Dwi'n cytuno â'r rhan fwya o bwyntia rwyt ti'n eu codi, ond rydw i yn un sydd eisio mynd ymlaen i weithio mewn rhywbeth yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg felly mae yna dipyn o wahaniaeth hefyd!! Ac yn wahanol i ti, prin yw fy mywyd i y tu allan i lenyddiaeth Gymraeg
Ar y cyfan, dwi'n hoff iawn o'r maes llafur barddoniaeth, mae'n rhaid i mi ddweud. Oni bai am rai eithriadau (hynny ydy - Glas, Er Cof am Kelly a Y Coed) dwi'n meddwl ei fod o yn cynnig trosolwg ddigon effeithiol o'r farddoniaeth - yr unig bethau sydd ar goll ydy rhywbeth eitha cynnar (er enghraifft un o'r cywyddau hawsaf, rhywbeth fel Marwnad Siôn y Glyn, un o gerddi mwya'r iaith) a rhywbeth gan fardd mwyaf yr iaith erioed yn fy marn i, sef Emyr Lewis. Sa rhywbeth gan Twm Morys yn help hefyd, gan ei fod o yn un sy'n tanio brwdfrydedd mewn barddoniaeth ym mhlant yr oed yma.
Nid y maes llafur ydy'r broblem, felly, ond y dull arholi.
Yn rhan gyntaf yr arholiad llên, fe gewch chi gwestiynau ar rai o'r pymtheg cerdd a ddysgwyd gennych ar eich cof am ddwy flynedd cyn yr un awr honno. Dydy'r pymtheg cerdd i gyd byth yn cael eu defnyddio - ac mae hynny'n wirion yn fy marn i, am resymau addysgol wrth gwrs, er ei bod yn beth da bod plant yn cael trosolwg ar rai o'n cerddi gorau, heb orfod eu defnyddio byth mewn arholiad. Dydy awr ddim yn ddigon i drin y cwestiynau hyn yn gall o gwbl, ac fel y dywedodd Gethin y cwbl ydy'r arholiadau ydy prawf ar ein gallu i gofio geiriau ac i sgrifennu'n gyflym. Nid dyma'r ffordd i arholi'n plant ar brif beth ein diwylliant. Fasa waeth iddyn nhw roi prawf IQ neu rywbeth i ni. Dydw i ddim yn credu bod cwrs heb fod wedi'i anelu ar ddim ond arholiadau yn gwneud cyfiawnder â neb, a phrin ydy'r pethau yr ydw i o unrhyw iws ynddyn nhw ond Cymraeg felly dwi'n poeni llawer am y ffaith mod i yn gofidio'n arw os ydy'r arholiad penodol yma yn mynd i wneud unrhyw gyfiawnder â fi neu neb arall.
Yn fy marn i, er tegwch â phawb, dylid anghofio am arholiadau mewn llenyddiaeth Gymraeg a gweithio'r cwrs i gyd drwy gyfrwng traethodau a gwaith cwrs. Wedyn, gellid canolbwyntio ar wir ddealltwriaeth y disgybl o'r cerddi, gan y gall canlyniad mewn arholiad fod yn gamarweiniol iawn. Dydy hi ddim yn deg ar athrawon, chwaith, i orfod bwydo ffeithiau cyfleus-i-arholiad i ddysgyblion. Byddai'n llawer iawn gwell pe gallen nhw ganolbwyntio ar ddysgu'r cerddi i ni mewn modd sy'n hybu ein dealltwriaeth ni ohonynt nid fel pethau gogyfer ag arholiad ond fel pethau sy'n rhan allweddol o'n diwylliant ni.
Felly, traethodau ac nid arholiadau, plis!!!
Fflamingo - Oes, mae'n rhaid i ni sefyll yr arholiadau hyn (a diolch am hynny), ond mewn mocs y cafodd GJ ei U. Ynglyn â mwynhau y gwaith, dwi'n credu y byddai plant yn gwerthfawrogi'r cerddi yn llawer gwell pe bai strwythur y cwrs yn wahanol. A chael gwared ar y shitbethau aflan a enwais, wrth gwrs.