Cytuno Awen. A biti nad ydy Fy Ngwlad ar y maes llafur
Dwi'n credu y dylid cal rhywbeth doniol yno yn sicr, un o'r cywyddau gwych na gan Emyr Lewis fyddai'r peth gora dwi'n medwl, naill ai
Eric, fy mharot neu
Kywydd Kilt Kwl Kymru a ddywedodd:Ro’wn i’n mynd drwy’r Western Mêl
yn daeog ac yn dawel,
darllen â phen yn llawn ffydd
neon y Gymru newydd,
yn gaib a chyfan gwbwl
gredu fod Cymru’n cwl,
pan welais lun dyn â dwy
goes odiaeth o gosadwy
mewn ciltwisg smart, mewn tartan.
Crafais ‘mhen, a darllen dan
y llun y geiriau llanw
‘r wy’n awr am eu rhannu nhw:
“The males in New Wales will wear
trouser-and-jacket dresswear
no more! See the New Welsh man
bearing a cool-celt sporran
(Ioan on the Titanic
used one to cover his dick),
catatonian tartan too.”
Yn gul fy nghoesau gwelw,
myfyriwn am oferedd
di-nod fy mod cyn fy medd:
a minnau’n storm o hormons
sut y jawl cawn Zeta Jones
a’i denu i’m caru? Cilt!
Mawlgan i’r Western Mêlgilt!
Titanic! Catatonia!
Rhaid im, os o’wn Gymro da,
gael un o’r rhain. Gwelwn res
o genod hynod gynnes
glandeg yn rhedeg ar ôl
fi’r cenau llwfr canol
oed, fel y gallont godi
fy ni-lodre odre i.
Es i’r siop, gwario popeth,
herio pawb a gwisgo’r peth.
Tynnes, fel yn y Mesons,
ar frys fy nhrowsus a ‘nhrôns,
a chamu’n falch mewn i far,
dangos fy nghoesau dengar,
i ddwy hyfryd, yn ddifraw’n
gilt i gyd, yn Gelt go iawn.
“Ych a pych” ebychient,“pwy
ydyw’r hen wr ofnadwy
a di-chwaeth?” “Trendi a chwl
ydwyf,” ceisiais ddywedyd;
ond, am boets, ni ddôi dim byd
o ‘ngheg ond Saesneg, fel Sais.
Fel hyn yr ymgyflwynais:
“I’m a Celt, and my culture
is found in my sporran’s fur.”
“Sglyfath!” “Cym’ fath!” “Yr hen fôr!”
“Sgotyn, ti isio ‘sgutor?”
Methiant fu’r cilt a’i antur.
Yn swil, siomedig a sur,
es at ryw seiciatrydd
a dweud am hanes y dydd.
Rhennais fy ngwefr, a rhannu
y fawr rwystredigaeth fu.
Wedi rhannu, pendronodd
y shrinc, a’i neges a rôdd:
“So weak is your drive for sex;
ampler is your kilt complex.”
“Not complex. Sex,” ddwedais i,
“without trwsus is easy”.
Cyn cau ceg, dyma bregeth
i bawb am chwi wyddoch beth.
Ai cenedl yr eiconau;
yw’r hon ‘rym ni’n ei mawrhau?
Ai tir y sbin-ddoctoriaid
heno yw tir Nain a Taid?
Mor hurt fydd Cymru ei hun
heb yr iaith yn ei brethyn.
Mor rhad yw ein Cymru rydd
a’i chwl yw ei chywilydd,
â'i heip yn ein Llundainhau
yn Saeson heb drwsusau
Gwychder, bobol.