Llwnc-destun priodas

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llwnc-destun priodas

Postiogan Mabjona » Maw 25 Hyd 2005 2:08 pm

Cwestiwn jiawledeg o od, ond...

Mae ffrind yn priodi o fewn pythefnos lan yn Swydd Efrog (nos cyn gem Cymru-Seland Newydd :rolio: ). Mae'r gwas priodas (h.y. y "best man") yn bwriadu dweud cwpwl o eiriau yn y Gymraeg, gan gynnwys y llwnc-destun i'r priodfab a'r priodferch ar ddiwedd ei araith. Mae e wedi dysgu cryn dipyn o Gymraeg, ond dyw e ddim yn gwbwl cyffyrddus eto. Felly, oes unrhywun yn gwybod am lwnc-destunau Cymraeg traddodiadol a/neu arferol y gallaf i basio iddo fe?

Diolch am unrhyw gyngor.
Mabjona
 

Postiogan Emrys Weil » Maw 25 Hyd 2005 2:20 pm

Dwi'n hoffi "Priodas dda a hir oes"
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 25 Hyd 2005 2:27 pm

Cwpwl o ddiarhebion i ti....wastad yn handi... :?

Nid tegwch heb wragedd.....can gan Bob Marley wrth gwrs

Neu...

Heb wraig, heb ymryson :lol:

Rhaid cariad yw cerydd :lol: (na, sai'n hybu clatcho'r wraig :winc: ) ond...

Hardd ar ferch bod yn ddistaw :lol: :winc:

Celf orau yn y ty; gwraig dda :lol:

Neu...rho warnings i'r ddarpar wraig....

Darllenwch ddynion yn gystal a^ llyfrau

neu rho hyder iddi...

Cais ffrwyn gref i farch gwyllt :lol:

Neu dwed y gwir 'an -

Ffo^l pawb ar brydiau :winc:

Ffacin diarhebion yn ffacin biwt
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan khmer hun » Maw 25 Hyd 2005 2:45 pm

Falle se fe'n syniad da iddo fe fuddsoddi'n y casgliad bach 'ma a dethol ryw gwpled bach rhamantus neu ddau sy'n gweddu'r ddeuddyn hapus.

Oooo, neis.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai