Cwestiwn jiawledeg o od, ond...
Mae ffrind yn priodi o fewn pythefnos lan yn Swydd Efrog (nos cyn gem Cymru-Seland Newydd ). Mae'r gwas priodas (h.y. y "best man") yn bwriadu dweud cwpwl o eiriau yn y Gymraeg, gan gynnwys y llwnc-destun i'r priodfab a'r priodferch ar ddiwedd ei araith. Mae e wedi dysgu cryn dipyn o Gymraeg, ond dyw e ddim yn gwbwl cyffyrddus eto. Felly, oes unrhywun yn gwybod am lwnc-destunau Cymraeg traddodiadol a/neu arferol y gallaf i basio iddo fe?
Diolch am unrhyw gyngor.