Tiwtoriaid Cymraeg - tymor newydd

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tiwtoriaid Cymraeg - tymor newydd

Postiogan pads » Iau 15 Medi 2005 2:30 pm

Mae'n dymor newydd i ddosbarthiadau nos.

Unrhywun arall ar y Maes yn dechrau (neu barhau) fel tiwtor yn dysgu Cymraeg i oedolion?

Mae fy nosbarth i yn dechrau wythnos nesa yng Nghroesyceiliog, Cwmbran. Bydda i'n gweithio o gwrslyfr newydd CBAC, "Mynediad".

Rwy wedi gwneud hyn o'r blaen (8 mlynedd yn ôl) ac rwy wedi cael ychydig bach o hyfforddiant wrth Goleg Gwent, ond fi'n cachu brics!
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Iau 15 Medi 2005 4:11 pm

Pob lwc, jibias i allan (fel arfer :wps: )

Cofia hyrwyddo blog Dysgwyr De Ddwyrain.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Iau 15 Medi 2005 4:12 pm

Bydda i'n dechrau wythnos i ddydd Llun. Dau grwp Pellach ac un Wlpan newydd. Edrych ymlaen yn arw. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron