Chwadan a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:Credaf fod y cwestiynnau yn reit gyfynedig, gan eu bod yn gallu gofyn am waith Waldo a TH Parry-Williams yn unig. Er eich bod wedi ymdrechu i ddeysgu gweddill y gwaith yn dda iawn, ni allwch dderbyn marciau am eich gwaith. Dyma'r unig wendid yn lefel-A Cymraeg.
Onid dyna bwrpas arholiad - dewis rhan o'r cwrs ar hap, dy brofi arno, a chymryd hynny fel adlewyrchiad o dy wybodaeth o weddill y cwrs? Tasa ti'n cal dy arholi ar yr holl waith ti'n ei neud yn ystod y cwrs sa ti yna am byth
Ond dyna yw'r disgwyl, a dyna sut oeddwn i. Ar gyfer yr papur CY3, pob tro tra'n adolygu, cychwyn i ffwtdd gyda Waldo a THPW, a mynd ymlaen at Twm Morys a Gwyn Thomas, a cyn i mi gyrraedd pobl fel Iwan Llwyd a phwy bynnag arall, yr oeddwn wedi gorffen am y noson. Y tro cyntaf i mi gael y papur un o'r cwestiynnau oedd trafodwch themau rhyfel a heddwch. Rwan, dwi'n gwbad fod gwaith Iwan Llwyd am un, yn son lot am ryfela, fod olew yn fwy trwchus na gwaed, ond ddim yn ei chofio i'r un raddfa a Waldo a TH a rhai erill. Yr ail dro wnes i neud yr arholiad, yr oeddwn yn barod am unrhywbeth, ac i fy lwc i, daeth Waldo a TH, ond yr oeddwn yn cofio gyd o'r gwaith; nid aros yn y gobaith na be dwi'n ei wybod sy'n dwad i fyny. Dwi'n cofio Waldo a TH ddigon, i sgwennu am pob nodwedd, gan gynnwys eu hadrodd.
O wel, mae drosodd rwan. On credaf na Cymraeg lefel-A yw'r anoddaf allan o'r Maths, Ffiseg, Daear a Chemeg dwi di neud. A'r un peth ym meddwl disgyblion eraill, un sydd wedi neud Hanes, Ffrangeg a Saesneg.
Mae'r ffaith ei fod yn anodd, ddim yn golygu nad oes mwynhad i'w gael, cofiwch.