Difyr!
Ond dim byd gyda'r enw Dafydd El arno fo i fi, plis...
Reit - mae'n dechrau ymddangos bod gennon ni ddau ddarpar dadansoddiad yn cwffio yn erbyn ei gilydd - efallai y byddai'n ddefnyddiol i'w rhannu.
Yn gyntaf, iaith fel rhywbeth sydd yn bodoli mewn cymunedau (hynny yw, pwynt pwysicaf Fishman - heb gymuned ('c' bach!), nid oes iaith fyw).
O dderbyn iaith fel ffenomenon cymdeithasol yn ei hanfod, mae'r dadl am oedran yn gliriach - gellid pennu dyddiad cyn bodolaeth yr Afrikaans fel iaith gymunedol, a gellid pennu dyddiad wedi bodolaeth y Gernyweg (e.e.) fel iaith gymunedol.
(Mae un cwestiwn arall yn fan hyn, sef a oes modd i gymunedau o ddiddordebau cymryd lle cymunedau daearyddol - ond dadl arall ydy hynna).
Yr ail ddadansoddiad ydy'r dadansoddiad haniaethol bod Nic yn symud tuag at efo'i gynnig o iaith fel genyn. Wrth gymryd awgrym HRF am eiriau fel genynau, mae'n mynd yn ddiddorol i weld sut mae elfennau o ieithoedd yn byw mewn ieithoedd eraill (ac mae hyn, wrth gwrs, wrth wraidd llawer iawn o waith ymchwil ar ran asesu tarddiad ieithoedd, felly mae ganddo o leia rhywfaint o ddefnydd ymarferol hefyd).
Dw i'n gweld y dadansoddiad haniaethol yn ddifyr iawn ar ran trafodaeth (a dw i'n derbyn bod modd i dealltwriaeth penodol, megis adnadbod cysylltiadau rhwng ieithoedd, codi allan ohono fo) - ond ar ran y math o drafodaeth sydd angen ei gynnal am ieithoedd lleiafrifol, dw i'n meddwl ei fod yn hynod bwysig i ganolbwyntio ar iaith fel mynegiant o gymdeithas.
Pan mae trafodaeth am iaith yn mynd yn rhy haniaethol (fel y cyfryw, wrth gwrs - dim sôn am drafodaeth tafarn/We difyr!), mae'n cyfrannu at hinsawdd lle bod modd hawlio bod brwydr yr iaith Gymraeg drosodd oherwydd codiad mewn niferoedd siaradwyr yn y De-Dwyrain.