" neu "Gwawr". Doedd rhai disgyblion heb ddysgu mesur y cerddi ac felly'n colli hanner eu marciau drwy sgwennu am gerdd sydd ddim yn gaeth fel "Glas" neu "Dysgub y Dail".
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 07 Awst 2005 4:54 pm

Dylni swn i yn galw hynny ac nid bai'r cwrs :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan sian » Llun 08 Awst 2005 3:58 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dylni swn i yn galw hynny ac nid bai'r cwrs :winc:


Snob :drwg:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan huwwaters » Maw 09 Awst 2005 10:48 am

Chwadan a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Credaf fod y cwestiynnau yn reit gyfynedig, gan eu bod yn gallu gofyn am waith Waldo a TH Parry-Williams yn unig. Er eich bod wedi ymdrechu i ddeysgu gweddill y gwaith yn dda iawn, ni allwch dderbyn marciau am eich gwaith. Dyma'r unig wendid yn lefel-A Cymraeg.

Onid dyna bwrpas arholiad - dewis rhan o'r cwrs ar hap, dy brofi arno, a chymryd hynny fel adlewyrchiad o dy wybodaeth o weddill y cwrs? Tasa ti'n cal dy arholi ar yr holl waith ti'n ei neud yn ystod y cwrs sa ti yna am byth :?


Ond dyna yw'r disgwyl, a dyna sut oeddwn i. Ar gyfer yr papur CY3, pob tro tra'n adolygu, cychwyn i ffwtdd gyda Waldo a THPW, a mynd ymlaen at Twm Morys a Gwyn Thomas, a cyn i mi gyrraedd pobl fel Iwan Llwyd a phwy bynnag arall, yr oeddwn wedi gorffen am y noson. Y tro cyntaf i mi gael y papur un o'r cwestiynnau oedd trafodwch themau rhyfel a heddwch. Rwan, dwi'n gwbad fod gwaith Iwan Llwyd am un, yn son lot am ryfela, fod olew yn fwy trwchus na gwaed, ond ddim yn ei chofio i'r un raddfa a Waldo a TH a rhai erill. Yr ail dro wnes i neud yr arholiad, yr oeddwn yn barod am unrhywbeth, ac i fy lwc i, daeth Waldo a TH, ond yr oeddwn yn cofio gyd o'r gwaith; nid aros yn y gobaith na be dwi'n ei wybod sy'n dwad i fyny. Dwi'n cofio Waldo a TH ddigon, i sgwennu am pob nodwedd, gan gynnwys eu hadrodd.

O wel, mae drosodd rwan. On credaf na Cymraeg lefel-A yw'r anoddaf allan o'r Maths, Ffiseg, Daear a Chemeg dwi di neud. A'r un peth ym meddwl disgyblion eraill, un sydd wedi neud Hanes, Ffrangeg a Saesneg.

Mae'r ffaith ei fod yn anodd, ddim yn golygu nad oes mwynhad i'w gael, cofiwch.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron