Exams Cymraeg

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aranwr » Gwe 08 Gor 2005 3:25 pm

Falle dyle 'na fod opsiwn o sefyll arholiad neu wneud cywaith gwaith cwrs. Dyma'r hyn sy'n digwydd mewn sawl pwnc arall e.e. Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth. Mae Lefel A Cymraeg yn bendant yn dibynnu'n fawr ar abledd pobl i gofio cerddi/ffeithiau - e.e. arholiad cerddi UG, arholiad llafar UG lle mae'n rhaid dysgu ffeithiau lu am ffilm a drama, arholiad CY5 lle mae rhaid mwy neu lai dysgu diweddariad Culhwch ac Olwen a Branwen off by heart (yr whole blwmin peth!) + cerddi yn yr Hen Gymraeg, arholiad llafar Lefel A lle mae rhaid dysgu ffeithiau lu am nofel arbennig + cymhariaethau rhwng y nofel honno a llyfrgell o lenyddiaeth Cymraeg eraill! AAAAAAA! Yr ymennydd!

Diolch byth llwyddais i ymdopi (dwi'n gobeithio!) ond rwy'n cytuno y medr hyn brofi'n ormod i rai sydd efallai yn llai parod i iste lawr ac amsugno llenyddiaeth fel sbwng.

Ma' dewis astudio Cymraeg yn golygu blynyddoedd o waith caled, dwys. Ar y llaw arall, mae hi'n gwrs diddorol iawn ac yn bendant yn rhoi digon o wybodaeth i chi fedru wafflan siarad am lenyddiaeth/gramadeg pan fo angen! + Os ych chi'n joio darllen yna ma' hi'n gwrs gret! Os na, wel... ym... :( !
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan Proffesor » Maw 12 Gor 2005 3:45 pm

na...wel...ym, ia!
Tydw i ddim yn rhy siwr fod Geth Jos yn bwriadu cymryd cymraeg Lefel A. Ym... na.... dydw i ddim yn meddwl :?
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan Ffrwchnedd wyllt » Maw 12 Gor 2005 4:48 pm

Hm... Cymraeg - lyf it!!!!
Dwin lyyyyyyfio Cymraeg fel pwnc a dwi am neud o'n lefel A. Sa rywun yn fana heblaw fi'n bwriadu gneud run fath??? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Ffrwchnedd wyllt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 153
Ymunwyd: Iau 26 Mai 2005 4:27 pm
Lleoliad: Fama

Postiogan Geth Jôs » Maw 12 Gor 2005 5:12 pm

nadw :drwg:
"Geth Jôs - bringing you fast and effective relief from reality"
Rhithffurf defnyddiwr
Geth Jôs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 4:02 pm
Lleoliad: Adra, mwy na thebyg

Postiogan Proffesor » Mer 13 Gor 2005 9:08 am

Ffrwchnedd wyllt a ddywedodd:Hm... Cymraeg - lyf it!!!!
Dwin lyyyyyyfio Cymraeg fel pwnc a dwi am neud o'n lefel A. Sa rywun yn fana heblaw fi'n bwriadu gneud run fath??? :winc:


Geth Jos a ddywedodd:nadw :drwg:

Braidd yn amlwg a deud y gwir Geth. - (Do'dd na'm rhaid i chdi ateb) :D
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan twm » Mer 13 Gor 2005 9:55 am

sim isio bod yn ddigywilydd nagos!! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
twm
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 136
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 8:36 pm

Postiogan Proffesor » Mer 13 Gor 2005 4:29 pm

Haha. :D
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan CreyrGlas » Iau 14 Gor 2005 9:44 am

dwi newydd orffen cwrs lefel A cymraeg.

a dwi rili yn cytuno da'r farn bod y ffaith bod rhadi i ni ddysgu'r cerddi a'r chwedlau a popeth arall yn ffycin crap. dwi ddim yn foi sydd a'r cof gore, ac felly o'dd dysgu'r cerddi 'na yn real poen yn y pen-ol. a dyw e chwaith ddim yn ffordd dda o asesu wedyn - os yw un person twp, ond sydd a cof da yn gallu dysgu'r cerddi ar ei gof/chof, yna mae'n haws iddynt lwyddo. ond os oes person cynhenid glyfar yn y Gymraeg, ond sy'n methu cofio bygyr-ol, mae'n ffwcd rili.

roedd y papur CY6 yn llawer yn gwell o ran gwahanu'r gallu, achos roedd angen dadansoddi a gwerthuso ar y pryd. nes i fwynhau hwna lot yn fwy na CY5 :drwg:

er hyn i gyd, nes i fwynhau y rhan fwyaf o'r cwrs cymraeg (heblaw am blydi Un Nos Ola Leuad - na chi ffordd wych o ddinistrio clasur o nofel, eistedd mewn dosbarth am fisoedd tro bod yr athrawes yn darllen yr holl beth mas :drwg: ych pych)

ond dwi ddim yn difaru dewis cymraeg fel pwnc o gwbl. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Postiogan Awen » Iau 14 Gor 2005 10:28 am

Yn bersonol, dwi'n bwriadu dewis lefel A cymraeg yn y coleg. Dwi'm yn actiwali gweld 'i fod o'n broblem fawr i ddysgu'r holl gerddi ond dydw i ychwaith ddim yn gweld sut fydd y cerddi yn ein helpu ar gyfer y dyfodol. Dwi'n mynd i ddewis cymraeg am y rheswm syml mod i 'n ei fwynhau. Ma' rhai megis Geth Jos yn ei chael yn anodd i ddysgu'r holl gerddi, dwi, ar y llaw arall yn cael pleser o wneud hynny. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Awen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Maw 28 Meh 2005 5:22 pm
Lleoliad: ar fy nhin o flaen y cyfrifadur

Postiogan carwyn » Iau 14 Gor 2005 12:36 pm

CreyrGlas a ddywedodd:a dwi rili yn cytuno da'r farn bod y ffaith bod rhadi i ni ddysgu'r cerddi a'r chwedlau a popeth arall yn ffycin crap. dwi ddim yn foi sydd a'r cof gore, ac felly o'dd dysgu'r cerddi 'na yn real poen yn y pen-ol. a dyw e chwaith ddim yn ffordd dda o asesu wedyn - os yw un person twp, ond sydd a cof da yn gallu dysgu'r cerddi ar ei gof/chof, yna mae'n haws iddynt lwyddo. ond os oes person cynhenid glyfar yn y Gymraeg, ond sy'n methu cofio bygyr-ol, mae'n ffwcd rili.


dwi yn union fel hyn, cof rybish, a dyna'r papur nes i waetha ynddo ar gyfer lefel A, er nes i'm yn wych yn ddim un o'r papure cymraeg :wps:

Awen a ddywedodd:Dwi'm yn actiwali gweld 'i fod o'n broblem fawr i ddysgu'r holl gerddi ond dydw i ychwaith ddim yn gweld sut fydd y cerddi yn ein helpu ar gyfer y dyfodol.


does 'na ddim pwynt. dwi di methu modiwl yn y fl gynta, sef llenyddiaeth yr 20fed ganrif, sef dysgu cerddi eto, ac ar fy mhapur mi nes i ddefnyddio cerdd ddaru fi astudio ar gyfer lefel A, a ches i ddim marc am ddefnyddio nhw. oce dwi'n cyfadde-ddylwn i fod wedi dysgu'r cerddi o'n i fod i'w dysgu. ond haws deud na gneud.

blincin ail-istedd wan yn yr ha, :drwg:
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron