Oedran ieithoedd?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Gwe 09 Medi 2005 9:27 am

Difyr!

Ond dim byd gyda'r enw Dafydd El arno fo i fi, plis... :winc:

Reit - mae'n dechrau ymddangos bod gennon ni ddau ddarpar dadansoddiad yn cwffio yn erbyn ei gilydd - efallai y byddai'n ddefnyddiol i'w rhannu.

Yn gyntaf, iaith fel rhywbeth sydd yn bodoli mewn cymunedau (hynny yw, pwynt pwysicaf Fishman - heb gymuned ('c' bach!), nid oes iaith fyw).

O dderbyn iaith fel ffenomenon cymdeithasol yn ei hanfod, mae'r dadl am oedran yn gliriach - gellid pennu dyddiad cyn bodolaeth yr Afrikaans fel iaith gymunedol, a gellid pennu dyddiad wedi bodolaeth y Gernyweg (e.e.) fel iaith gymunedol.

(Mae un cwestiwn arall yn fan hyn, sef a oes modd i gymunedau o ddiddordebau cymryd lle cymunedau daearyddol - ond dadl arall ydy hynna).

Yr ail ddadansoddiad ydy'r dadansoddiad haniaethol bod Nic yn symud tuag at efo'i gynnig o iaith fel genyn. Wrth gymryd awgrym HRF am eiriau fel genynau, mae'n mynd yn ddiddorol i weld sut mae elfennau o ieithoedd yn byw mewn ieithoedd eraill (ac mae hyn, wrth gwrs, wrth wraidd llawer iawn o waith ymchwil ar ran asesu tarddiad ieithoedd, felly mae ganddo o leia rhywfaint o ddefnydd ymarferol hefyd).

Dw i'n gweld y dadansoddiad haniaethol yn ddifyr iawn ar ran trafodaeth (a dw i'n derbyn bod modd i dealltwriaeth penodol, megis adnadbod cysylltiadau rhwng ieithoedd, codi allan ohono fo) - ond ar ran y math o drafodaeth sydd angen ei gynnal am ieithoedd lleiafrifol, dw i'n meddwl ei fod yn hynod bwysig i ganolbwyntio ar iaith fel mynegiant o gymdeithas.

Pan mae trafodaeth am iaith yn mynd yn rhy haniaethol (fel y cyfryw, wrth gwrs - dim sôn am drafodaeth tafarn/We difyr!), mae'n cyfrannu at hinsawdd lle bod modd hawlio bod brwydr yr iaith Gymraeg drosodd oherwydd codiad mewn niferoedd siaradwyr yn y De-Dwyrain.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan sanddef » Gwe 09 Medi 2005 10:57 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:Basgeg ydy'r unig iaith gynhenid yng Ngorllewin Ewrop


O ie? felly mae'r Fasgeg wedi bod yma erioed ydi?Dwi'n gwybod mai o'r Dwyrain ddaeth yr Ido-Ewropeaid ond daeth cyn-dadau'r Fasgeg o rywle hefyd mae'n rhaid, heblaw mai yn San Sebastian oedd Gardd Eden (ie dwi'n gwbod, doedd dim gard eden, ond da chi'n dallt be sgen i). Pa mor hir mae'n rhaid i bobl fod yn rhywle cyn yddyn nhw fod yn 'gynhenid'.

Mae DNA y Basgwyr (yr un DNA sydd gan Gymry a Gwyddelod) a dosbarthiad y grwp gwaed rhesus negyddol yn awgrymu mai'r Basgwyr ac ein cyndadau ninnau oedd y bobl gyntaf i wladychu Ewrop, rhyw 12,000 i 17,000 o flynyddoedd yn ol. Yn yr amser hwnnw bu Neanderthalod yn dal i fyw yn Ewrop. Mae iethyddion Gwlad Basg yn credu mai o'r Affrig daeth yr iaith a'i phobl, ac mae hynny'n gyson gyda'u presenoldeb yn Ewrop ar ddiwedd oes yr ia (dim ond Sbaen a glannau Mor y Canoldir oedd yn rhydd o'r ia pryd hynny).
Gweler

Nid y Gymraeg yw iaith gynhenid Cymru felly ddim mwy na'r Saesneg, felly dyna lorio un o'r dadleuon mawr dros ei had-fywio.
Mae'n fwy gynhenid na'r Saesneg am iddi fod yn iaith inni, gwerin gynhenid Cymru.

Cyn belled a mae'r Islandeg a Lithwaneg yn y cwestiwn, rwyt yn dyddio eu geni i pryd fu fawr Indo-Ewropeaidd a Hen Norseg. Ond onid ydi holl ddisginyddion eraill y ieithoedd hyn felly yn dyddio o union yr un cyfnod ac yn union mor hen?

Wyt ti'n deall yr Hen Frythoneg? Nag wyt, felly nid yr Hen Frythoneg ydy Cymraeg. Wyt ti'n deall gwaith Dafydd ap Gwilym? Do, felly yr un iaith ydy. Dyna sut mae dyddio oedran iaith.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan sanddef » Gwe 09 Medi 2005 11:23 am

Aran a ddywedodd:Un posiblrwydd sydd yn cael ei gynnig weithiau am y Basgwyr ydy iddynt fod wedi disgyn o'r Neanderthaliaid....


Wedi clywed hynny o'r blaen. Ond mae 'na wallau yn yr erthygl 'ma. Mae'r antigen rhesus negyddol wedi cael ei ddyddio i 15,000 c.c. Mae'n gweithio fel math o "species breeding barrier", sydd yn gefnogol i syniad mae o'r Neanderthalod y daeth trwy broses o "hybridisation" ac mae'n gyson gyda dyddiad y cyfarfod rhwng dyn Cro-Magnon a'r Neanderthalod (15,000 c.c), ond mae Homo Sapiens -fel pob "primate" arall- yn rhesus bositif. Mae'r erthygl yma'n honni mai rhesus negyddol ydy'r grwp gwreiddiol, sy'n hollol anghywir ac yn tanseilio'r erthygl.
Felly dw'i'm yn credu i wyddonwyr ddarganfod cysylltiadau DNA rhwng dynion a Neanderthalod fel mae'r erthygl yn honni. Yn ol chwiliad trwy bapurau gwyddonol a nes i yn 2004, methodd gwyddonwyr darganfod unrhyw gysylltiadau o gwbl.

Gwnaeth ymbelydredd achosi i waed un ddynes newid o fod yn bositif i fod yn negyddol, felly mae'n bosib mai ymbelydredd (o wrthdrawiad asteroid?) ydy gwraidd gwaed negyddol.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Aran » Gwe 09 Medi 2005 1:35 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Ond mae 'na wallau yn yr erthygl 'ma.


Un pwynt bach, Mr Cadeirydd... :winc:

Wnes i ddim lincio i erthygl penodol, 'mond i dudalen Google i ddangos faint o drafodaeth felly roedd ar gael.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 09 Medi 2005 6:07 pm

Aran a ddywedodd:
Dw i'n gweld y dadansoddiad haniaethol yn ddifyr iawn ar ran trafodaeth (a dw i'n derbyn bod modd i dealltwriaeth penodol, megis adnadbod cysylltiadau rhwng ieithoedd, codi allan ohono fo) - ond ar ran y math o drafodaeth sydd angen ei gynnal am ieithoedd lleiafrifol, dw i'n meddwl ei fod yn hynod bwysig i ganolbwyntio ar iaith fel mynegiant o gymdeithas.

Pan mae trafodaeth am iaith yn mynd yn rhy haniaethol (fel y cyfryw, wrth gwrs - dim sôn am drafodaeth tafarn/We difyr!), mae'n cyfrannu at hinsawdd lle bod modd hawlio bod brwydr yr iaith Gymraeg drosodd oherwydd codiad mewn niferoedd siaradwyr yn y De-Dwyrain.


Mae meddwl am iaith yn haniaethol fel hyn yn gallu bod o gymorth i drafod dyfodol yr iaith yn ogystal â'i gorffennol.

Mae rhai eisoes yn defnyddio cnewyllyn y syniad o enynnau ieithyddol i hyrwyddo'r ddadl dros berchnogaeth yr iaith i'r Genedl gyfan ac nid yn unig i'w siaradwyr. Clywir yn aml gyfeiriadau at yr elfen Gymraeg yn Wenglish, a dadleuon bod pawb yng Nghymru yn ddeall rhywfaint o'r iaith gan eu bod yn adnabod pethau megis arwyddion cyffredin Ysgol, Dynion ac ati ac elfennau cyffredin mewn enwau lleoedd Llan, Pont ac ati. Y ddadl yw, gan fod y genyn Cymraeg yn rhan o wneuthuriad y Cymro di-gymraeg yn ogystal â'r Cymro Cymraeg, mae gan y ddi-gymraeg hefyd cyfrifoldeb dros fuddiannau’r iaith.

Gellir gweld yr haniaeth yn chware rhan yn nadl Cylch yr Iaith hefyd. Ble mae'r ffin rhwng defnydd o'r Saesneg mewn rhaglen Cymraeg / rhaglen ddwyieithog / defnydd o'r Gymraeg mewn rhaglen Saesneg? A oes gymaint o DNA Saesneg mewn brawddeg megis: Dwi'n licio strawberries a cream i bwdin; nad oes werth iddi o gwbl fel brawddeg Cymraeg?

Llawer mwy diddorol bydda astudiaeth i geisio gweld faint o ddysgwyr gall iaith cymhathu cyn bod eu genynnau ieithyddol cynhenid yn cael effaith barhaol ar yr iaith sy'n cael ei ddysgu? Rwy'n gweld bod Bwrdd yr Iaith a Tesco yn gyd ymgyrchu ar hyn o bryd i gael miloedd o bobl newydd i ddysgu’r Gymraeg. Pe bai'r ymgyrch yma, trwy lwc mul, yn llwyddo, a fydda berygl iddi niweidio'r iaith yn hytrach na'i gynorthwyo? Mae tafodiaith newydd Cymraeg ysgolion ddwyieithog y cymoedd, yn awgrymu bod gormodedd o ddysgwyr eisoes yn newid yr iaith, yn niweidio'r iaith yn ôl rhai.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 09 Medi 2005 9:54 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Llawer mwy diddorol bydda astudiaeth i geisio gweld faint o ddysgwyr gall iaith cymhathu cyn bod eu genynnau ieithyddol cynhenid yn cael effaith barhaol ar yr iaith sy'n cael ei ddysgu? Rwy'n gweld bod Bwrdd yr Iaith a Tesco yn gyd ymgyrchu ar hyn o bryd i gael miloedd o bobl newydd i ddysgu’r Gymraeg. Pe bai'r ymgyrch yma, trwy lwc mul, yn llwyddo, a fydda berygl iddi niweidio'r iaith yn hytrach na'i gynorthwyo? Mae tafodiaith newydd Cymraeg ysgolion ddwyieithog y cymoedd, yn awgrymu bod gormodedd o ddysgwyr eisoes yn newid yr iaith, yn niweidio'r iaith yn ôl rhai.


O be wela i mae gennym ni ddewis:
1) Cadw'r Gymraeg yn 'bur' a'i chladdu'n ddi-lychwyn
2) Derbyn fod nifer cynyddol yn o siaradwyr ail-iath yn golygu newd mawr yn yr iaith, ond y bydd yn byw

Un o'r rhesymau fod gan y Gymraeg (a'r ieithoedd Celtaidd eraill) gynifer o nodweddion anarferol ac anodd eu dysgu, megis treiglo, y sain 'll', arddodiadau sy'n rhedeg ac ati ydi na fuont erioed yn ieithoedd sydd wedi gorfod cael eu dysgu gan lawer o bobl fel ail iaith. Pan fo iaith yn ail iaith i lawer mae'n anorfod fod rhai o'r nodweddion mwy anarferol yn diflannu. Mae'n fy synny gymaint o 'garedigion' honedig yr iaith sydd yn well ganddynt glywed rhywyn yn siarad Saesneg nac yn siarad Cymraeg heb dreiglo - mae'r agwed hon yn berygl gwirionedol i ddyfodol yr iaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai