Oedran ieithoedd?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oedran ieithoedd?

Postiogan Mr Gasyth » Maw 06 Medi 2005 10:25 am

Ai'r Gymraeg yw'r iaith ynhaf yn ewrop, ynteu'r Fasgeg, y Ffineg, Groeg, neu'r Lladin?

Ar ba linyn mesur mae mesur oed iaith?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Oedran ieithoedd?

Postiogan HenSerenSiwenna » Maw 06 Medi 2005 12:13 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ai'r Gymraeg yw'r iaith ynhaf yn ewrop, ynteu'r Fasgeg, y Ffineg, Groeg, neu'r Lladin?

Ar ba linyn mesur mae mesur oed iaith?


Mae'n ddadleol dwi'n meddwl gan nad oes neb yn siwr o ble ddaeth fasgeg na ffineg, a di groeg ddim fel yr hen groeg (ond tydi cymraeg ddim chwaith fyswn ni yn tybio) a di lladin ddim mewn defnydd ddim chwaneg (eto ddadleol) :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Aran » Maw 06 Medi 2005 8:57 pm

Ww, dw i'n falch iawn i ti bostio hyn, oherwydd roeddwn i isio mynd ar ôl y pwynt hyn yn yr edefyn arall, ond dim isio torri ar draws yr edefyn 'chwaith - felly diolch!

Dw i ddim yn siwr am y busnes 'pob iaith mor hen a'i gilydd' - mae rhywun yn medru dangos pryd cychwynoedd Afrikaans, er enghraifft, a dydy dadlau fod o wedi tyfu allan o'r Isel-Direg ddim yn golygu bod yr Afrikaans yn hŷn - dw i dal i fod yn fy nhridegau (mwy neu lai!) er bod fy nhad biolegol dros ei chwedeg...

Y peth canolog, dw i'n meddwl, ydy bod Basgeg ydy'r unig iaith yn Ewrop sydd ddim yn iaith Indo-Europeaidd (ym - dim yn hollol siwr am iaith Gwlad yr Ia, neu i ba raddau eu bod yn rhan o Ewrop!) - ac mae'n cael ei gredu'n eithaf eang bod gwraidd yr ieithoedd Indo-Europeaidd y tu allan i Ewrop.

Byddai hynny'n gwneud Basgeg yr unig iaith gynhenid yn Ewrop.

Ar y llaw arall, mae'n cael ei gytuno yn eang i'r Gymraeg ffurfio allan o'r Geltaidd yn eithaf sydyn tua'r pedwerydd/pumed canrif - dw i ddim yn gwybod digon am sut yn union, dim ond fod o'n ddigwyddiad wedi'i gyfyngu i Gymru (gan gynnwys yr Hen Ogledd).

Ar un llaw, dw i'n amheus faint o werth sydd i gymharu oedran ieithoedd - dydy'r ffaith bod iaith yn hŷn ddim, yn fy marn i, yn gwneud 'gwerth' un iaith yn fwy nag un arall.

Ond mae'n ddiddorol iawn ar ran hanes, yn enwedig y posiblrwydd bod Basgeg yn cysylltu yn ôl i Oes y Garreg.

A dw i'n meddwl y dylai rhoi stop ar y chwedl eang iawn am fod y Gymraeg yn iaith hynaf Ewrop - mae'n dda i daflu at ambell unigolyn gwrth-Gymraeg sydd ddim yn gwybod dim gwell, ond mae'n agor ni i fyny i gyhuddiadau o fod yn slac am ein ffeithiau!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 07 Medi 2005 12:11 am

Perthyn i fytholeg yn hytrach nag i wyddoniaeth iaith yw'r honiad mae'r Gymraeg yw'r iaith hynaf a leferir yn Ewrop. Mae'n syniad sydd yn perthyn i'r siwdo-hanes mytholegol bod y Brythoniaid wedi cyrraedd Ynys y Cedyrn o Gaerdroea o dan arweiniad Brutus arweinydd un o lwythi colledig Israel.

Gan mae un o lwythi colledig Israel yw teulu Gomer mae'n rhaid bod ein hiaith yn "chwaer iaith i'r iaith ddwyfol" (Hebraeg) ys medd William Salesbury yn ei gyflwyniad i'w geiriadur ym 1550. Yn yr un traddodiad ffug-hanesyddol ceir honiadau mae'r Gymraeg oedd iaith Gardd Eden a'r iaith a siaradwyd gan bawb cyn i ieithoedd y byd cael eu drysu ar adeg cwymp Tŵr Babel ac, wrth gwrs, mae'r Gymraeg yw iaith y Nefoedd.

Os oedd y Gymraeg yn perthyn i'r Hebraeg ac yn cael ei lefaru cyn dyddiau Tŵr Babel, yna mae'n rhaid mae'r Gymraeg yw iaith hynaf Ewrop. Rhaid cofio, wrth gwrs bod mytholeg gwreiddiau'r Iaith Gymraeg yn perthyn i'r cyfnod pan oedd yr Hebraeg yn iaith farw ac yn codi o gymdeithas oedd yn credu mai Ewrop Cristionogol oedd canolfan wareiddiad, felly mae hynaf yn Ewrop a hynaf yn y Byd yn gyfystyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan nicdafis » Mer 07 Medi 2005 9:38 am

Aran a ddywedodd: dw i dal i fod yn fy nhridegau (mwy neu lai!) er bod fy nhad biolegol dros ei chwedeg...


Falle, ond nid person yw iaith.

Mae rhaid cadw mewn meddwl wrth siarad am iaith fel endid, ein bod ni'n defnyddio trosiad wrth sôn am ieithoedd sy'n "byw" a "marw". Byddwn i'n dadlau taw'r cyfwerthedd biolegol i iaith yw'r <b>genyn</b>, nid y person. Ond mae hynny yn syniad sy'n debyg o gael ei gam-ddeall (yn berpasol gan rhai sy'n darllen maes-e ar y funud) felly a' i ddim 'na ar hyn o bryd gan nad oes amser 'da fi ddatblygu'r syniad, ond i ddweud taw meddwl am y Gymraeg - neu unrhyw iaith lleiafrifol - fel genyn enciliol (<i>recessive gene</i>) a'r Saesneg - neu beth bynnag - fel genyn trechol (<i>dominant gene</i>) ydw i.

Rhaid i mi fynd. Damo.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sanddef » Iau 08 Medi 2005 3:48 pm

Basgeg ydy'r unig iaith gynhenid yng Ngorllewin Ewrop -yn ddisgynnydd i iaith wreiddiol ein cyndadau ni yng Nghymru*- , ond mae'n amhosib gwybod pa oedran sydd gan ei ffurf bresennol.
Omniglot a ddywedodd:Basque is a language with no known linguistic relatives spoken by about 660,000 people in Spain and France, mainly in the Basque country (Euskal Herria).

An ancestral form of Basque known as Aquitanian appears in Roman inscriptions in Aquitaine, in the southwest of France. The inscriptions consist of the names of people and gods plus a few other words and were inscribed during the 1st and 2nd centuries AD.

Basque first appeared in writing in Latin religious texts, the Glosas Emilianenses, dating from the 11th century. The first published book in Basque was a collection of poems entitled Linguae Vasconum Primitiae, published by Bernard Detchepare in 1545.


Ymhlith yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, dyma'r hynaf:
Omniglot a ddywedodd:Lithuanian is considered to be the oldest surviving Indo-European language and is thought to have retained some features of Proto-Indo-European (PIE) such as pitch-accent and a complex inflexional case system. Some words in Lithuanian even resemble words in Sanskrit and Latin.


Yn hen -ond heb fod mor hen â'r Gymraeg- ydy'r Islandeg:
Omniglot a ddywedodd:Icelandic is a Northern Germanic language with about 300,000 speakers in Iceland (Ísland), Canada (Kanada) and the USA (Bandaríki Norður-Ameríku). Icelandic is the closest of the Northern Germanic languages to Old Norse and it is possible for Icelandic speakers to read the Old Norse sagas in the original without too much difficulty.

The first permanent settlement in Iceland was established by Vikings for Norway and Celts from the British Isles in 870 AD. The main language of the settlers was Old Norse or the Dansk tunga (Danish tongue).


Mae 'na hefyd yr Ieithoedd Ffino-Ugrig megis Ffineg a Saami. Gellir dadlau mae ieithoedd cynhenid y Llychlyn ydynt, ond does modd gwybod eu hoedran am iddynt beidio ysgrifennu hyd yn gymharol ddiweddar.



*Olion Basg y Gymraeg:
hogei ugain
amona** "y fam fawr" = Môn
ondo yn dda (?)
mendia da mynydd ydy

** ama mam; amona nain; mae'r terfyniad Basgeg -ona yn bresennol yn enwau Celtaidd fel Rigantona "Brenhines Fawr" (Rhiannon heddiw) ac yn enwau Sbaeneg fel Martinon "Martin Mawr"
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Mr Gasyth » Iau 08 Medi 2005 4:05 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Basgeg ydy'r unig iaith gynhenid yng Ngorllewin Ewrop


O ie? felly mae'r Fasgeg wedi bod yma erioed ydi? Dwi'n gwybod mai o'r Dwyrain ddaeth yr Ido-Ewropeaid ond daeth cyn-dadau'r Fasgeg o rywle hefyd mae'n rhaid, heblaw mai yn San Sebastian oedd Gardd Eden (ie dwi'n gwbod, doedd dim gard eden, ond da chi'n dallt be sgen i). Pa mor hir mae'n rhaid i bobl fod yn rhywle cyn yddyn nhw fod yn 'gynhenid'. Nid y Gymraeg yw iaith gynhenid Cymru felly ddim mwy na'r Saesneg, felly dyna lorio un o'r dadleuon mawr dros ei had-fywio.

Cyn belled a mae'r Islandeg a Lithwaneg yn y cwestiwn, rwyt yn dyddio eu geni i pryd fu fawr Indo-Ewropeaidd a Hen Norseg. Ond onid ydi holl ddisginyddion eraill y ieithoedd hyn felly yn dyddio o union yr un cyfnod ac yn union mor hen?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Aran » Iau 08 Medi 2005 8:58 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:O ie? felly mae'r Fasgeg wedi bod yma erioed ydi?


Un posiblrwydd sydd yn cael ei gynnig weithiau am y Basgwyr ydy iddynt fod wedi disgyn o'r Neanderthaliaid...

Sydd yn fy nharo fi yn anhebyg (neu yn amhosibl ei wybod beth bynnag), ond mae'n gwneud y pwynt bod neb yn ymwybodol o gefndir daearyddol gwahanol i'r Basgwyr.

Iaith fel genyn... hmmm... diddorol iawn, ond gydag ambell problem. Yn un peth, mae'n awgrymu bod y iaith leiafrifol yn dal i 'fod yno' rhywsut hyd yn oed os ydy hi'n diflannu - ond mae marwolaeth iaith yn beth eithaf pendant (dim yn hollol, fel mae'r Manaweg a'r Cernyweg yn dangos) - lle ydy'r genyn yn bodoli unwaith bod y siaradwr olaf yn marw?

Ella byddai iaith fel meme (anferth!) yn werth ystyried...

Iawn, dydy iaith ddim yn berson - ond pwrpas trosiad felly ydy i daflu goleuni ar rybweth yn hytrach na'i efelychu'n berffaith. I mi, mae dweud bod unrhyw iaith yr un mor hen a'i rhiant iaith yn datganiad sydd ddim yn dal dŵr.

E.e., cafodd De Affrig ei goloneiddio yn yr ail ganrif ar bymtheg - felly mae'n ymddangos yn eithaf clir na fyddai rhywun ddim yn medru hawlio bod Afrikaans wedi bodoli yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Os fedran ni bwyntio at adeg lle nad oedd iaith yn bodoli, ydy o'n iawn wedyn i ni ddweud bod yr iaith yn hŷn na hynny?

Diolch i HRF, gyda llaw, am gefndir i'r cred gwallus am oedran y Gymraeg - diddorol iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 09 Medi 2005 12:31 am

Llongyfarchiadau Aran. Yr wyt wedi codi cwestiynau mor ddyrys yn dy gyfraniad diwethaf fel dy fod yn haeddu ennill Gwobr Goffa Dafydd Êl am Gymnasteg Feddyliol 2005. :lol:

Rwy'n derbyn rhesymeg dy bwynt am yr Afrikaans. Os nad oedd yn bodoli cyn i'r Isalmaenwyr ymsefydlu yn Ne'r Affrig, nis gellir dweud bod yr iaith yn bodoli cyn hynny. Ond eto gan nad iaith gwneud megis Esperanto yw Afrikaans sut mae pennu pa bryd y daeth yn iaith yn hytrach na thafodiaith o iaith hynafol?

Iaith yn disgyn o'r Isalmaeneg sydd yn cynnwys nifer o eiriau, ymadroddion a syniadau benthyg o ieithoedd brodorol ac ieithoedd y gwladychwyr eraill yw Afrikaans. Mae pob gair yn yr iaith yn hŷn na'r iaith ei hun. Yn wir pe bait am wir dafyddelio (gair Cymraeg newydd sbon danlli), gellir dadlau bod Afrikanns yn hŷn na'r Isalmaeneg gan ei fod yn cynnwys nifer fawr o eiriau Khoisa.

Mae yna rywfaint o wirionedd yn syniad Nic bod iaith megis geneteg. A ellir dweud bod Lladin yn iaith farw tra bod gymaint o filoedd o eiriau Lladin yn cael eu defnyddio pob dydd gan lefarwyr degoedd o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg? Onid ydy genyn Lladin yn fyw o hyd yn ein lleferydd ni?

O dderbyn pwynt Sanddef bod elfennau o iaith cyn Geltaidd brodorion y parthau hyn yn parhau yn y Gymraeg (hyd yn oed olion Neanderthaleg o bosib) onid oes gwirionedd mewn dweud bod y Gymraeg, o leiaf, yn cynnwys genynnau iaith hynaf Ewrop?

Ond eto pen draw'r ddadl yna ydy bod pob iaith mor hen â'i gilydd gan iddynt oll disgyn o Dŵr Babel / rhochian mwncïod. A dadl wirion yw hynny.

Rwyf wedi fy nrysu'n lân! Be di hynafiaeth ieithyddol y term "gai asbirin plîs?" :(
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 09 Medi 2005 1:05 am

Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n gwbod, doedd dim gardd eden


Twt lol botas! Wrth gwrs bod Gardd Eden yn bodoli. Dyma ei leoliad:

Gwir leoliad Paradwys
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron